Doedd Ponty heb ennill y Cwpan ers iddyn nhw guro’r un gwrthwynebwyr yn ôl yn 2014 ond fe ddechreuon nhw ar garlam yn Stadiwm Principality.
Gyda llai na thri munud ar y cloc fe hyrddiodd yr asgellwr Joe Davies heibio i dri o amddiffynwyr Cross Keys i groesi am y cyntaf o chwe chais ei dîm.
Trosiad Ioan Evans oedd yr unig sgôr arall hyd nes i’r cloc ddynesu at hanner awr o chwarae pan darodd asgellwr Cross Keys, Ralph Miller y bêl ymlaen yn fwriadol i atal ymosodiad addawol olwyr Pontypridd.
Canlyniad hynny oedd 10 munud yn y cell cosb i Miller a mantais o 10 pwynt i Ponty’n dilyn cic gosb gywir Evans.
Dim ond unwaith erioed y mae Cross Keys wedi codi’r Cwpan yn eu hanes. Fe ddigwyddodd hynny yn ôl yn 2012 pan guron nhw Bontypridd. Bryd hynny fe sgoriodd Gerwyn Price yr arch-ddartiwr y cais allweddol.
Er eu bod nhw ddyn yn brin – fe lwyddon nhw i haneru mantais Ponty erbyn yr egwyl – wrth i’r capten Corey Nicholls fanteisio ar drefn a grym ei gyd-flaenwyr – gan gadw’u gobeithion o ennill y Cwpan am yr eildro’n fyw yn y broses.
Wedi 10 munud o chwarae yn yr ail gyfnod daeth ail gais Ponty o’r prynhawn – ac yn dilyn cyfnod hirfaith o bwyso yng nghysgod pyst Cross Keys, cyn-ganolwr Penybont, Stuart Floyd-Ellis hawliodd y sgôr hwnnw. Rhywfaint o gysur i gyn-chwraewr Clwb Athletig Penybont – gollodd o bwynt i Gaernarfon yn Rownd Derfynol Cwpan yr Adran Gyntaf yn gynharach yn y dydd yn Stadiwm Principality.
Dri munud wedi hynny, danfonwyd Duan Thomas i gallio am 10 munud wedi tacl uchel ar Louis Rocheford-Sugar. Cosbwyd Cross Keys yn llym am eu diffyg disgyblaeth ar unwaith gan i’r bachwr – a chyn chwaraewr Cross Keys, Rob Jones groesi am drydydd cais Pontypridd.
Wedi trosiad Evans, ‘roedd y bwlch rhwng y timau’n 17 pwynt ac yn union wedi’r ail-ddechrau fe giciodd y maswr 50/22 osododd y sylfaen i Bontypridd groesi eto.
Yn dilyn gwaith graenus gan yr wyth blaen, daeth Joe Davies o hyd i’r llinell gais am yr eildro – gan efelychu ei gamp yn y rownd-gynderfynol.
Erbyn i gyfnod Duan Thomas ar yr ystlys ddod i ben, ‘roedd Ponty wedi sgorio 19 o bwyntiau heb ymateb – ac ‘roedd eu rhubannau ar y Cwpan i bob pwrpas.
Clo Pontypridd, Kristian Parker yw Prif Hyfforddwr y clwb hefyd – ac fe gafodd eiliad gofiadwy gydag 8 munud yn weddill, wrth iddo ddefnyddio’i rym corfforol i gyrraedd y llinell gais.
Yn dilyn trosiad yr eilydd Jaden Pugh, ‘roedd 38 o bwyntiau o fwlch rhwng y timau.
Er mai Cross Keys gafodd sgôr olaf y Rownd Derfynol pan benderfynodd Aaron Parry ddyfarnu cais cosb hwyr i Wŷr Gwent – parchuso’r canlyniad fymryn bach wnaeth hynny yng nghyd-destun goruchafiaeth Pontypridd o’r ornest.
Canlyniad: Pontypridd 43 Cross Keys 12
Wedi’r canlyniad fe ddywedodd cefnwr Pontypridd, Dale Stuckey, sydd wedi sgorio 100 a mwy o geisiau dros y clwb: “Dwi wedi colli yn y Ffeinal ddwywaith ac felly mae ennill heddiw’n golygu llawer iawn i mi.
“Mae hi’n ddegawd a mwy bellach ers i Bontypridd ennill y Cwpan – ac felly mae hon yn fuddugoliaeth enfawr i ni fel clwb.”