Neidio i'r prif gynnwys

Ymchwil a chydweithio’n cryfau rhwng yr Undeb a Met Caerdydd

Ymchwil a chydweithio’n cryfau rhwng yr Undeb a Met Caerdydd

 Mae URC a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynhyrchu canfyddiadau cyntaf Astudiaeth Gwyliadwriaeth Anafiadau Cymunedol wrth i gydweithrediad ymchwil ffynnu.

Rhannu:

Mae Undeb Rygbi Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cydweithio ers tri thymor bellach i  Arolygu Anafiadau yn y Gymuned, gan edrych ar gyfraddau anafiadau yng ngêm y dynion yn bennaf.

Er mwyn cynyddu’r data sydd ar gael mae’r Undeb a’r Brifysgol yn galw ar fwy o glybiau dynion a menywod ar lawr gwlad Cymru i gymryd rhan.

Arweinir y cydweithrediad gwerthfawr hwn â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd gan Dr Izzy Moore, sy’n arbenigo mewn Symudiad Dynol a Meddygaeth Chwaraeon yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon a Iechyd Caerdydd ac mae wedi bod yn gwneud gwaith ar ochr broffesiynol y gêm ers 12 mlynedd. Mae ei gwaith wedi ehangu’n yn ddiweddar hefyd i gynnwys rygbi cymunedol, gan roi mewnwelediad pellach i les chwaraewyr ar bob lefel o’r gêm.

Pwrpas yr ymchwil yw deall mynychder, math, natur a difrifoldeb anafiadau cyfatebol a hyfforddiant sy’n digwydd ar draws rygbi cymunedol yng Nghymru. Drwy fonitro’r wybodaeth hon, bydd URC yn ennill dealltwriaeth fanylach o dueddiadau anafiadau, gan alluogi gwelliannau mewn rhaglenni caledwch ac atal anafiadau chwaraewyr, a fydd yn ei dro yn lleihau risg anafiadau ac yn gwella perfformiad a lles chwaraewyr.

Lluniwyd y data diweddaraf gan 265 o chwaraewyr o 18 tîm a gymrodd ran gyda chymorth Dr Molly McCarthy-Ryan, Darlithydd mewn Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Met Caerdydd.

Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC: “Mae URC yn ymroddedig i wella lles chwaraewyr a gwella’r broses o adrodd anafiadau ar draws y gêm. Gall ymchwil fel hyn helpu i gadw chwaraewyr yn ddiogel a sicrhau y gall pawb chwarae’r gêm i’w llawn botensial.”

Gareth Davies yn gwisgo cap yr ymgyrch

Ychwanegodd, Dr Izzy Moore: “Ym Met Caerdydd, rydym wedi ymrwymo i ymchwil gymhwysol sydd ag effaith go iawn ar y byd; gyda ffocws penodol ar ymchwil sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles ein cymunedau.

“Rydym yn falch bod ein harbenigedd meddygaeth chwaraeon ac epidemioleg wedi arwain at greu’r system wyliadwriaeth anafiadau cenedlaethol gyntaf ledled y wlad yn Rygbi Cymru mewn partneriaeth ag URC.

“Rydym yn cydlynu’r gwaith o gasglu data ac yn cynnal y dadansoddiad data, gan weithio’n uniongyrchol gyda thimau rygbi cymunedol. Mae gan yr ymchwil hon y potensial i arwain at welliannau mawr mewn rhaglenni atal anafiadau ac rydym yn awyddus i annog cynifer o glybiau â phosibl ar draws gêm y dynion a’r menywod i fod yn rhan ohoni.”

Bydd cam nesaf prosiect Arolygu Anafiadau yn y Gymuned Rygbi Cymru yn cael ei ehangu ar draws rygbi cymunedol uwch fenywod a datblygu strategaethau atal anafiadau ar sail tystiolaeth ymhellach.

Mae URC yn gwahodd pob tîm menywod i gefnogi’r astudiaeth a chyfrannu at yr ymchwil arloesol yma  yng Nghymru.

Gofynnir hefyd i dimau Uwch Gynghrair a Phencampwriaeth y Menywod gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil a ariennir gan Rygbi’r Byd ar gyfradd a risgiau anaf mewn undeb rygbi menywod sy’n oedolion. Mae’r astudiaeth hon yn gydweithrediad aml-ganolfan y Cenhedloedd Cartref ac fe’i cefnogir yn llawn gan undebau rygbi Cymru, yr Alban, a Lloegr.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, cysylltwch â Thîm Uniondeb URC ar integrity@wru.wales

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert