Parhau felly mae record Coleg Gwent o ennill pob gêm y tymor hwn – a hon oedd ail golled yn unig Coleg y Cymoedd ym mhob cystadleuaeth – ac ie merched Gwent oedd yn gyfrifol am y golled arall honno o 7-22 yn y cynghrair hefyd.
Yn groes i’r disgwyl, Coleg y Cymoedd ddechreuodd ar garlam gyda chais unigol cofiadwy’r blaen-asgellwr Seren Thomas wedi dau funud yn unig – ond dim ond am funud y parhaodd y flaenoriaeth honno cyn i’r wythwr Grace Boyd wneud y sgôr yn gyfartal gyda’i hyrddiad corfforol at y llinell.
Ddeng munud yn ddiweddarach fe aeth merched Scott Matthews ar y blaen am y tro cyntaf yn ystod y prynhawn wrth i’r clo Tegan Bendall efelychu ei champ yn y rownd gyn-derfynol wrth dirio am gais.
Bu’r canolwr Katie Johnson yn anlwcus yn ystod y cyfnod cyntaf wrth iddi groesi’r gwyngalch ddwywaith – cyn i’r dyfarnwr Carwyn Siôn benderfynu bod dwy bas ymlaen yn y ddau symudiad. Fe droseddodd Seren Thomas yn ystod yr ail ymosodiad hwnnw ac o’r herwydd, fe dreuliodd hi weddill y cyfnod cyntaf yn y cell cosb.
Fe fanteisiodd Coleg Gwent ar y chwaraewr ychwanegol wrth i’r clo Tia Jones groesi am ei chweched cais o’r tymor yn union wedi i Thomas adael y maes – a doedd dim ffordd yn ôl i garfan Gavin Gallagher wedi hynny.
Wrth i Seren Thomas baratoi i ddychwelyd i faes y gad – fe darodd y maswr Kacey Morkot hoelen arall yn arch Merched y Cymoedd wrth iddi fylchu’n hyderus a throsi ei chais ei hun i agor y bwlch i 17 pwynt gwta ddau funud wedi troi.
Bedwar munud yn ddiweddarch fe groesodd Morkot am gais arall wedi i’w blaenwyr gipio’r meddiant o sgrym yng nghysgod pyst eu gwrthwynebwyr – a phum munud wedi hynny fe diriodd yr asgellwr Addison Werner chweched cais y deiliaid wrth iddi goroni symudiad mwyaf cofiadwy’r ornest yn y gornel.
Rhif saith Coleg Gwent oedd yn gyfrifol am seithfed cais ei thîm wedi awr o chwarae wrth i’r blaen-asgellwr Amelia Bailey gymryd mantais o bas ddeallus Tegan Bendall i dirio o dan y pyst gan wneud gwaith Morkot o drosi am yr eildro’n hynod o syml.
Gwaith syml o groesi am wythfed cais ei thîm oedd gan Tia Jones hefyd a hynny gyda chwe munud yn weddill – wrth i un o chwaraewyr amlycaf y ffeinal, hawlio ei hail gais o’r prynhawn gan osod halen pellach ym mriwiau merched y Cymoedd.
Wrth i’r cloc droi’n goch – fe blymiodd Grace Boyd am ei hail gais o’r ornest ac yn dilyn trosiad yr eilydd Erin Davies, ‘roedd Coleg Gwent wedi croesi’r hanner cant ac wedi hawlio eu pumed buddugoliaeth hanesyddol o’r bron yn rownd derfynol y Cwpan.