Dim ond o drwch blewyn y llwyddodd bechgyn y Cymoedd i gyrraedd y ffeinal fawr wedi iddynt grafu heibio i Glantaf o 49-46 mewn gêm anhygoel, oedd yn cynnwys 14 cais yn y rownd gyn-derfynol – ond fe ddechreuon nhw’n hyderus yn erbyn y deiliaid Llanymddyfri oedd yn ymddangos yn eu trydedd rownd derfynol yn y pedair blynedd ddiwethaf.
Wedi dim ond 4 munud o chwarae, fe barchodd bechgyn y Cymoedd eu meddiant yn ofalus, grëodd y cyfle i’r bachwr Logan Lloyd agor y sgorio yn y gornel.
Funud yn unig wedi i Ben Coomer drosi cais Lloyd, fel fylchodd Thomas Williams yn gampus i Lanymddyfri ac fe fanteisiodd y canolwr Owen Rickard i’r eithaf yng nghysgod y pyst gan wneud gwaith Carwyn Jones o wneud y sgôr yn gyfartal yn rhyfeddol o hawdd.
Wedi 9 munud o chwarae, anelodd Jones gynnig hyderus am gôl adlam o 30 metr ac fe holltodd y pyst gan roi gwŷr y gorllewin ar y blaen o driphwynt. Bedwar munud yn unig wedi hynny llwyddodd gydag ymdrech well fyth wrth i’r bêl hedfan dros y trawst o dros ddeugain metr.
Cryfhau eu gafael ar y gêm wnaeth tîm Nathan Thomas wrth i chwarter agoriadol yr ornest ddirwyn i ben – ac wedi i’w gyd-flaenwyr gadw’r bêl yn dynn am sawl cymal, fe gwblhaodd y blaen-asgellwr Brayan Kamanga’r gwaith o groesi am ail gais ei dîm.
Trosodd Jones yn rhwydd eto ac o fewn tri munud i hynny daeth trydydd cais y deiliaid wrth i’w wyth blaen gydweithio’n effeithiol unwaith yn rhagor – arweiniodd at gais i’r bachwr Owen Griffiths.
Wedi’r 10fed pwynt o droed Carwyn Jones – ‘roedd tipyn o fynydd gan fechgyn Gareth Wyatt i’w ddringo – ond yn dilyn cyfnod o chwarae creadigol gan olwyr Coleg y Cymoedd – fe groesodd yr asgellwr Jack Piontecki’n ddawnus yn llygad y lluman. Tro Coomer oedd hi i drosi’n gampus -gaeodd y bwlch rhwng y timau i 13 o bwyntiau wrth i’r hanner cyntaf ddirwyn i ben.
Mae capten Llanymddyfri Gryff Watkins, yn byw yn hen ystafell George North yn y coleg ac fe arweiniodd ei basio cywir ef a’i gyd-olwyr yng nghanol y cae at bedwerydd cais y crysau gwynion o’r cyfnod cyntaf gyda symudiad olaf yr hanner. Thomas Williams elwodd ar y gwaith creadiogol hwnnw i gofnodi ei gais cyntaf o’r prynhawn. Doedd hi’n ddim synod gweld Carwyn Jones yn trosi o’r ystlys i hawlio ei 14eg pwynt o’r 35 munud cyntaf – olygodd bod gan y deiliaid fantais o 20 pwynt wrth droi.
Dyma oedd ymddangosiad cyntaf Coleg y Cymoedd yn y rownd derfynol mewn pedwar tymor ac ‘roedd angen dechrau da i’r ail gyfnod arnynt. Serch hynny, trefn a grym blaenwyr Llanymddyfri barhaodd i fod yn amlwg ar ddechrau’r ail hanner ac Owen Griffiths gododd o dan bentwr o gyrff yn gwenu wedi iddo gofnodi ei ail gais o’r prynhawn bum munud wedi’r ail-ddechrau. Parhau wnaeth record gicio berffaith Jones i ymestyn y bwlch rhwng y timau i 27 pwynt.
Wedi i Thomas Williams weld ei fachwr yn hawlio ei ail gais – fe ddangosodd yr asgellwr ei gryfder a’i reddf i gyrraedd y gornel am yr eildro ei hun wedi 45 munud o chwarae. Cyfle arall am drosiad o’r ystlys i Carwyn Jones – dim problem am y chweched tro oedd ymateb y maswr i barhau â’i record berffaith.
Pas wrthol Jones yng nghanol cae saith munud yn ddiweddarach grëodd seithfed cais ei dîm o’r ornest wrth i’r eilydd Harri Burke hawlio’i gais. Hwnnw oedd cyfraniad olaf y maswr disglair o’r gêm wedi iddo reoli’r chwarae a hawlio 18 o bwyntiau’n bersonol.
‘Roedd gan y deiliaid ddigon o amser i groesi am dri chais arall i brofi eu rhagoriaeth dros eu gwrthwynebwyr. Yr wythwr Sam Gardner groesodd am yr wythfed cais cyn i’r clo cydnerth Ollie Lewis ac yna’r capten Gryff Watkins gau pen y mwdwl o safbwynt ceisiau’r tîm buddugol. Dau drosiad o droed Kai Kinsey oedd yn gyfrifol am weddill pwyntiau ei dîm.
Er y golled drom i Goleg y Cymoedd, bydd y blaen-asgellwr Lincoln Hall yn cofio ei gais hwyr ar faes Stadiwm Principality am weddill ei ddyddiau.
Buddugoliaeth swmpus tu hwnt i Goleg Llanymddyfri a’u hyfforddwr balch Nathan Thomas wrth iddyn nhw gadw’u gafael ar y cwpan mewn steil.