O fewn cyfnod o lai na thair wythnos mae 34 o rowndiau terfynol wedi eu cynnal yn Stadiwm Principality sydd wedi cynnig cyfleoedd a chreu atgofion oes i gannoedd o chwaraewyr a miloedd lawer o gefnogwyr.
Dydd Sul Ebrill 7fed
Llanymddyfri enillodd Gwpan yr Uwch Gynghrair o 20-18 mewn gêm glos iawn yn erbyn Merthyr.
Sgoriodd y ddau dîm ddau gais yr un – y bachwr Taylor Davies yn croesi ddwywaith i’r Porthmyn a Cole Swannack a Lloyd Rowlands yn sgorio ceisiau o ddyfnder i fechgyn y Wern. Yn y pendraw 10 pwynt o droed y maswr Ioan Hughes oedd y gwahaniaeth rhwng y timau wrth i Lanymddyfri ennill y Cwpan am y trydydd tro yn eu hanes ac am y tro cyntaf ers 2017.
Yn dilyn y chwiban olaf dywedodd Seren y Gêm, Stuart Worrall: “‘Rwyf wedi bod gyda’r clwb am wyth tymor erbyn hyn ac ‘rwy’n gwybod bod ennill y Cwpan yn golygu llawer iawn i’r gymuned. Gydag ychydig o lwc – fe all y tîm ennill y dwbl i’r gymuned mewn ychydig o wythnosau.”
Enillodd Y Bargôd Gwpan y Bencampwriaeth wrth drechu Ystrad Rhondda’n gyfforddus o 65-12.
Yr asgellwr 33 oed Ashley Norton oedd seren yr ornest wrth iddo sgorio 4 cais cofiadwy.
Dywedodd Norton: “Rwyf wrth fy modd. Dyma ddiwrnod gorau fy ngyrfa. Pwy fyddai wedi meddwl y basen i’n sgorio 4 cais yn Stadiwm Principality. Byddaf yn trysori atgofion heddiw am byth.”
‘Roedd Y Bargôd ar y blaen o 34-7 wrth droi ac ‘roedd Callum Hones a Jordan Howells wedi ychwanegu ceisiau at ddau cyntaf Norton. Rhys Prosser a Jordan Howells hawliodd ddau gais arall eu tîm gan ychwanegu at ddwy sgôr ail hanner Norton.
Alex Webber diriodd unig gais Ystrad Rhondda – gollodd yn erbyn Pont-y-pŵl yn y Ffeinal y llynedd hefyd. ‘Roedd y gêm wedi hen lithro o afael bechgyn y Rhondda erbyn i’r cefnwr Dylan Williams weld cerdyn coch am dacl beryglus.
Cwydriaid Llanelli gododd Gwpan Adran Gyntaf Admiral yn Stadiwm Principality mewn rownd derfynol agos arall yn erbyn Glyn-nedd.
Cic gosb hwyr Nick Gale gipiodd y fuddugoliaeth o 22-19 i’r Crwydriaid – sy’n cael eu hyfforddi gan Gale ei hun a’i dad Sean. Steffan Jenkins groesodd am eu hunig gais tra i Gale gicio 17 o bwyntiau. Josh Morris diriodd unig gais Glyn-nedd ond doedd cyfanswm Dylan Francis o 14 pwynt gyda’i droed ddim yn ddigon yn y pendraw.
Wedi’r chwiban olaf dywedodd Nick Gale: “Rwy’n falch iawn bod gwaith caled y bois wedi cynnig y cyfle hwyr i mi ennill y gêm. Er fy mod wedi cicio’n reit gywir drwy’r prynhawn. ‘ro’n i’n falch iawn gweld y gic olaf yn hedfan drwy’r pyst.”
Sadwrn – Ebrill 6ed
Mae’r freuddwyd o gyfalwni’r trebl yn dal yn fyw i Lanharan wrth iddyn nhw ennill Cwpan Ail Adran Admiral o 44-3 yn erbyn Porthcawl – sy’n cael eu hyfforddi gan ddau gyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Ryan Bevington a Tom Prydie.
O dan arweiniad Scott Jones fe sgoriodd Llanharan chwe chais trwy Jack Brooks, Jack Walker, Joe Davies (x2), Leon Burton a chwip o gais o 80 metr, goronwyd gan Ieuan Evans.
Ennill coron cynghrair Ail Adran Ddwyreiniol y Rhanbarth Ganol a’r Bowlen Arian yw nod Llanharan cyn ddiwedd y tymor.
Ar ddiwedd y gêm, fe dalodd y capten Scott Jones deyrnged i’w hyfforddwr Gareth Nicholas:”Mae’r gwaith a’r gwahaniaeth y mae Gareth wedi ei wneud yn haeddu clod. ‘Dy’n ni heb golli yn y cynghrair eleni ac ‘ry’n ni wedi ennill y Cwpan hefyd.”
Cwins Caerdydd hawliodd Gwpan Trydedd Adran Admiral o drwch blewyn yn erbyn Y Blaenau o 24-21.
Er i fechgyn Gwent sgorio tri chais o’u cymharu â dau y Cwins, bechgyn y Brifddinas aeth â hi o ganlyniad i gicio cywir Jay Price (14 pwynt) ac ychydig o naïfrwydd gan fois Gwent.
Ellis Jones a Tomi Owens groesodd dros y Cwins tra i Michael John (x2) ac Ellis Evans dirio dros Y Blaenau.
Fe gafodd y maswr profiadol Dai Langdon gyfle i ennill y Cwpan i’r tîm o Went gyda chic gosb hwyr. Er mai ei gwneud hi’n gyfartal o ran sgôr fyddai’r gic – byddai’r Blaenau wedi codi’r Cwpan gan eu bod wedi sgorio mwy o geisiau na’r Cwins. Mynd am y lein a’r sgarmes symudol oedd penderfyniad Langdon – ond methiant fu eu hymdrechion i sicrhau’r cais ac felly diwrnod y Cwins oedd hi fod.
Dywedodd Jay Price Capten Cwins Caerdydd:” Doedd neb wedi rhoi llawer o obaith i ni cyn y gêm – ond mae ennill y Cwpan yn gam mawr ymlaen i ni yn natblygiad ein carfan ifanc.”
Wedi i Saraseniaid Casnewydd ennill Cwpan Pedwaredd Adran Admiral, cyflwynwyd eu buddugoliaeth i’w cyd-chwaraewr Dale Tucker, fu farw’n gynharach eleni.
Dim ond o 24-23 y llwyddodd y Saraseniaid i guro Tonna mewn gêm o 7 saith cais a gornest welodd y flaenoriaeth yn newid 5 o weithiau hefyd.
Er i fechgyn Gwent groesi am bedwar cais (Liam Foley, Adam Davies, Kirk Lewis a James Raymond) o gymharu â thri chais Tonna (Josh Ebbitt, Josh Hughes a Gavin Richards) fe gafodd y tîm o Gwm Nedd y cyfle i ennill y gêm yn hwyr.
Yn dilyn cais Richards – taro’r postyn wnaeth trosiad Nicky Fisher – a dyna oedd y gwahaniaeth rhng cipio’r Cwpan a’i weld yn teithio i lawr yr M4 i Gasnewydd.
Dywedodd John Laveneder, Capten Saraseniad Casnewydd; “Chwarae teg i Tonna, ‘roedd yn rhaid i ni fynd y filltir ychwanegol dro ar ôl tro er mwyn eu curo.
“Mae ennill y Cwpan yn golygu llawer iawn i ni wedi i ni golli Dale. ‘Roedd fel brawd i ni ers blynyddoedd ac mae’r fuddugoliaeth yma iddo fe.”
Cyn fewnwr Cymru Tavis Knoyle oedd Seren y Gêm wrth i Flaendulais guro Dinas Powys o 27-15 i godi Cwpan Pumed Adran Admiral.
Enillodd Knoyle y cyntaf o’i 11 cap yn Stadiwm Principality yn erbyn Ariannin 13 blynedd yn ôl. Curwyd yr Archentwyr bryd hynny o 28-13 gyda Knoyle yn cael ei ddewis fel chwaraewr gorau’r gêm.
Wrth ddychwelyd i Stadiwm Principality, fe ddechreuodd yr ornest yn safle’r mewnwr – cyn gorffen ei waith am y dydd fel wythwr.
Y Capten Kyle Davies, Jordan McKay a chais cosb gyfrannodd 17 o bwyntiau Blaendulais gyda throed Antony Llewellyn yn gyfrifol am weddill pwyntiau ei dîm.
Rhys Jones a Tom Stout groesodd dros Ddinas Powys gyda chic yr un gan Cian Anderson a Ben White yn cwblhau sgorio bechgyn Bro Morgannwg.
Wedi’r chwiban olaf dywedodd Kyle Davies, Capten Blaendulais ar achlysur ei 356fed ymddangosiad dros ei glwb: “Fi wedi aros deunaw mlynedd am heddiw. Mae’r diwrnod wedi bod yn ychydig o ‘blur’. Fi ddim yn cofio mynd ar y bws y bore ‘ma – ond mae’r cefnogwyr wedi bod yn wych drwy’r dydd. Mae chwarae yn y Stadiwm yn brofiad gwych – ac mae ennill y Cwpan hyd yn oed yn well.”