Rheolodd Nelson fwyafrif y chwarae’n yr hanner cyntaf – ac fe osododd eu pedwar cais yn ystod y cyfnod agoriadol sylfaen gadarn i’w buddugoliaeth o 33-12 yn y pendraw.
‘Roedd tair o’r merched oedd yn aelodau o garfan y Cwins yn awchu i dalu’r pwyth i 14 o ferched Nelson am y golled drom o 51-5 ddioddefon nhw wrth gynrychioli Coleg y Cymoedd yn rownd derfynol yr Ysgolion a’r Colegau wythnos ynghynt yn erbyn Coleg Gwent.
Fel mae’n digwydd ‘roedd Abi Thomas yn un o bedair o dîm Nelson gollodd yn y Ffeinal honno – ond wedi 10 munud fe fanteisiodd hi ar fylchiad gwych y mewnwr Lily Hawkins i agor y sgorio.
‘Roedd Kacey Morkot yn chwarae fel maswr i Goleg Gwent yn rownd derfynol yr Ysgolion a’r Colegau – ond yn safle’r cefnwr yr oedd ei chyfrifoldeb y tro hwn. Wedi iddi drosi cais Thomas – fe arweiniodd ei chic fach bwt at gais i’r maswr Lexi Jones a gyda deng munud o’r cyfnod cyntaf ar ôl – fe ddaeth y cefnwr o hyd i fwlch ei hun – olygodd bod ei gwaith o dirio trydydd cais ei thîm rhwng y pyst yn gymharol syml.
Cododd ei chyfrif personol i 9 o bwyntiau wrth iddi drosi’n rhwydd.
Enw gwreiddiol y pentref yn Sir Caerffili yw Ffos y Gerddinen ac fe lwyddodd y crysau du a gwyn i dynhau eu gafael ar y Cwpan ym munudau olaf y cyfnod cyntaf.
Fe grëodd gweledigaeth a dwylo dawnus Tia Jones a Lily Hawkins y cyfle i’r clo Seren Thomas hawlio pedwerydd cais ei thîm gan efelychu ei champ o sgorio dros Goleg y Cymoedd ar y maes cenedlaethol wythnos ynghynt.
Er bod Tia Jones wedi gorfod treulio 7 munud yn y cell callio’n hwyr yn ystod yr hanner cyntaf – ‘roedd mantais ei thîm yn 26 pwynt wrth droi a doedd dim ffordd yn ôl i’r Cwins.
‘Roedd merched y Brifddinas wedi ennill y gystadleuaeth hon ar bum achlysur ac er bo’r fuddugoliaeth heddiw y tu hwnt i’w gafael, fe gawson nhw ddechrau digon addawol i’r ail hanner. Ddeng munud wedi’r ail-ddechrau fe fanteisiodd yr eilydd o Ysgol Bryn Celynnog, Sienna McCormack ar ei chyfle i sgorio cais yn Stadiwm Principality a chodi llef gan gefnogwyr y Cwins.
Ysgogi Seren y Gêm, Lily Hawkins i ddangos ei doniau bylchu unwaith eto wnaeth y sgôr hwnnw – a phedwar munud wedi i McCormack ddathlu, tro’r menwr bywiog oedd croesi’r gwyngalch ac ail-sefydlu goruchafiaeth Nelson.
Llwyddodd ail eilydd i’r Cwins, Jorja Aiono i garlamu am ail gais ei thîm yn hwyr yn yr ornest a braf oedd gweld ei gwên, gan ei bod wedi bod yn dioddef o anaf tan yn ddiweddar. Yn dilyn trosiad McCormack, ‘roedd y sgôr wedi parchuso ymhellach ond heb amheuaeth noson Nelson oedd hon i fod.