Diogelu Plant
Diogelu
Mae rygbi yn gêm a all gael dylanwad cadarnhaol ar blant a helpu i ddatblygu nodweddion gwerthfawr fel y gallu i arwain, hyder, a hunan-barch. Mae gan glybiau rygbi ledled Cymru ran allweddol wrth ddarparu cyfleoedd i rymuso plant er mwyn iddynt ddatblygu’r nodweddion hyn. Mae hyfforddi yn agwedd allweddol ar y datblygiad hwn ac mae angen i glybiau ddeall eu cyfrifoldeb i hybu a chyflawni arfer hyfforddi da a phrofiad rygbi cadarnhaol.
Mae diogelu yn gydran allweddol o ymgyrch URC i gefnogi gwaith ein gwirfoddolwyr yn ein cymunedau a’n clybiau ledled Cymru. Rydym ni’n deall pa mor bwysig yw hi i esblygu ein polisïau, gweithdrefnau ac arfer yn gyson i sicrhau diogelwch y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein gêm.
Mae URC wedi ymrwymo i weithio’n galed ochr yn ochr â’n clybiau i gryfhau pob agwedd ar ein gweithgareddau diogelu er mwyn i blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed ac sy’n cymryd rhan ym maes rygbi’r undeb barhau i fwynhau’r gêm mewn amgylchedd diogel a chadarnhaol.
Mae URC wedi cyflawni Lefel Tri o Safonau Diogelu mewn Chwaraeon yr NSPCC.
Cliciwch yma i lawrlwytho ‘Peidiwch Â’i Daclo Ar Eich Pen Eich Hun’
Uned Diogelu URC
Clive Chard – Cydgysylltydd Diogelu
cchard@wru.wales
02920 822330