Gyda chynrychiolwyr o’r 10 tîm fydd yn cystadlu yn nhymor cyntaf erioed Super Rygbi Cymru – cadarnhawyd mai ym Mharc eiconig Pont-y-pŵl ddydd Iau y 12fed o Fedi y bydd y gêm gyntaf yn cael ei chynnal – wrth i’r clwb cartref groesawu enillwyr y dwbl y tymor diwethaf – Llanymddyfri.
Honno fydd yr ornest gyntaf o ddeg fydd yn cael eu dangos yn fyw ar S4C cyn diwedd y flwyddyn wrth i Undeb Rygbi Cymru gyflwyno’r newid mwyaf yn strwythur y gêm ddomestig ers sefydlu’r rhanbarthau yn 2003.
Mae’r gystadleuaeth newydd – sy’n cynnwys 10 o dimau – yn cymryd lle Uwch Gynghrair Indigo – oedd ag 13 o dimau’n cymryd rhan ynddo. Hon fydd yn cynrychioli’r lefel uchaf o rygbi yma yng Nghymru o dan y lefel rhanbarthol. Y bwriad clir yw pontio’r bwlch yn safon y chwarae rhwng gemau ieuenctid y gwahanol oedrannau a’r pedwar rhanbarth – gan gynnig mwy o gyfleoedd i’r chwaraewyr mwyaf addawol i gystadlu’n fwy cyson ar lefel uwch.
Bydd y 10 clwb sydd wedi sicrhau’r drwydded i gystadlu yn Super Rygbi Cymru – yn symud o ofal y gêm gymunedol i gydweithio’n agosach gyda’r gêm broffesiynol. Y timau hynny yw – Aberafan, Penybont, Caerdydd, Cwins Caerfyrddin, Glyn Ebwy, Llanymddyfri, Casnewydd, Pont-y-pŵl, Rygbi Gogledd Cymru ac Abertawe.
Gweledigaeth Undeb Rygbi Cymru – trwy gydweithio gyda’r rhanbarthau a’r clybiau – yw’r cynghrair newydd, gyda’r corff rheoli’n buddsoddi dros £1m yn y datblygiad yn flynyddol. Bydd y clybiau eu hunain hefyd yn buddsoddi £105,000 yr un bob tymor i gydfynd â buddsoddiad yr Undeb.
Bydd y clybiau’n chwarae 18 o gemau bob tymor cyn i dair rownd o gemau Ail-Gyfle a Ffeinal Fawr gael eu cynnal. Mae pob clwb yn sicr o chwarae o leiaf un gêm Ail-Gyfle a phedair gêm gwpan fydd yn digwydd yn ystod cyfnod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bydd gan bod clwb felly isafswm o 23 o gemau i’w chwarae bob tymor.
Cwpan Super Rygbi Cymru
Bydd cystadleuaeth Gwpan yn cael ei chwarae yn ystod y Chwe Gwlad.
Bydd dau grŵp o bum clwb, pob un yn chwarae dwy gêm gartref a dwy gêm oddi cartref. Enillwyr y ddau grŵp fydd yn cyrraedd y Ffeinal.
Cafodd yr enwau ar gyfer y ddau grŵp a’r gemau yn y Rownd Gyntaf eu trefnu yng nghwmni cynrychiolwyr y clybiau – a hynny gan Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad URC a Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr Tîm o dan 20 Cymru:
Grŵp A:
RGC
Aberafan
Llanymddyfri
Caerdydd
Penybont
Grŵp B:
Pont-y-pŵl
Abertawe
Glyn Ebwy
Cwins Caerfyrddin
Casnewydd
Rownd 1:
RGC v Aberafan
Pont-y-pŵl v Abertawe
Llanymddyfri v Caerdydd
Glyn Ebwy v Cwins Caerfyrddin
Ni fydd Penybont na Chasnewydd yn chwarae yn y rownd gyntaf o gemau yng nghystadleuaeth y Cwpan.
Bydd Tarian Her yn cael ei chyflwyno yn ystod y tymor arferol hefyd – system debyg i Darian Ranfurly yn Seland Newydd. Enillwyr y Cwpan eleni (Clwb Rygbi Llanymddyfri) fydd deiliaid cyntaf y Darian.
Rhaid i’r clwb sydd â’r Darian yn eu meddiant ei hamddiffyn ym mhob gêm gartref yn ystod y tymor arferol. Os bydd yr ymwelwyr yn curo’r deiliaid – nhw fydd wedyn yn hawlio meddiant y Darian hyd nes iddyn nhw golli gêm gartref.
Glyn Ebwy fydd yn cael y cyfle cyntaf i gipio’r Darian oddi-ar y Porthmyn ar Hydref y 5ed – ond bydd talcen caled yn eu hwynebu gan mai dim ond dwy gêm gollodd Llanymddyfri trwy gydol y tymor diwethaf – ac nid ydynt wedi colli gêm gartref ers y 10fed o Fawrth 2023 – rhediad o 18 gêm.
Dywedodd Euros Evans, Prif Hyfforddwr Llanymddyfri: “Mae cyflwyno Tarian Super Rygbi Cymru yn mynd i ychwanegu hyd yn oed mwy o awch at y gemau yn ystod y tymor. Yma’n Llanymddyfri – ‘ry’n ni’n siarad yn aml am bwysigrwydd ei gwenud hi’n anodd iawn i dimau eraill ennill ar Fanc yr Eglwys – ac felly roedden ni gyd yn hynod o falch na lwyddodd unrhywun ein curo ar ein tomen ein hunain y tymor diwethaf.
“Gan ein bod yn gosod cae synthetig newydd yma ar hyn o bryd – bydd yn rhaid i ni aros tan ymweliad Glyn Ebwy tan y gallwn amddiffyn y Darian am y tro cyntaf a chyn hynny mae gennym nifer o gemau oddi-cartref hynod o galed yn ein wynebu – gan ddechrau ar Barc Pont-y-pŵl wrth gwrs.
“Am ddechrau cyffrous i bennod newydd yn hanes rygbi ar y lefel yma! ‘Rwy’n siwr y bydd cefnogwyr ‘Pooler’ am ein gwaed nos Iau – gan mai ni yw’r Pencampwyr presennol.
“Mae hyn yn ddechrau ffresh i holl glybiau Super Rygbi Cymru a does dim amheuaeth y bydd yn wahanol iawn i’r hen Uwch Gynghrair. Bydd yn cynnig mwy o gyfle i chwaraewyr ifanc addawol arddangos eu doniau – ond mae’n bwysig iawn ein bod yn cynnal a chodi safon y chwarae er mwyn diddanu’r torfeydd ddaw i’n gwylio hefyd.
“Dy’n ni heb gael cyfle i weld unrhyw un o chwaraewyr Academi’r Scarlets eto – ond rwy’n gwybod bod gennym griw da iawn o chwaraewyr ar gael i ni’r tymor yma. Ein gobaith yw y gallwn helpu’r chwaraewyr yma i ddatblygu – yn union fel y gwnaethom gyda Macs Page a Harry Thomas y tymor diwethaf.”
Bydd Pont-y-pŵl yn gobeithio dechrau’r tymor ar dân trwy guro’r Pencampwyr presennol – tra bydd Casnewydd, orffenodd yn ail yn yr Uwch Gynghrair, yn dechrau eu hymgyrch y tymor hwn trwy groesawu Penybont – sy’n cael eu hyfforddi gan gyn fachwr Cymru a’r Gweilch – Scott Baldwin.
Dywedodd Pennaeth Datblygu Chwaraewyr URC, John Alder:
“Mae cyflwyno Super Rygbi Cymru yn ddechrau newydd i’r 10 o glybiau, ein rhanbarthau ac i Undeb Rygbi Cymru hefyd. Gyda’n gilydd ‘ry’n ni am greu cynghrair ddomestig unigryw a chyffrous i’r chwaraewyr, ein clybiau a’n cefnogwyr.
“Elfen greiddiol o’r datblygiad newydd hwn yw’r ffaith ein bod wedi cydweithio o’r cychwyn gyda’r rhanbarhau a’r clybiau. Edrychwch ar lwyddiant y penwythnos diwethaf pan chwaraeoedd y Gweilch hanner awr yn erbyn Aberafan, Penybont ac Abertawe gan gryfhau’r cysylltiad rhwng y rhanbarth a’i glybiau.Daeth dros 3000 o bobl i wylio – sy’n profi bod yr awydd i gefnogi rygbi’n bendant yn fyw.
“Fe gymrodd y Scarlets dîm ifanc i herio Cwins Caerfyrddin sy’n dathlu eu pen-blwydd yn 150. Felly hefyd Casnewydd sydd hefyd yn elwa o’r trefniant cytundebau deuol rhwng y clybiau a’r rhanbarthau.”
Mae’r 10 clwb i gyd wedi ymrwymo i system ‘uchafswm cyflog’ a fydd yn eu galluogi i wario hyd at £150,000 ar garfan o 32 chwaraewr.
Bydd URC yn rhoi £105,000 i bob clwb, ac mae’n rhaid i’r clybiau gyfateb y swm hwnnw bob tymor hefyd yn ogystal â gweithredu isafswm o ofynion gweithredol o safbwynt y clwb a’r tîm fydd yn cystadlu yn Super Rygbi Cymru.
Ychwanegodd John Alder: “Gall cefnogwyr ddisgwyl gweld y chwaraewyr mwyaf addawol yn system yr Academi yn chwarae’n gyson gyda chwaraewyr sydd eisoes yn adnabyddus – a hynny gyda chefnogaeth ac arbenigedd hyfforddwyr y clybiau wrth gwrs.
“Ry’n ni wrth ein bodd bod S4C a’r cwmni cynhyrchu Whisper yn mynd i ddarlledu gemau Super Rygbi Cymru ar ein rhan trwy gydol y tymor. Bydd y gemau byw a’r uchafbwyntiau yn sicr o greu diddordeb a chyffro i bawb.”
TREFN GEMAU SUPER RYGBI CYMRU
Dolen ar gyfer trefn llawn y gemau:
GEMAU BYW S4C
Dydd Iau, 12 Medi: Pont-y-pŵl v Llanymddyfri
Dydd Iau, 19 Medi: Caerdydd v Glyn Ebwy
Dydd Iau, 26 Medi: Aberafan v Casnewydd
Dydd Iau, 03 Hydref: Penybont v Abertawe
Dydd Iau, 10 Hydref: Casnewydd v Llanymddyfri
Dydd Iau, 17 Hydref: Llanymddyfri v Abertawe
Dydd Iau, 24 Hydref: Abertawe v Pont-y-pŵl
Dydd Iau, 12 Rhagfyr: Cwins Caerfyrddin v Aberafan
Dydd Sul 22 Rhagfyr: Caerdydd v Casnewydd
Dydd Sadwrn, 28 Rhagfyr: Rygbi Gogledd Cymru v Penybont
Strwythur Tymor
Bydd Super Rygbi Cymru (SRC) yn cyd-fynd â chalendr y gêm broffesiynol a’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig i greu perthynas ymarferol ac adeiladol rhwng y 10 clwb a’r pedwar Rhanbarth. Bydd hyn yn cynnwys saib yn y gystadleuaeth yn ystod ffenestri rhyngwladol yr Hydref a’r Chwe Gwlad.
Bydd y tymor yn cael ei chwarae mewn tri chyfnod penodol (Medi & Hydref / Rhagfyr / Ebrill & Mai):
Tymor Arferol: 18 Rownd gyda’r 10 tîm yn chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref.
Rowndiau Terfynol wedi’r Tymor Arferol:
Bydd rowndiau terfynol y tymor yn cynnwys pedair set o gemau fydd yn dilyn yr egwyddor o golli ac allan.
Bydd tri thlws ar gael i’w hennill – Tlws Super Rygbi Cymru, Cwpan Super Rygbi Cymru, a’r Darian Her.
Tymor Super Rygbi Cymru 2024-25
Dechrau’n llawn ar benwythnos 14 Medi ac yn gorffen gyda’r Rownd Derfynol Fawr tua ddydd Sadwrn 17 Mai 2025 (mewn lleoliad niwtral).
Bydd y tymor yn dod i ben ar benwythnos 19 Ebrill 2025.
Rhan 1: Rowndiau 1 – 7: 14 Medi 24 – 26 Hydref 24
Rhan 2: Rowndiau 8 – 14: 23 Tachwedd 2021 i 12 Ionawr 2022 Rowndiau 15 – 18,
Rowndiau Terfynol ar ôl y Tymor: 29 Mawrth 25 – 17 Mai 25
Rowndiau Terfynol yn dilyn y Tymor Arferol
Gemau Ail Gyfle (7 v 10 – Gêm 1, 8 v 9 – Gêm 2)
Rownd yr Wyth Olaf (1 v Enillydd Gêm 1 & 2 v Enillydd Gêm 2 / 3 v 6, a 4 v 5)
Rown Gyn-derfynol
Rownd Derfynol Fawr (Chwarae am y Tlws)
Tarian Her
Bydd Tarian Her yn cael ei chyflwyno yn ystod y tymor arferol. Enillwyr y Cwpan eleni (Clwb Rygbi Llanymddyfri) fydd deiliaid cyntaf y Darian. Rhaid i’r clwb sydd â’r Darian yn eu meddiant ei hamddiffyn ym mhob gêm gartref yn ystod y tymor arferol (ond nid yn ystod y Rowndiau Terfynol sy’n dilyn y tymor). Os bydd yr ymwelwyr yn curo’r deiliaid – nhw fydd wedyn yn hawlio meddiant y Darian hyd nes iddyn nhw golli gêm gartref.
Uchafswm Cyflog Chwaraewyr
Mae’r Uchafswm Cyflog Chwaraewyr ar gyfer carfan ar gyfer Tymor 24/25 wedi’i osod ar £150,000 y flwyddyn. Fodd bynnag, mae eithriadau’n cael eu caniatáu ar gyfer chwaraewyr Academi, chwaraewyr sydd newydd gael eu rhyddhau gan Ranbarth, chwaraewyr ar gytundeb deuol, ac anafiadau.
Y prif syniad yw cefnogi a chadw chwaraewyr hynod addawol yn y gystadleuaeth. Dyna pam y bydd eithriadau’n cael eu hystyried ar gyfer cyfnod byr.