Yn dilyn cyngor gan y Swyddfa Dywydd am Storm Darragh, mae Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu gohirio holl gemau rygbi cymunedol ar gyfer pob oedran ddydd Sadwrn y 7fed o Ragfyr.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion Coch a Melyn ar gyfer y rhanfwyaf o ardaloedd Cymru a’r darogan yw y bydd difrod ac amharu sylweddol yn digwydd o ganlyniad i‘r gwyntoedd a’r glaw trwm – all beryglu bywyd.
Gwnaed y penderfyniad i ohirio’r holl gemau cymunedol er mwyn diogelu clybiau, dyfarnwyr, chwaraewyr a chefnogwyr.
Bydd yr holl gemau sy’n cael eu heffeithio’n cael eu hail-drefnu’n fuan. Bydd gemau y Cwpan Cenedlaethol bellach yn cael eu chwarae ar y 14eg o Ragfyr.
Gall clybiau barhau gyda’r gemau sydd wedi eu trefnu ar gyfer nos Wener y 6ed o Rafgyr a Sul yr 8fed – os yw diogelwch pawb yn cael ei flaenoriaethu.
Er eglurder – mae’r gohiriadau a’r cyngor diogelwch yn berthnasol i gemau Super Rygbi Cymru’r penwythnos hwn hefyd.