Dri mis ynghynt – daeth y garfan o alluoedd gwahanol at ei gilydd i ddysgu fformat newydd y gamp – sydd wedi ei symleiddio er mwyn ei wneud yn agored i bawb.
Uchafbwynt taith y garfan gyda’i gilydd oedd herio tîm o Loegr yn Maharc Old Deer yn Llundain – sef cartref Y Cymry yn Llundain wrth gwrs.
Mae aelodau’r garfan eu hunain – sydd wedi wynebu heriau personol dros y blynyddoedd – cyn ail-gysylltu â rygbi – wedi gweld gwerth mawr wrth gymryd rhan yn y gyfres.
Dywedodd Siân o Sir y Fflint: “Mae pawb wedi dod at ei gilydd dros y tri mis diwethaf. Mae’r gêm yma i bawb a dyna beth sy’n bwysig.”
Ychwanegodd Lucy o Bontypridd: “Ry’n ni’n dod o wahanol rannau o Gymru – ond ry’n ni gyd fel teulu erbyn hyn. Mae wedi bod yn brofiad fydda’i byth yn ei anghofio.”

Scott Quinnell a’r garfan ym Mharc Old Deer.
Bu cyn gapten Cymru, Siwan Lillicrap yn cynorthwyo Scott Quinnell gyda’r dyletswyddau hyfforddi ac fe gadarnhaodd hi bod y tri mis diwethaf wedi bod yn daith emosiynol i’r tîm hyfforddi yn ogystal â’r garfan: “Maen nhw wedi gweithio mor galed ar y cae – ond yn fwy na dim maen nhw wedi creu argraff fawr ar fy mywyd i dros y tri mis diwethaf.”
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John – oedd yn bresennol yn y gêm yn Llundain: “Mae’r garfan hon yn brawf bod T1 yn gêm syml a chyffrous – gêm sydd ar gael i bawb. Bydd y fformat yma o’r gamp yn sicr o dyfu a phrofi’n boblogaidd iawn yn y dyfodol.”
Ond y Prif Hyfforddwr Scott Quinnell sy’n cael y gair olaf wrth i bennod ola’r gyfres gael ei darlledu: “Gobeithio bod pawb sydd wedi cymryd rhan yn y gyfres yn mynd i fod yn bositif ym mhob agwedd arall o’u bywydau wedi hyn. Fel hyfforddwr, ‘rwy’n hynod o falch o bob un ohonyn nhw – ac fe ddylai pawb yng Nghymru fod yn falch o garfan Stryd i’r Sgrym 2024 hefyd.”
Stryd i’r Sgrym – S4C 9.00pm Nos Fawrth y 5ed o Fawrth 2024.