Dyma oedd y tro cyntaf erioed i’r Cofis gyrraedd y Rownd Derfynol a Chaernarfon aeth ar y blaen wedi chwe munud o chwarae wrth i’r cefnwr Aled Jones hollti’r pyst gyda’i gic gosb.
Roedd gan y 700 o ogleddwyr oedd wedi teithio i lawr yr A470 fwy i’w ddathlu chwe munud wedi hynny wrth i’r ‘Ath’ gael eu cosbi am gamsefyll – ac wrth i Jones ail-adrodd ei gamp gyda’i droed.
Tîm Jonathan Phillips sgoriodd gais cyntaf y prynhawn – a’r cefnwr a’r capten ei hun fanteisiodd ar ddwylo da ei gyd-olwyr i sgorio’i 18fed cais o’r tymor. Gan i drosiad John Rhys Williams daro’r postyn – ‘roedd Caernarfon ar y blaen o hyd – ond o bwynt yn unig.
Wrth i chwarter agoriadol yr ornest ddod i ben – fe agorodd y Cofis eu cyfrif ceisiau nhw am y prynhawn wrth i’r asgellwr Iwan Roberts ddangos ei gryfder i gyrraedd y llinell gais gwta ddau funud wedi i Benybont groesi’r gwyngalch eu hunain.
Parhau wnaeth cicio cywir Aled Jones olygodd bod dwy sgôr yn gwahanu’r ddau dîm.
Tro Caernarfon oedd hi i gael eu cosbi am gamsefyll wedi 27 o funudau – ac fel arwydd o barch at ddechrau cryf y gogleddwyr i’r gêm – penderfynu cymryd y triphwynt hawdd o flaen y pyst wnaeth John Rhys Williams a’i dîm.
Wedi hanner awr o chwarae, ‘roedd Clwb Athletig Penybont ar y blaen am y tro cyntaf.
Wedi i Gaernarfon fentro gyda chic bwt yn hanner eu gwrthwynebwyr – fe achubodd Jonathan Phillips ar ei gyfle i wrthymosod. Wrth i’w ail rediad effeithiol o’r prynhawn osod Caernarfon ar y droed ôl – daeth y blaenasgellwr Dan O’Sullivan o hyd i fwlch ac fe redodd yn glir i gysgod y pyst – wnaeth gwaith Williams o drosi’n hawdd.
Fe ddioddefodd Thomas Devine anaf difrifol i’w goes ddau dymor yn ôl – ond wrth iddo ddychwelyd i grys Caernarfon eleni – prin y byddai wedi gallu dychmygu sgorio cais yn Stadiwm Principality dros ei glwb yn y Rownd Derfynol fawr hon.
Gyda saith munud o’r hanner cyntaf yn weddill, dyna’n union wnaeth y canolwr cydnerth roddodd ei dîm yn ôl ar y blaen. Parhau wnaeth record berffaith Jones at y pyst olygodd bod Caernarfon ar y blaen o 20-15 wrth droi.
‘Dyw Caernarfon heb golli gêm yng Nghynghrair y Gogledd y tymor yma ac fe ddechreuon nhw’r ail gyfnod yn drefnus ac effeithiol. Wrth warchod y meddiant fe gosbwyd yr wythwr Iestyn Merriman am gamsefyll – ac ‘roedd pethau’n edrych yn addawol i’r Cofis gyda dyn o fantais.
Ond mewn Ffeinal hynod gofiadwy – yr ‘Ath’ fanteisiodd ar friwsion yng nghanol y cae wrth i Jonathan Phillips gasglu ei gic bwt ei hun i garlamu am ei ail gais o’r Rownd Derfynol.
Yn dilyn ail drosiad Rhys Williams – sydd hefyd yn Brif Hyfforddwr ar ei glwb – ‘roedd y clwb o Benybont ar y blaen am yr eildro.
Gan bod Dan O’Sullivan wedi gweld ei gapten yn sgorio dau gais – penderfynu efelychu camp Jonathan Phillips wnaeth y blaenasgellwr – ac yn dilyn cic gywir arall gan Williams, ‘roedd yr ‘Ath’ wedi sgorio 14 pwynt gydag 14 o chwaraewyr.
Cyn i Merriman gael y cyfle i ddychwelyd i’r maes fe lwyddodd troed chwith Aled Jones i dynnu ei dîm o fewn un sgôr unwaith eto ac ‘roedd chwarter olaf hynod gorfforol a nerfus ar y gweill.
Gydag ychydig dros chwarter awr ar ôl, cosbwyd Oliver Olds, maswr yr Athletig am drosedd wrth wneud tacl – ac felly am yr eildro yn ystod yr ornest ‘roedd gan y gogleddwyr ddyn o fantais.
Gyda dim ond saith munud yn weddill cafwyd eiliad allweddol yn nhynged y Rownd Derfynol.
Yn dilyn ton ar ôl ton o bwyso gan Gaernarfon, fe groesodd Tom Devine am ei ail gais o’r Ffeinal ac wrth iddo dirio o dan y pyst – fe ddefnyddiodd Cameron Thomas ei benglin i’w daclo – ac felly ‘roedd yr ‘Ath’ yn brin o ddyn am weddill y gêm.
Doedd hi’n ddim syndod gweld Aled Jones parhau gyda’i record berffaith wrth drosi sgôr olaf ac allweddol y Rownd Derfynol hanesyddol hon.
Serch hynny – nid hynny oedd digwyddiad olaf cofiadwy’r gêm gampus hon gan i’r ‘Ath’ gadw’r meddiant am bum munud wedi i’r cloc droi’n goch.
Er eu holl ymdrechion, fe fethon nhw â thorri amddiffyn na chalonnau’r Cofis a gyda digwyddiad olaf un y gêm – heibio’r postyn aeth cic adlam Rhys Williams – olygodd mai’r gogleddwyr oedd yn dathlu’r diwrnod mwyaf yn eu hanes ar y chwiban olaf.

Y Cofis yn Codi’r Cwpan
Sgôr Terfynol Caernarfon 30 Clwb Athletig Penybont 29
Wedi’r chwiban olaf, dywedodd Capten Caernarfon a Seren y Gêm, Dafydd Thirsk: “Mae hyn yn anhygoel. Mae hi’n hen bryd i ni’r gogs guro rhywbeth – a da ni wedi ei gwneud hi.
“Roedd ein hamddiffyn ni yn y diwedd yn dweud bod dim amdanon ni ac mi fydd na dipyn o ddathlu heno.”