Rygbi Menter
Ein Stori Ni
Mae’n rhaid i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn y gymdeithas fodern heddiw fod yn weithgarwch dynamig a bod yn gydnaws â ffyrdd o fyw modern. Bydd Menter Rygbi yn tyfu, yn gwella ac yn diogelu dyfodol rygbi’r undeb yng Nghymru drwy ffurfiau gwahanol a masnachol, gan ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyfranogwyr o bob oed drwy gynnig DEWIS iddyn nhw.
Nodau:
Gêm Wahanol – I gynnal a chynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan mewn rygbi drwy ffurfiau gwahanol / newydd o’r gêm a fydd yn rhoi profiadau rygbi cadarnhaol i gynulleidfaoedd amrywiol.
Rygbi Masnachol – I gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan yn y farchnad rygbi masnachol, gan roi profiad cadarnhaol o Rygbi Cymru i’r defnyddiwr.
Partneriaid a Phrosiectau – I gynyddu’r cyfleoedd i gymryd rhan drwy weithio gyda phartneriaid i ddarparu dewislen o rygbi amrywiol a chynhwysol ar draws pob cymuned yng Nghymru.
Sut beth fydd llwyddiant?
• Detholiad cryf a modern o gyfleoedd i gymryd rhan sy’n wahanol ac yn fasnachol
• Strategaeth gyfathrebu a marchnata wedi ei harwain gan fewnwelediad ac yn cefnogi ac yn hybu menter rygbi
• Seilwaith a gweithlu sy’n sefydlu rygbi gwahanol yng Nghymru
• Rygbi yw’r cyfrwng perffaith i bartneriaid ymgysylltu â’r gymuned
• Rhwydwaith o bartneriaid cyflawni strategol sy’n cefnogi rygbi
Sut fyddwn ni’n cyflawni ein huchelgais?
Datblygu Pobl
• Creu, gweithredu a datblygu rhaglen rygbi wahanol, gynaliadwy â chynhwysiant yn graidd iddi – “crys i bawb”
• Nodi a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes datblygu rygbi a diwydiant chwaraeon
Rygbi Masnachol
• Creu, gweithredu a datblygu rhaglen rygbi masnachol gynaliadwy
• Nodi ac ymwreiddio menter rygbi yn rhan annatod o wead y gymuned rygbi
Partneriaid a Phrosiectau
• Cydweithredu â phartneriaid ar lefel strategol a weithredol
• Sefydlu a gweithredu strategaeth gyfathrebu a masnachol i gefnogi menter rygbi
• Hyblygrwydd o ran cyflawni’n lleol drwy gyfres o gynigion, gydag adnoddau a chefnogaeth
• 30,000 o gyfleoedd rygbi drwy gydol blwyddyn galendr, ar draws 200 a mwy o wyliau rygbi