Gwrth-gyffuriau
Atal Dopio
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn condemnio dopio yn rygbi ac mae wedi ymrwymo i ymladd yn erbyn dopio mewn chwaraeon. Mae’n gwbl groes i uniondeb rygbi fel math o chwaraeon.
Rheolau Atal Dopio URC yw Rheolau Atal Dopio’r DU ac maent yn cydymffurfio â Rheoliad 21 Rygbi’r Byd (Atal Dopio), a Chod Atal Dopio’r Byd.
Nid oes lle yn y Cod Newydd i ddiofalwch na pheidio â bod yn ymwybodol, ac mae pob chwaraewr yn cael ei annog i fwrw golwg dros y rhestr o’r hyn a waherddir sy’n cynnwys meddyginiaeth ac atchwanegiadau oddi ar y silff.
Cliciwch y ddolen gyswllt i gael cadarnhad:
Meddyginiaethau
Atchwanegiadau
Mae URC yn cydnabod pwysigrwydd profion, mewn ac allan o gystadleuaeth, sy’n amddiffyn uniondeb y gêm ac yn atal unrhyw demtasiwn i dopio.
Mae URC hefyd yn cydnabod pwysigrwydd addysg i sefydlu amgylchedd sy’n dylanwadu ar ymddygiad heb dopio ymhlith chwaraewyr a staff cymorth gan leihau’r perygl o dopio trwy amryfusedd.
Mae URC:
• Wedi penodi UK Sport fel ei Sefydliad Atal Dopio Cenedlaethol, UK Anti-Doping yw olynydd UK Sport.
• Wedi eu gorfodi gan Rygbi’r Byd i lunio rheoliadau Atal Dopio
• Yn aelod ac yn ddarostyngedig i awdurdod atal dopio Rygbi’r Byd (Rheoliad 21)
• Wedi mabwysiadu Rheolau Atal Dopio’r DU sydd wedi eu cyhoeddi gan UKAD
• A’i reolau Atal Dopio yn cydymffurfio â Chod Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon (WADA) ac yn profi am sylweddau ar restr sylweddau gwaharddedig WADA