Neidio i'r prif gynnwys

URC yn ennill dwy wobr bwysig am waith Cymunedol ac Arloesol

URC yn ennill dwy wobr bwysig am waith Cymunedol ac Arloesol

10.08.22 - Digwyddiad Heini, Hwyl a Hansh yng nghlwb rygbi Penfro.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cipio dwy wobr yn ddiweddar gan Gymdeithas Chwaraeon Cymru a’r Gwobrau Noddfa Cenedlaethol.

Rhannu:

Nos Lun (17fed Mehefin), fe enillodd Undeb Rygbi Cymru wobr am Gyfraniad i Chwaraeon yn noson wobrwyo Noddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru 2024 am ei chynlluniau a’i gweithredoedd amrywiaeth a chynhwysiant.

Canmolwyd y cynllun Heini, Hwyl a Hansh (We Soda) yn bendol.Lansiwyd y prosiect yn 2021, gyda chydweithrediad â phartneriaid rhanbarthol yr Undeb a Llywodraeth Cymru i gefnogi plant a’u teuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol gan ddarparu prydau bwyd iach, maethlon am ddim a gweithgareddau corfforol hwyliog.

Y llynedd, ymgysylltwyd â dros 14,000 o blant, sy’n fwy na dwbl y flwyddyn flaenorol. Mae gan Undeb Rygbi Cymru gynlluniau uchelgeisiol i ehangu’r cynllun, er mwyn cyrraedd pob rhan o Gymru erbyn 2025, gan ddarparu tua 600 o ddigwyddiadau bob blwyddyn.

Roedd panel Gwobrau Noddfa hefyd yn cydnabod gwaith yr Undeb mewn cydweithrediad ag EYST (Lleiafrifoedd Ethnig) a’r Tîm Cymorth Ieuenctid a ddechreuodd y llynedd. Felly hefyd y gwaith wnaed gyda Chanolfan Gymunedol De Glanyrafon yng Nghaerdydd – yn cefnogi menywod lleol o gymunedau ethnig amrywiol.

Gyda chydweithrediad EYST a phartneriaid rhanbarthol fe ddatblygodd URC gyrsiau penodol ar gyfer hyfforddwyr a chyflwynwyd sesiynau rygbi yn Abertawe, Casnewydd, Hwlffordd a Wrecsam. Cynhaliwyd sesiynau hefyd ym Mosgiau Abertawe a Hwlffordd a threfnwyd digwyddiadau rygbi arbennig yn ystod y nos yn ystod mis sanctaidd Ramadan yng Nghasnewydd a Chaerdydd.

Creu llwybrau datblygu clir o fewn cymunedau nad ydynt erioed wedi cymryd rhan mewn rygbi yn draddodiadol oedd un o brif amcanion y gweithgareddau – gyda’r gobaith y bydd mwy o bobl yn cymryd rhan yn y gamp ar lawr gwlad yn y pendraw.

Mae cynllun ‘Credu’ URC gyda Chanolfan Datblygu Cymunedol De Glanyrafon wedi cymryd dwy flynedd i’w wireddu. Nod y prosiect oedd rhannu gwerthoedd fel cyfiawnder cymdeithasol, cymryd rhan, cydraddoldeb, dysgu a chydweithredu – a hynny oll drwy nifer o sesiynau, gan gynnwys cyfleoedd chwaraeon i fenywod 25+ oed o gymunedau amrywiol.

Yn 2023 gwahoddwyd aelodau o’r prosiect ‘Credu’ i fynychu gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau Caerdydd, gan gynrychioli cymunedau o India, Guinea-Bissau, Sri-Lanka, Swdan, Columbia, Malaysia a Chymru.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant URC, Liam Scott, “Mae’n anrhydedd i ni dderbyn y wobr am gyfraniad i chwaraeon, yn enwedig yn ystod cyfnod mor bwysig ag wythnos y ffoaduriaid.

Rydym yn hynod ffodus i weithio gyda nifer o sefydliadau gwych sy’n ein galluogi i gyrraedd cymunedau nad ydynt wedi cael fawr ddim cysylltiad â rygbi o’r blaen a chael effaith gadarnhaol.  I lawer o’r cymunedau hyn, dyma’r tro cyntaf iddynt ddod i unrhyw gysylltiad â rygbi. Y cam nesaf wrth gwrs yw gwneud yn siwr bod y cysylltiadau cyntaf hyn yn datblygu i fod yn rhywbeth sy’n golygu bod rygbi’n rhan o fywydau’r bobl hyn yn yr hirdymor.

Rydym yn hynod falch o gefnogi’r gwaith y mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn ei wneud i gefnogi’r gymuned ffoaduriaid a gwneud Cymru’n Genedl o Noddfa.”

Fel noddwyr balch gwobr ‘Rising Star’, ychwanegodd Liam, Mae rygbi wedi chwarae rhan greiddiol yn niwylliant Cymru ers 140 o flynyddoedd, gyda’n clybiau rygbi wrth galon eu cymunedau.  Rydym am barhau i dyfu a datblygu fel sefydliad mewn Cymru fodern – gan adlewyrchu’r bobl sy’n byw yma.

“Rydyn ni yn Undeb Rygbi Cymru yn gweithio gyda’n clybiau, ysgolion a phartneriaid allweddol fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru ar nifer o whanol lefelau, boed hynny wrth ddarparu esgidiau rygbi i deuluoedd, cyflwyno sesiynau rygbi mewn cymunedau sydd â llai o adnoddau neu ddarparu sesiynau bwyd a rygbi yn ein gwersylloedd Heini, Hwyl a Hansh yn ystod gwyliau’r ysgol. Rydym yn ceiso sicrhau bod rygbi i bawb.

Y bobl sy’n cymryd rhan sy’n gwneud rygbi’n gamp wych ar ac oddi ar y cae hynny a dyna pam rydym yn falch o noddi a chyflwyno Gwobr ‘Rising Star’ Cenedl Noddfa 2024″.

 

Yn ogystal â’r Wobr Cyfraniad i Chwaraeon yr wythnos hon, bythefnos yn ôl yng Nghwesty’r Parkgate, Caerdydd – fe enillodd URC ac un o’i phrif bartneriaid, Vodafone wobr Arloesedd yng Ngwobrau Diwydiant Chwaraeon Cymru.

Datblygwyd yr ap cyntaf o’i fath i fonitro a gwella perfformiad iechyd a rygbi menywod gan URC a Vodafone. Fe gyfareddodd hyn y beirniaid – gan sicrhau’r wobr am Arloesi.

Dywedodd Mark Huckerby, Pennaeth Nawdd Vodafone UK, ar ôl ennill y wobr, “Diolch yn fawr iawn i bawb yn URC, sydd wedi bod yn bartneriaid gwych, yn datblygu’r dechnoleg hon gyda ni, a’n helpu ni i wneud ambell addasiad er mwyn sicrhau adnodd gwerthfawr i chwaraewyr rygbi benywaidd ym mhobman. Hoffwn ddiolch i’r Asiantaeth Gwyddorau Chwaraeon hefyd gan na fyddem wedi gallu datblygu’r ap PLAYER.Connect hyn heboch chi chwaith.

“Mae yna lawer iawn o bobl yn yr ystafell hon sy’n hynod angerddol am hybu campau’r merched a’r menywod a dwi’n meddwl bod PLAYER.Connect yn gallu helpu i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu gwneud hyn yn ddiogel.  Mae’n cynllun yn cefnogi adferiad, a lles tymor byr a hirdymor hefyd. Dechrau’r daith yn unig yw hyn.”

Datblygwyd yr ap a lansiwyd ym mis Chwefror 2023 mewn cydweithrediad rhwng URC a Vodafone, a oedd, ynghyd â’r Asiantaeth Gwyddorau Chwaraeon wedi creu a threialu’r system arloesol, gan gysylltu technoleg â data er mwyn creu gwir wahaniaeth i fenywod rygbi Cymru.

Mae’r system yn caniatáu i dîm rygbi Menywod Cymru gofnodi ac olrhain ffactorau hynod bwysig a dylanwadol megis hwyliau, egni, ansawdd cwsg, anafiadau, cylch mislif, dwyster ymarfer ac adferiad.  Rhennir y data gyda’r timau perfformiad a meddygol sy’n arwain at well cefnogaeth a pherfformiad yn y pendraw. Mae’r broses hon wedi bod yn allweddol wrth helpu tîm meddygol URC i nodi problemau iechyd ac adeiladu cynlluniau hyfforddi ac adfer penodol ar gyfer pob un aelod o garfan Menywod Cymru.

Dywedodd Nigel Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi URC, “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr anrhydeddus hon, ar y cyd â’n partneriaid, Vodafone.

“Mae’r ap wedi bod yn wirioneddol arloesol ers ei lansio cyn y Chwe Gwlad yn 2023 ac mae wedi dod yn adnodd amhrisiadwy i garfan a thîm rheoli’r Menywod.

“Hoffwn ganmol y ddau arall gafodd eu henwebu yn y categori hwn, Gemau’r Gymanwlad – Cymru a Beicio Cymru am eu cynlluniau gwych  nhw – sydd hefyd yn newid pethau er gwell –  ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Wrth dderbyn y ddwy wobr yn ystod yr wythnosau diwethaf, ychwanegodd Nigel Walker “Mae ennill y ddwy wobr yn brawf o ymroddiad a gwaith caled y staff yn Undeb Rygbi Cymru sy’n mynd y filltir ychwanegol honno er mwyn sicrhau canlyniadau eithriadol a dylanwadol.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert