Y rhaglen canolfannau
Cenhadaeth y Rhaglen Hwb yw:
“Rhoi cyfle i bobl ifanc a’u teuluoedd gymryd rhan mewn rygbi drwy sefydliadau addysg Cymru, gan gefnogi datblygiad unigolion iach, dewr, disgybledig a llawn parch ar gyfer y gêm ac ar gyfer y gymdeithas gyfan yng Nghymru”
Dyma Amcanion y Rhaglen Hwb:
-Sefydlu hybiau cynaliadwy (a lle bo’n briodol mewn partneriaeth â sefydliadau eraill) mewn ardaloedd o bwysigrwydd strategol, sy’n cefnogi’r broses o leoli Swyddogion Hwb i ddatblygu’r gêm rygbi ymhlith pobl ifanc
-Cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cael eu cyflwyno i rygbi ac sydd â phrofiad cadarnhaol o’r gêm
-Cynyddu nifer y bobl ifanc mewn addysg sy’n ymgysylltu’n weithredol â rygbi mewn clybiau neu ganolfannau clwstwr a sefydliadau rygbi eraill
-Gweithio ar y cyd â chlybiau rygbi i gadw chwaraewyr mewn rygbi dros 16 oed a rygbi oedolion, ac i ddatblygu hyfforddwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr
-Darparu cyfleoedd cyfoethogi ar gyfer pobl ifanc yn y gêm rygbi, megis gwella sgiliau byw a chyflogadwyedd yn y dyfodol er budd eu cymunedau
Tyfu’r gweithlu rygbi yng Nghymru, drwy leoli a datblygu pobl, a chreu a chadw arweinwyr ifanc yn y gêm
-Cyfrannu at amcanion unigol a phwrpasol y sefydliadau addysg mewn meysydd sy’n cynnwys ond nid yn gyfyngedig i lefelau o gymhwyster academaidd, ymgysylltu a phresenoldeb, disgyblaeth, a chydlyniant cymunedol
-I gyfrannu at les cymdeithasol a ffisegol cymunedau lleol, drwy hybu ffordd o fyw egnïol ac iach, yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2017 Model yr Hwb