Meddygol
Ffeithiau Ynghylch Cyfergyd
- Anaf i’r ymennydd yw cyfergyd
- Mae pob achos o gyfergyd yn ddifrifol
- Yn aml, gall cyfergyd ddigwydd heb fod yr unigolyn yn mynd yn anymwybodol
- Rhaid i chwaraewyr sy’n dangos unrhyw arwyddion o gyfergyd neu unrhyw symptomau cyfergyd gael eu hanfon o’r cae chwarae neu’r cae hyfforddi yn syth
- Rhaid sicrhau nad yw chwaraewyr yn dychwelyd i chwarae ar yr un diwrnod ag yr amheuir eu bod wedi dioddef cyfergyd
- Dylai pob chwaraewr* sydd wedi dioddef cyfergyd gael ei gyfeirio at ymarferydd meddygol
- Rhaid sicrhau nad yw chwaraewyr yn ailafael mewn unrhyw gamp sy’n golygu cyswllt corfforol llawn â chwaraewyr eraill, nes bydd wedi cael cymeradwyaeth gan ymarferydd meddygol
- Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella o gyfergyd ar ôl gadael i’w corff a’u hymennydd orffwys
- Efallai y bydd plant a phobl ifanc yn cymryd mwy o amser i wella ar ôl dioddef cyfergyd
- Gall cyfergyd ddigwydd heb fod yr unigolyn wedi dioddef ergyd amlwg i’w ben
- Dylid Adnabod ac Anfon o’r Cae unrhyw chwaraewyr sydd wedi dioddef cyfergyd, er mwyn atal unrhyw anaf pellach neu farwolaeth hyd yn oed
* Er mai enw gwrywaidd yw ‘chwaraewr’ yn y Gymraeg, dylid cymryd ei fod bob amser yn cyfeirio at fechgyn a merched yn y ddogfen hon.
Beth Yw Cyfergyd?
- Anaf trawmatig i’r ymennydd yw cyfergyd, sy’n amharu ar y modd y mae’r ymennydd yn gweithio
- Mae gan gyfergyd lawer o symptomau. Mae’r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys cur pen, penysgafnder, problemau cofio a phroblemau cadw cydbwysedd
- Bydd unigolyn yn mynd yn anymwybodol neu’n cael ei lorio mewn llai na 10% o’r holl achosion o gyfergyd sy’n digwydd
- Nid oes yn rhaid bod chwaraewr wedi bod yn anymwybodol i gael diagnosis o gyfergyd
- Bydd sgan o’r ymennydd yn ymddangos yn normal fel rheol
Beth Sy’n Achosi Cyfergyd?
Gall cyfergyd gael ei achosi gan ergyd uniongyrchol i’r pen, ond gall ddigwydd hefyd pan fydd ergydion i rannau eraill y corff yn peri i’r pen symud yn sydyn (e.e. anafiadau tebyg i anafiadau atchwipio).
Pwy Sydd Mewn Perygl?
Gall cyfergyd ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oed. Fodd bynnag, mae chwaraewyr sy’n blant ac yn bobl ifanc*:
- Yn fwy tueddol o ddioddef cyfergyd
- Yn cymryd mwy o amser i wella
- Yn dioddef problemau gwaeth o safbwynt cofio a phrosesu meddyliol
- Yn fwy tueddol o ddioddef cymhlethdodau niwrolegol prin a pheryglus, a allai arwain at farwolaeth mewn rhai amgylchiadau oherwydd bod yr ymennydd yn chwyddo (caiff hynny ei alw’n syndrom ail effaith)