Neidio i'r prif gynnwys

Prentisiaethau URC yn ‘newid bywydau’.

Prentisiaethau URC yn ‘newid bywydau’.

Carl Scales

Mae Rheolwr Datblygu Prentisiaethau Undeb Rygbi Cymru, Carl Scales wedi gweld sut y mae’r cynllun yn gallu newid bywydau Cymry ifanc.

Rhannu:

Bellach mae dros 100 wedi cwblhau’r cwrs o dan adain Scales ac mae tri wyneb cyfarwydd iawn yn eu plith – capten Cymru Dewi Lake a’r chwaraewyr rhyngwladol Kelsey Jones a Kayleigh Powell hefyd.

Criw eleni fydd y cyntaf i fanteisio ar drefniant newydd ar y cyd rhwng yr Undeb a Phrifysgol Met Caerdydd.

Yn ystod cyfnod y brentisiaeth – sy’n para am 12 mis – mae’r bobl ifanc yn cael eu cyflwyno i brofiadau ymarferol a gwerthfawr yn y byd rygbi gan hefyd weithio tuag at gymhwyster sylfaen mewn Rheolaeth Chwaraeon (Lefel 4) – sy’n cael ei gefnogi gan y Brifysgol.

Eleni, pan fydd y 12 mis yn dod i ben – bydd y prentisiaid sydd wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn cael cynnig di-amod i astudio un o chwe chwrs gradd sy’n ymwneud â’r byd chwaraeon ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Mae’r datblygiad newydd hwn yn rhoi pleser mawr i Carl Scales.

Dywedodd:” Mae gweld y prentisiaid yn tyfu mewn hyder ac yn datblygu fel unigolion dros y blynyddoedd wedi bod yn fraint aruthrol ac mae llawer iawn ohonyn nhw wedi llwyddo i greu gyrfaoedd iddyn nhw eu hunain yn y byd chwaraeon – sy’n profi bod eu blwyddyn gyda’r Undeb wedi rhoi dechrau da iddyn nhw ar y daith i’r byd gwaith.

“Rwy’n gwybod mai rhan o fy ngwaith yw hyrwyddo’r cwrs ond ‘rwy’n credu’n hollol ddi-ffuant ei fod yn arloesol ac yn hynod werthfawr – i’r unigolion eu hunain ac i’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu gyda’u sgiliau a’u profiadau newydd.

“Mae’r cwrs yn creu arweinwyr ac ‘ry’n ni’n hynod o falch bod Met Caerdydd am gynnig llefydd i bob un o’n prentisiaid llwyddiannus eleni. Mae’r datblygiad hwn yn rhoi mwy o werth fyth i statws ein prentisiaethau – ond yn bwysicach na dim – mae’n cynnig llwybr datblygu clir a chyffrous i’n pobl ifanc ni.”

“Rheswm arall i bobl ifanc Cymru ystyried ymgeisio i ddod yn brentis gydag Undeb Rygbi Cymru fis Medi yma.”

Hoffech chi fod yn brentis gyda’r Undeb yn 2024/25?

Yn ystod y 12 mis amrywiol a difyr hwn bydd prentisiaid URC yn derbyn cyflog o £10,548 a chostau hefyd.

Ymgeisiwch  ar-lein erbyn Hanner Dydd Awst 19eg 2024.

Mae’n bwysig nodi y bydd disgwyl i chi fod ar gael ar Awst 28ain ac Awst 29ain ar gyfer cyfweliadau posib. Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal ym Met Caerdydd.

Bydd y gwaith i’r ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau gyda diwrnod sefydlu ar y 5ed o Fedi 2024.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda wruapprenticeship@wru.wales neu Adran Adnoddau Dynol URC hr@wru.wales os gwelwch yn dda.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert