Recriwtio
Swyddi Gwag
Nodwch y canlynol pan fyddwch yn gwneud cais am swydd o fewn Grŵp Undeb Rygbi Cymru:
• Dylid anfon pob cais drwy e-bost at hr@wru.wales, oni bai y nodir yn wahanol
• Dylai llinell pwnc y neges gynnwys – teitl y swydd, enw, h.y. Cynorthwy-ydd Manwerthu: John Smith
• Dylai ceisiadau gynnwys CV cyfredol a llythyr eglurhaol; nid oes proses o wneud cais drwy ffurflen
• Dylid cyflwyno ceisiadau ar ffurf PDF neu Word.
Mae Grŵp Undeb Rygbi Cymru wedi ymrwymo i gadw eich data personol yn ddiogel. Mae ein Polisi Preifatrwydd Recriwtio yn berthnasol i bob ymgeisydd sy’n rhan o’n proses recriwtio. Mae ein polisi yn eich hysbysu am y math o wybodaeth y byddwn yn ei phrosesu, pam yr ydym yn ei phrosesu a sut y gall y prosesu effeithio arnoch chi. Drwy roi eich data personol i ni, rydych chi’n cydsynio i ni brosesu eich data yn unol â’r polisi hwn.
Lletygarwch
Mae Profiad Stadiwm Principality yn chwilio am bobl angerddol, egnïol a brwdfrydig i ymuno â’n timau diwrnod digwyddiad. Fel darparwyr lletygarwch neilltuedig Stadiwm Genedlaethol Cymru sy’n fyd enwog, cartref Rygbi Cymru – Stadiwm Principality.
Mae gennym ni amrywiaeth o gyfleoedd ar gael, felly os ydych chi’n chwilio am waith hyblyg i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau presennol neu os ydych yn fyfyriwr yn chwilio am rywfaint o brofiad – bydd gennym ni swydd addas ar eich cyfer! Nid oes angen profiad blaenorol gan fod ein tîm talentog wedi ymrwymo i’ch hyfforddi a’ch arwain chi.
Rydym ni’n chwilio am…
Bobl â phersonoliaeth wych, sy’n dymuno gweithio’n rhan o dîm, i roi profiadau eithriadol i’r gwesteion
“Beth fyddaf yn ei wneud?”
Yn rhan o’n prif dîm byddwch yn gweithio yn ein hystafelloedd a’n lolfeydd lletygarwch ar draws y Stadiwm, yn gweini bwyd a diod ac yn cynnig y gwasanaeth o’r safon gorau i’n gwestai
Rydym yn cynnig fel cyflogwr
Cyfraddau cyflog rhagorol wedi eu cyfuno â chyfle gwerthfawr i gynyddu eich sgiliau ac ychwanegu at eich datblygiad personol.
Byddwn yn sicrhau fel aelod o’n tîm
Y cewch gyfle i weithio cyn lleied neu gymaint ag yr ydych yn dymuno, a phan fyddwch yn gweithio mewn digwyddiadau fe fyddwn yn darparu gwisg drwsiadus a phryd o fwyd yn ystod eich sifft. Yn ogystal â hynny byddwch yn rhan o dîm sydd wedi helpu darparu lletygarwch yn ystod Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Cwpan Rygbi’r Byd ac amrywiaeth o gyngherddau, digwyddiadau Bocsio a chiniawau corfforaethol.
Gwnewch Gais heddiw i gymryd y cam cyntaf ar eich taith
Mae URC yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn cydnabod gwerth gweithlu amrywiol ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.