Cwestiynau am Yr Alltud
Ffurfiwyd y Cymry Alltud ym 1990 ac mae’n adran o Undeb Rygbi Cymru sy’n ceisio nodi, recriwtio a datblygu chwaraewyr cymwys (bechgyn / dynion a merched / menywod ) sy’n byw, neu’n mynd i ysgolion a phrifysgolion, y tu allan i Gymru, yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae hyn yn cynnwys chwaraewyr hŷn ‘elitaidd’ sydd â’r potensial i chwarae rygbi cynrychiadol Rhanbarthol a Chenedlaethol yng Nghymru.
Fel chwaraewr, rydych chi’n gymwys (h.y. yn gymwys i chwarae dros Gymru) i fod yn rhan o strwythur y Cymry Alltud os:
- Cawsoch eich geni yng Nghymru, neu,
- Os yw un o’ch rhieni yn enedigol o Gymru, neu,
- Os yw un taid neu nain yn enedigol o Gymru.
Mewn rhai achosion gallai chwaraewyr ddod yn gymwys ar ôl iddynt fyw yn barhaol yng Nghymru am 36 mis yn olynol (yn newid i 60 mis yn fuan).
Yn gyffredinol mae’r Cymry Alltud yn ymdrin â chwaraewyr 13 oed a hŷn ond mae’r gweithgarwch mwyaf yn digwydd o 16 oed ymlaen. Mae rhaglen yr Alltudion hefyd yn ymgysylltu â myfyrwyr prifysgol a chwaraewyr hŷn ‘elitaidd’ cymwys sydd wedi eu lleoli yn unrhyw fan yn y byd ac sy’n dymuno dilyn llwybr yng Nghymru.
Pan fyddwch yn sicr eich bod yn gymwys, ewch i dudalen Cymry Alltud lle gallwch gyflwyno eich manylion. Defnyddiwch yr un fformat i ddiweddaru eich proffil chwaraewr hefyd. Bydd amrywiaeth o ddolenni cyswllt yn eich arwain at dudalennau gwefan Alltudion URC lle cewch y newyddion diweddaraf, calendr digwyddiadau ac ati. Gallai dilyn cyfrif Twitter yr Alltudion fod o fudd @welshexiles.
Bydd eich manylion yn cael eu rhoi yng nghronfa ddata chwaraewyr Alltud URC. Mae’n bwysig iawn eich bod yn diweddaru eich ‘Proffil Chwaraewr’ yn gyson (dewisiadau cynrychiadol, newid taldra, pwysau, safle chwarae, manylion cyswllt ac ati) gan fod y wybodaeth hon yn aml yn cael ei defnyddio i benderfynu pa ddigwyddiadau sy’n addas i wahodd chwaraewyr iddynt. Mae’r rhan fwyaf o chwaraewyr yn gwneud hyn bob ychydig o wythnosau ac mae ond yn cymryd ychydig o funudau. Mae cannoedd o fechgyn yn y rhaglen felly mae’n amhosib gwahodd pob chwaraewr cofrestredig i bob digwyddiad. Efallai caiff rhai chwaraewyr wahoddiad i ‘wersylloedd’ yng Nghymru lle cânt eu hasesu’n fanylach gan hyfforddwyr URC. Hefyd bydd URC yn trefnu gwersylloedd asesu rhanbarthol mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Lloegr. Bydd y digwyddiadau hyn yn agored i bob chwaraewr cofrestredig. Cyhoeddir y manylion ar dudalennau gwefan yr Alltudion.
Yn fwriadol ceir dim ond 3 neu 4 digwyddiad ar gyfer pob grŵp oedran bob blwyddyn. Ychydig iawn o gemau a geir ond mae sawl gwersyll a digwyddiadau yn ystod tymor a fydd yn cyflwyno chwaraewyr i ‘lwybr’ Cymru. Nid oes gwarant y bydd chwaraewr sy’n cofrestru gyda’r ‘Alltudwyr’ yn cael ei ddewis i chwarae mewn gêm iddynt o gwbl.
URC sy’n dewis timau ar gyfer unrhyw gêm. Mae’r dewisiadau wedi eu seilio ar botensial y chwaraewyr i symud ymlaen ar hyd lwybr chwaraewyr Rhanbarthol a Chenedlaethol URC. Fel soniwyd eisoes , gallai rhai chwaraewyr gael gwahoddiad i sesiynau ‘elitaidd’ URC yng Nghanolfan Ragoriaeth Genedlaethol URC ger Caerdydd. Gallai digwyddiadau o’r fath arwain at chwaraewyr yn cael gwahoddiad i ymuno â charfanau grwpiau oedran cynrychiadol cenedlaethol Cymru.
Gallech! Mae nifer o chwaraewyr ‘Alltud’ wedi ennill cap Cymru yn y blynyddoedd diweddar. Hefyd cafodd chwaraewyr wahoddiad i ymuno ag Academïau Rhanbarthol gan ennill cytundebau proffesiynol gyda Rhanbarthau Cymru.
Mae gan ‘Yr Alltudion’ gysylltiadau cryf â’r ysgolion annibynnol mwyaf blaenllaw yng Nghymru lle efallai y bydd ysgoloriaethau ar gael i chwaraewyr ifanc medrus iawn. Mae gan ‘Yr Alltudion’ hefyd berthynas agos â phrifysgolion yng Nghymru a gallant roi cyngor a hwyluso cyflwyniadau i chwaraewyr sy’n dymuno cyfuno eu datblygiad academaidd a’u datblygiad rygbi tra byddant yn astudio mewn prifysgol yng Nghymru. Gallai cefnogwyr sy’n dymuno ymuno â ‘Clwb Exiles’ gysylltu ag Ysgrifennydd yr Alltudion, Russell Harris drwy e-bost; secretary.wruexiles@gmail.com
Darperir cit â brand Yr Alltudion a dillad ar ddiwrnod y gêm ond yn anffodus mae’n rhaid ei ddychwelyd ar ddiwedd pob gêm. Mae pob cit, dillad ac atodion URC ar werth yn Siop URC
Cynhelir yr hyfforddiant i gyd gan hyfforddwyr staff URC neu gan hyfforddwyr Gradd Oedran Rhanbarthol wedi eu lleoli yng Nghymru. Er hynny gallai fod swyddogaethau gwirfoddol eraill ar gael ichi. Er enghraifft mae gennym ni nifer o ‘Swyddogion Cyswllt Alltudion URC’ gwirfoddol wedi eu lleoli ledled y Deyrnas Unedig a thramor.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech drafod cyfleoedd llwybr penodol, cysylltwch â Swyddog Cenedlaethol Alltudion URC, Gareth Davies, drwy e-bost; gdavies2@wru.wales
Edrychwn ymlaen at eich cynnwys yn ‘Yr Alltudion’ !