Fe ymunodd Clwb Caerdydd â’r broses o ymgeisio’n dilyn y rownd gyntaf – welodd naw o glybiau’n derbyn y drwydded i gystadlu ym mhrif gynghrair newydd rygbi Cymru.
Y clybiau fydd felly’n cystadlu yn y Cynghrair Domestig Elît newydd yn nhymor 2024/25 fydd Rygbi Gogledd Cymru, Abertawe, Penybont, Llanymddyfri, Caerdydd, Glyn Ebwy, Cwins Caerfyrddin, Casnewydd, Aberafan a Phont-y-pŵl.
Yn dilyn proses drylwyr o wneud cais am y drwydded – Caerdydd gyflwynodd y cais cryfaf. Ymgeisiodd Clwb Rygbi Castell Nedd am yr eildro.
Fe sgoriodd Caerdydd yn gryf mewn nifer o agweddau o’u cais, gan gynnwys eu perthynas gefnogol gyda rhanbarth Rygbi Caerdydd. Felly hefyd eu cynllun rygbi a’u llwyddiant wrth ddatblygu chwaraewyr ifanc i’r rhanbarth a’r llwyfan rhyngwladol. Ystyriwyd hefyd faint a phoblogaeth eu cymuned a’u dalgylch lleol yn ogystal â’u lleoliad daearyddol.
Dywedodd Nigel Walker, Cyfarwyddwr Perfformiad Rygbi, Undeb Rygbi Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i Gaerdydd am safon eu cais – oedd gyda’r gorau trwy gydol y broses drwyddedu hon.
“Rydym bellach wedi cymeradwyo deg o drwyddedau a gallwn edrych ymlaen at gystadleuaeth fydd yn pontio’r bwlch rhwng ein gêm gymunedol a rygbi elît yma yng Nghymru.
“Bydd hyn hefyd – heb os – o gymorth mawr gyda’n llwybr datblygu talent.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bob clwb â wnaeth gais am drwydded i ymuno gyda’r cynghrair newydd hwn. Er bod ail ymgais Castell Nedd wedi ei gryfhau, yn anffodus nid oedd yn ddigon cryf i sgorio digon o bwyntiau i gael ei ystyried ar gyfer trwydded.
“Rydym yn arbennig o ymwybodol y bydd y newyddion hwn yn anodd i’w dderbyn i bawb sy’n ymwneud â Chlwb Rygbi Castell Nedd. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â chlwb y Gnoll am eu hangerdd a’u hymdrechion yn ystod y broses hon.
“Bydd y clwb yn gymwys i dderbyn taliad am ymuno gyda’r Bencampwriaeth y tymor nesaf a bydd modd ystyried dyrchafiad i’r Cynghrair Domestig Elît i’r clybiau ymhen tair blynedd.”
Panel o arbenigwyr wnaeth y penderfyniad am y drwydded – gan gynnwys dau aelod annibynnol. ‘Roedd gofyn i’r clybiau gyflwyno – Cynlluniau Busnes, Cynlluniau Perfformio a data allweddol arall.
Gosodwyd pump o brif feini prawf yn ystod y broses: Gweinyddiaeth,Diwydrwydd Dyladwy, Datblygu Rygbi, Potensial Twf, Pwyntiau Unigryw am y Clwb a Diddordeb y Cyhoedd.
Bydd y trwyddedau yn ddilys am gyfnod cychwynol o dair blynedd a’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol fydd yn gyfrifol am lywodraethiant y cynghrair newydd. Bydd trefn y tymor yn cydfynd gyda’r tymor proffesiynol gyda chlybiau’n cael eu partneru’n ffurfiol gyda rhanbarthau penodol.
Fel rhan o’r broses drwyddedu, bydd y clybiau llwyddiannus yn derbyn buddsoddiad ychwanegol gan Undeb Rygbi Cymru ond bydd angen iddynt weithio o fewn trefn uchafswm taliadau gan hefyd wireddu a gweithredu disgwyliadau gweinyddol y gystadleuaeth.
Dywedodd Huw Bevan, Pennaeth Perfformiad Undeb Rygbi Cymru: “Bydd y cynghrair newydd yma’n cyd-fynd gyda’n llwybr datblygu ar gyfer ein dynion ond bydd hefyd yn cynnig ffenest siop i’n clybiau traddodiadol – gan barchu a gwerthfawrogi’r traddodiad gwerthfawr hwnnw.
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i rygbi Cymru ac mae’n allweddol ein bod wedi gosod sylfeini cadarn a chywir er mwyn i ni wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y gêm broffesiynol yma yn ein gwlad.
“Bydd y cynghrair yn sicrhau mwy o gydweithio rhwng y gêm rhannol-broffesiynol a’r gamp ar y lefel uchaf yma yng Nghymru a bydd yn allweddol wrth gefnogi’r broses o ddatblygu ein doniau ifanc ar gyfer y dyfodol.
“Rydym eisoes wedi dechrau cydweithio gyda’r clybiau hynny sydd wedi llwyddo derbyn y drwydded ac ‘rydym yn edrych ymlaen yn awchus at weld y cynghrair yn dechrau ac yna’n datblygu yn unol â’n gweledigaeth bod hyn yn wawr newydd i Rygbi Cymru.
“Rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiadau pellach am y gystadleuaeth newydd, unwaith i dymor Uwch Gynghrair Indigo ddod i ben fis nesaf.”