Yng ngêm gyntaf y dydd ar bumed diwrnod gŵyl y Ffordd i’r Principality, Teigrod Cwm Taf enillodd y Plat i Hybiau o dan 16 – wrth guro Cwins Caerdydd o 22-21 mewn modd hynod ddramatig.
Grace Fuller oedd arwres y Teigrod wrth i’w throsiad o gais hwyr Elen Morris daro’r trawst cyn disgyn ar ochr gywir y pren o safbwynt y Teigrod – a hawlio’t Plat i’w thîm.
Dyna oedd y tro cyntaf i ferched y Gorllewin fod ar y blaen trwy gydol yr ornest ac fe lwyddon nhw i gadw’r blaidd o’r drws am bedwar munud ola’r gêm.
Seren y Gêm oedd canolwr y Cwins Sienna McCormack – a hi groesodd am gais cynta’r ornest – ond pendiliodd y gêm yn gyson wrth i Rhianwedd Green hawlio cais cyntaf Cwm Taf. Anwen Ropke ail-gipiodd y fantais i dîm y Brifddinas cyn i wythwr amlwg y Teigrod, Sophie Lewis dirio ail gais ei thîm cyn troi.
Cais cosb oedd sgôr cynta’r ail hanner olygodd bod y Cwins ar y blaen o 21-10 – ond yn dilyn ceisiau’r eilydd Sabrina Semaani ac ymdrech hwyr Elen Morris, ‘roedd y llwyfan wedi’i osod i Grace Fuller gipio’r Plat o dan drwynau’r Cwins – gydag ychydig o gymorth gan y trawst.
Cafodd Cwins Caerdydd well hwyl ar bethau yn Ffeinal Cwpan yr Hybiau o dan 16 wrth iddyn nhw guro’r Chargers o 31-0 yng ngêm nesaf yr ŵyl.
Gosodwyd llwyfan gadarn i’r fuddugoliaeth yn ystod yr hanner cyntaf o ganlyniad i geisiau’r bachwr Mali Hill, y canolwr Faith Hyrcia-Kempster a’r capten Eden Skuse.
Er na chroesodd Taufa Tuipulotu am sgôr yn ystod yr ornest, ‘roedd ei pherfformaid yn ddigon i gynnig ysbrydoliaeth i’w chwaer Sisilia oedd yn dechrau i Gymru’n ddiweddarach y prynhawn hwnnw.
Parhau i arwain drwy esiampl wnaeth Skuse wedi troi, gan iddi dirio ei hail gais o’r prynhawn – a gyda symudiad olaf yr ornest hawliodd Ffion Lewis bumed cais ei thîm i gau pen y mwdwl ar eu buddugoliaeth.
Rownd Derfynol Plat y Merched o dan 18 oedd trydedd gêm y prynhawn a Timberwolves Teifi enillodd yr ornest yn erbyn yr Ynyswyr (Islanders) o’r Barri o 39-10.
Y merched o’r Gorllewin reolodd y cyfnod cyntaf gan sgorio 5 cais – dau o’r rheiny i Lilly May Welsby a Kath Winder ac un gan Siwan Jones. Gan i Mace Phillips groesi i’r Ynyswyr ‘roedd hi’n 29-5 ar yr egwyl.
‘Roedd hi’n dipyn mwy cyfartal wedi troi a chaewyd y bwlch wrth i Riley Stranger groesi cyn i Jane Davies ail-sefydlu mantais y Timberwolves gyda rhediad campus yn ystod y munudau olaf.
Yng ngornest olaf diwrnod llawn gemau a chyffro o safbwynt rygbi Merched, fe gipiodd y cyfuniad o Sêr Môn /Ceirw Nant Gwpan y Merched wedi iddyn nhw drechu Gwylliaid Meirionydd / Cigfrain Rhuthun (Ravens) o 33-12.
Dechreuodd Sêr Môn/Ceirw Nant yr hanner cyntaf yn gryf gyda’r maswr Saran Griffiths yn sgorio cais cynta’r noson o dan y pyst. Parhaodd y tîm, sy’n gyfuniad o dimau o Llangefni a Llanrwst i reoli gweddill yr hanner a thiriwyd tri chais pellach cyn troi. Hawliodd Seren y Gêm (Go.Compare) Poppy Hughes un o’r rheiny a Cadi Glyn Edwards a Grug Owen diriodd y ddau arall.
Croesodd Becca Roberts am gais i’r Gwylliaid a’r Cigfrain cyn troi – olygodd mai 28-5 oedd y sgôr ar yr egwyl.
Yn ystod yr ail hanner hawliodd Saran Griffiths ei hail gais o’r noson i sicrhau’r Cwpan i’w thîm a chais cysur o’r herwydd oedd ymdrech Cara Jones tuag at ddiwedd y gêm.
Diwrnod o ddathlu rygbi Merched o gymunedau ledled y wlad a diwrnod bythgofiadwy i’r holl chwaraewyr wrth iddynt gael y cyfle i ddangos eu doniau yng nghartref Rygbi Cymru.