Bwrdd Rygbi Proffesiynol
Mae’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn gasgliad o gynrychiolwyr o’r pum corff allweddol sydd wrth galon rygbi proffesiynol yng Nghymru: Caerdydd, Dreigiau, Gweilch, Scarlets ac Undeb Rygbi Cymru. Mae gan y pum corff gyfrifoldeb cyfartal am y gêm broffesiynol yn ein gwlad.
Mae’r BRP (PRB) yn cynnwys cynrychiolwyr o’r pum corff gan gynnwys cynrychiolwyr o’r pedwar rhanbarth – Richard Holland (Caerdydd), David Wright (Dreigiau), Lance Bradley (Gweilch) a Simon Muderack (Scarlets). Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Abi Tierney a Chyfarwyddwr Cyllid dros dro Undeb Rygbi Cymru Dan Mills hefyd yn aelodau o’r Bwrdd. Mae dau aelod annibynnol hefyd sef y Cadeirydd Malcolm Wall a Marianne Økland.
Bydd Jon Daniels (Cadeirydd Bwrdd Cynnal a Chadw Rygbi RMB) a Gareth Lewis o Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) yn cael arsylwi’r cyfarfodydd ond ni fydd ganddynt yr hawl i bleidleisio.
Gweinydd: Natasha Morgan