Yn Rownd Gynderfynol Cwpan yr Uwch Gynghrair – bydd Llanymddyfri – sy’n arwain Uwch Gynghrair Indigo eleni’n herio Glyn Ebwy ar Faes y Talbot Athletic yn Aberafan am 2.30pm.
Ar Faes y Bragdy ym Mhenybont (2.30pm) y bydd y Rownd Gynderfynol arall wrth i Ferthyr wynebu Abertawe. Caerdydd enillodd y gystadleuaeth y tymor diwethaf wrth drechu Casnewydd o drwch blewyn ond does ‘run o’r ddau dîm hwnnw wedi cyrraedd y pedwar olaf eleni.
Efelychu camp Trecelyn wrth godi Cwpan yr Adran Gyntaf yw nod Llanfair ym Muallt, Crwydriaid Llanelli, Glyn Nedd ac Aberpennar. Bydd y Teirw yn herio’r Crwydriaid yn y Coed Duon ddydd Sadwrn am 2.30 – tra bydd bechyn Cwm Nedd yn herio bois Cwm Cynon yn Abercwmboi yr un pryd.
O safbwynt Rownd gynderfynol y Bedwaredd Adran – Llanilltud Fawr a chlwb Tonna fydd yn mynd ben ben ar faes Porthcawl, tra bydd Panteg Newydd a Saraseniaid Casnewydd yn wynebu ei gilydd ar faes Clwb Rygbi Nelson.
Yng nghystadleuaeth y Bumed Adran, Cwmtwrch a Dinas Powys fydd yn mynd amdani ar faes Cwmafan – tra yn Y Drenewydd y bydd y rownd gynderfynol rhwng Blaendulais a Rhuthun.
Ddydd Sadwrn hefyd bydd pedwar o glybiau eraill yn ceisio cyrraedd pedwar olaf Cwpan y Drydedd Adran. Bydd Talacharn yn croesawu Bryncethin a thaith i’r Tyllgoed sy’n wynebu Cwmafan.