Gan bod Undeb Rygbi Cymru wedi oedi rhai gemau’n fwriadol – ni fydd rhaglen lawn o gemau ar y penwythnos cyntaf – ond mae’n argoeli i fod yn benwythnos cyffrous a chofiadwy.
I glybiau fel Rhisga, sy’n chwarae yn Adran 2 yn y Dwyrain, bydd yn dymor arbennig iawn gan eu bod yn dathlu eu pen-blwydd yn 150 oed. Felly hefyd i dîm Athletig Y Bala – sy’n cystadlu yn y system genedlaethol am y tro cyntaf (Adran 3 Gogledd Orllewin) gan bod mwy o gyfleoedd bellach yn codi i ail dimau gystadlu.
“Mae dechrau unrhyw dymor newydd yn gyffrous a hoffwn ar ran pawb yn Undeb Rygbi Cymru ddiolch i bawb yn yr holl glybiau am eu hymdrechion dros yr haf gan hefyd ddymuno’r gorau i bawb ar gyfer y tymor newydd.” Meddai Prif Weithredwr URC Abi Tierney
“Bydd timau’r dynion yn dychwelyd y penwythnos hwn cyn i’r merched a’r menywod ddechrau eu hymgyrchoedd nhw’r wythnos nesaf. Mae’n gyfnod pwysig a chyffrous i chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, gweinyddwyr a chefnogwyr fel ei gilydd wrth i bawb edrych ymlaen at y naw mis o gemau sydd o’n blaenau.
“Wrth gwrs bydd gwahanol bencampwyr ac enillwyr cwpanau ar ddiwedd y tymor – ond mae cymryd rhan a chyfrannu at ein gêm a’n cymunedau yn allweddol bwysig hefyd.
“Mae Cynghreiriau Cenedlaethol Admiral wrth galon y gêm gymunedol ers cenedlaethau ac maen nhw’n parhau i fod yn fagwrfa i’n chwaraewyr proffesiynol presennol a sêr y dyfodol hefyd.
“Yn sicr, bydd llawer o gyrff blinedig fore Sul a llawer o drafod gemau cyntaf y tymor newydd. Mae cyfraniad pob chwaraewr, hyfforddwr a chlwb yn hanfodol i lwyddiant parhaus rygbi Cymru ac rwy’n diolch iddynt i gyd am hynny.”
Er bod 10 o glybiau bellach wedi ymuno gyda Super Rygbi Cymru, bydd safon chwarae uchel yn amlwg yn y 149 gêm fydd yn cael eu chwarae bob penwythnos o’r tymor newydd.
Ddydd Sadwrn, 7 Medi fydd y gic gyntaf gyda’r tymor i fod i ddod i ben ar 26 Ebrill 2025.
Bydd digon o gemau darbi lleol dros y penwythnos ac mae un ornest benodol arall yn dal y sylw hefyd wrth i Gastell Nedd a Merthyr wynebu ei gilydd ar y Gnoll.
Clwb arall fu’n rhan amlwg o Uwch Gyngrair Indigo y tymor diwethaf oedd Pontypridd wrth gwrs, ac maen nhw’n cael seibiant ar y penwythnos cyntaf tra bo enillwyr Pencampwriaeth y Dwyrain, Y Bargôd, yn croesawu Llangennech, sydd newydd sicrhau dyrchafiad. Yn y Bencampwriaeth yn y Dwyrain, bydd Penallta yn croesawu Bedwas a Chrwydriaid Morgannwg yn estyn croeso cynnes iawn St Peter’s – dwy gêm ddarbi i dynnu dŵr i’r dannedd.
Crwydriaid Llanelli enillodd y cynghrair a’r cwpan yn Adran 1 y tymor diwethaf a byddant yn herio Tregŵyr yn ystod y rownd gyntaf o gemau. Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Tregŵyr yn y Bencampwriaeth yn y Gorllewin. Trechu Glyn Nedd yn Stadiwm Principality wnaeth Tregŵyr i gipio’r cwpan y tymor diwethaf. Aeth bechgyn Cwm Nedd ymlaen i ennill teitl yr Adran Gyntaf yng Nghanolbarth y Gorllewin – a byddant yn croesawu Dur Tata ar y penwythnos agoriadol.
ADRANNAU CENEDLAETHOL ADMIRAL (39 tîm – 3 chynghrair)
Uwch Gynghrair (13 thîm)
Y Bargôd, Bonymaen, Aberhonddu, Met Caerdydd, Cross Keys, Llangennech, Merthyr, Arberth, Castell Nedd, Trecelyn, Castell Newydd Emlyn, Pontypridd, Ystrad Rhondda
Pencampwriaeth y Dwyrain (13 thîm)
Aberdâr, Beddau, Bedwas, Brynmawr, Welfare Cambrian, Crwydriaid Morgannwg, Aberpennar, Penallta, Tredelerch, St Peter’s, Talywaun, Treorci, Ynysddu
Pencampwriaeth y Gorllewin (13 thîm)
Rhydaman, Clwb Rygbi Crymych, Dyfnant, Glyn Nedd, Gorseinon, Tregŵyr, Mynydd Cynffig, Crwydriaid Llanelli, Cwins Maesteg, Dur Tata, Tondu, Trebanos, Ystalyfera
Cynghreiriau Admiral (63 thîm – 7 cynghrair)
Dwyrain 1 (10 tîm)
Y Fenni, Abertyleri Blaenau Gwent, Bedlinog, Blaenafon, Dowlais, Trefynwy, Nelson, Cyn Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Casnewydd, Pont-y-pŵl Unedig, Senghennydd
Dwyrain 2 (10 tîm)
Abercarn, Y Coed Duon, Y Blaenau, Cil-y-coed, Croesyceiliog, Cwmbrân, Garndiffaith, Harriers Pilgwenlli, Rhisga , Brynbuga
Dwyrain 3 (10 tîm)
Abertyswg, Caerllion, Cas-gwent, Fleur de Lys, Machen, Nantyglo, Panteg Newydd, Saraceniaid Casnewydd, Oakdale, Rhymni
Dwyrain 4 (10 tîm)
Bedwellty, Betws, Crughywel, Crymlyn, Forgeside, Gwernyfed, Llanhiledd, Pontllanfraith, RTB (Glyn Ebwy), Whiteheads
Dwyrain 5 (10 tîm)
Abersychan, Beaufort, Sêr y Coed Duon, Deri, Hafodyrynys, Hartridge, Hollybush, Magwyr, Ironsides, Gorllewin Mynwy
Dwyrain A (7 tîm)
Brynithel, Cwmcarn, Girling, Tredegar Newydd, Hen Tyleryan, Trefil, Trinant
Dwyrain B (6 thîm)
Internationals Caerdydd, Glyncoch, Llanrhymni, Cyn Ddisgyblion St Julian’s, Clwb Chwaraeon y Sili, Yr Eglwys Newydd
Cynghreiriau Admiral yng Nghanolbarth y Dwyrain (56 thîm – 6 chynghrair)
Canolbarth y Dwyrain 1 (10 tîm)
Abercwmboi, Abercynon, Y Barri, Llanharan, Llanisien, Penarth, Harlequins y Porth, Rhiwbeina, Rhydyfelin, St Joseph’s
Canolbarth y Dwyrain 2 (10 tîm)
Caerffili, Cwins Caerdydd, Cilfynydd, Y Bont-faen, Gilfach Goch, Llanilltud Faerdref, Pentyrch, St Albans, Ffynnon Taf, Ynysybwl
Canolbarth y Dwyrain 3 (10 tîm)
Treganna, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, Y Tyllgoed, Llandaf, Llantrisant, Llanilltud Fawr, Penygraig, Tonyrefail, Treharris, Wattstown
Canolbarth y Dwyrain 4 (10 tîm)
Bracla, Saraseniaid Caerdydd, Dinas Powys, Glynrhedynog, Ystum Taf, Cyn Ddisgyblion Illtud Sant, Pontyclun, Treherbert, Tylorstown, Ynysowen
Canolbarth y Dwyrain 5 (8 tîm)
Caerau Trelai, Cefn Coed, Hirwaun, Llandrindod, Cwm Ogwr, Hen Benarthiaid, Pontycymer, Tref-y-clawdd
Canolbarth y Dwyrain 6 (8 tîm)
Clwb Athletig y Bargôd, Ail dîm Clwb Athletig Pen-y-bont, Clwb Athletig Aberhonddu, Clwb Athletig Met Caerdydd, Clwb Athletig Penallta, Tredelerch, Clwb Thletig St Peter’s, Clwb Athletig Tondu
Cynghreiriau Admiral yng Nghanolbarth y Gorllewin (50 tîm– 5 Cynghrair)
Canolbarth y Gorllewin 1 (10 tîm)
Green Stars Aberafan, Gellifedw, Clwb Athletig Penybont, Llanfair-ym-Muallt, Treforys, Nantyffyllon, Sgiwen, Ucheldir Abertawe, Y Faerdref, Ystradgynlais
Canolbarth y Gorllewin 2 (10 tîm)
Cwins Aberafan, Abercraf, Brynaman, Bryncethin, Heol y Cyw, Clwb Celtic Maesteg, Pencoed, Porthcawl, Y Pîl, Resolfen
Canolbarth y Gorllewin 3 (10 tîm)
Baglan, Clwb Chwaraeon Penybont, Bryncoch, Cefn Cribwr, Cwmafan, Nantymoel, Clwb Athletig Castell Nedd, De Gŵyr, Tonmawr, Tonna
Canolbarth y Gorllewin 4 (10 tîm)
Alltwen, Llansawel, Y Creunant, Cwmgors, Glais, Maesteg, Pontardawe, Pontrhydyfen, Rhigos, Blaendulais
Canolbarth y Gorllewin 5 (10 tîm)
Banwen, Clwb Athletig Bonymaen, Cwmgwrach, Cwmllynfell, Cwmtwrch, Clwb Athletig Dyfnant, Glyncorwg, Penlan, Taibach
Cynghreiriau Admiral yn y Gorllewin (49 tîm – 5 cynghrair)
Gorllewin 1 (10 tîm)
Aberystwyth, Porth Tywyn, Felinfoel, Cydweli, Penclawdd, Pontarddulais, Sanclêr, Dinbych y Pysgod, Waunarlwydd, Hendy,
Gorllewin 2 (10 tîm)
Betws, Clwb Athletig Caerfyrddin, Abergwaun & Wdig, Llambed, Talacharn, Casllwchwr, Aberdaugleddau, Y Mwmbwls, Nantgaredig, Hendy-gwyn ar Daf
Gorllewin 3 (10 tîm)
Aberaeron, Yr Aman, Aberteifi, Cefneithin, Hwlffordd, Llandeilo, Llangadog, Pontyberem, Y Tymbl, Tycroes
Gorllewin 4A (9 tîm)
Clwb Athletig Crymych, Llangwm, Llanybydder, Clwb Athletig Arberth, Clwb Athletig Castell Newydd Emlyn, Neyland, Cwins Doc Penfro, Penfro, Tyddewi
Gorllewin 4B (10 tîm)
Y Bynea, Fall Bay, Ffwrnais, Llandybie, Sêr y Doc Newydd, Pantyffynon, Penybanc, Pont-iets, Tregaron, Trimsaran
Cynghreiriau Admiral yn y Gogledd (41 tîm – 4 cynghrair)
Gogledd 1 (12 tîm)
Y Bala, Bethesda, Caernarfon, COBRA, Dinbych, Llandudno, Yr Wyddgrug, Nant Conwy, Pwllheli, Rhuthun, Wrecsam, Llangefni
Gogledd 2 (10 tîm)
Abergele, Clwb Athletig Caernarfon, Bae Colwyn, Dolgellau, Machynlleth, Clwb Athletig Nant Conwy, Y Drenewydd, Y Rhyl & Ardal, Dur Shotton, Y Trallwng,
Gogledd Ddwyrain 3 (10 tîm)
Bro Gwernant, Clwb Athletig COBRA, Clwb Athletig Dinbych, Y Fflint, Llanidloes, Clwb Athletig yr Wyddgrug, Rhosllannerchrugog, Clwb Athletig y Rhyl, Clwb Athletig Rhuthun, Wrecsam
Gogledd Orllewin 3 (9 tîm)
Clwb Athletig y Bala, Bangor, Bro Ffestiniog, Clwb Athletig Bethesda, Clwb Athletig Bae Colwyn, Clwb Athletig Llangefni, Porthaethwy, Porthmadog, Clwb Athletig Pwllheli.