Hanes
Mae modd olrhain gwreiddiau rygbi i amryw o ffynonellau, megis y gemau llawbel y byddai’r Rhufeiniaid yn eu chwarae mewn caerau megis Caerllion a Chaer-went, y gêm wyllt o’r enw ‘La Soule’ a oedd yn cael ei chwarae yn Normandi, y gêm ‘chwarae bando’ o Gernyw sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd, neu ornestau rhyngbentrefol y ‘cnapan’ a gynhaliwyd yn Sir Benfro yn yr 17eg ganrif. Ond ni waeth o ble mae’r gêm yn dod, does dim dwywaith nad yw’n rhan o enaid cenedl y Cymry.
Yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg y cyflwynwyd y gêm i Gymru, a defnyddiwyd rheolau Ysgol Rugby. Ym mis Medi 1875 sefydlwyd y South Wales Football Union yn Aberhonddu, gyda’r bwriad o chwarae gemau yn erbyn y prif glybiau yng ngorllewin Lloegr a’r cyffiniau a rheolau rygbi oedd y cod a fyddai’n cael ei fabwysiadu.
Ond prysurwyd y broses o ffurfio’r hyn a elwir erbyn heddiw’n Undeb Rygbi Cymru (URC) pan ddewisodd y gwr hynod hwnnw, Richard Mullock, dîm swyddogol cyntaf Cymru i wynebu Lloegr ar Gae Mr Richardson, Blackheath ar 19 Chwefror 1881.
Mae URC wedi bod yn warcheidwad gêm genedlaethol Cymru ers 1881. Ar 12 Mawrth 1881, daeth cynrychiolwyr o 11 o glybiau – Abertawe, Llanbedr Pont Steffan, Llandeilo, Caerdydd, Casnewydd, Llanelli, Merthyr Tudful, Llanymddyfri, Aberhonddu, Pont-y-pwl a Bangor – ynghyd yng Ngwesty’r Castell, Castell-nedd i ffurfio’r Welsh Rugby Football Union. Cynhaliwyd y cyfarfod ar yr un diwrnod ag y curodd Caerdydd dîm Llanelli ym mhedwaredd gêm derfynol Cwpan Her De Cymru yng Nghastell-nedd.
Etholwyd Cyril Chambers o Swansea Football Club yn Llywydd cyntaf y Welsh Rugby Football Union, a’r Ysgrifennydd a’r Trysorydd Anrhydeddus cyntaf oedd Richard Mullock o Gasnewydd. Mullock a fu’n gyfrifol am ddewis y tîm a fyddai’n cynrychioli Cymru yn y gêm ryngwladol gyntaf drychinebus honno yn Blackheath yn erbyn tîm o Loegr a oedd eisoes wedi bod yn chwarae gemau rhyngwladol ers degawd cyfan gan golli ddwywaith yn unig mewn 17 o gemau prawf cyn hynny.
Roedd hi fel mynd ag wyn i’r lladdfa. Capten Cymru oedd James Bevan, gwr a anwyd yn Awstralia ac a oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt, a thorrwyd crib y Cymry wrth i Loegr ennill o saith gôl, un gôl adlam a chwe chais i ddim, a fyddai heddiw’n cyfateb i sgôr o 82-0. Diolch i’r drefn, nid oedd unrhyw bwyntiau’n cael eu rhoi ar gyfer ceisiau a chiciau bryd hynny. Dim ond yn 1890, ar ôl chwe ymgais aflwyddiannus, y llwyddodd Cymru i gyflawni’r ‘Greal Sanctaidd’ a churo Lloegr o’r diwedd. Roedd cais gan ‘Buller’ Stadden yn y gêm yn Crown Flat, Dewsbury (a oedd yn werth un pwynt bryd hynny) yn ddigon i ennill y dydd, ac roedd tîm yr arwr Arthur Gould bellach yn barod i herio unrhyw wrthwynebydd.
Enillwyd y Goron Driphlyg gyntaf yn 1893, a dyna oedd dechrau’r ‘Oes Aur’ gyntaf, pan oedd y Cymry yn feistri’r gêm yn fyd-eang. Curodd Cymru y Maoris, y tîm cyntaf i deithio’r DU, yn 1888. Yn ogystal, trechwyd y tîm a oedd heb golli gêm fel arall, sef Crysau Duon Seland Newydd dan arweiniad Dave Gallaher – gyda sgôr o 3-0 yn 1905 diolch i gais Teddy Morgan. Roedd y gêm anhygoel honno, sef yr unig un i Seland Newydd ei cholli ar y daith honno, yn anad yr un gêm arall yn hanes y gamp wedi helpu i roi rygbi’r undeb ar y map ac ennyn diddordeb yn y gamp ledled y byd.
Denodd y ‘Springboks’ cyntaf dorf o dros 40,000 o bobl i Sain Helen yn 1906 ar gyfer gêm a enillwyd gan yr ymwelwyr gyda sgôr o 11-0, ond curwyd y tîm cyntaf o Awstralia i deithio i hemisffer y gogledd gyda sgôr o 9-6 yng Nghaerdydd ddwy flynedd wedyn. Roedd y blynyddoedd hynny ar ddechrau’r 20fed ganrif yn frith o fuddugoliaethau i Gymru a chwaraewyr o’r safon uchaf. Mae Gould, Gwyn Nicholls, Jehoida Hodges, Willie Llewellyn, Percy Bush, Boxer Harding, Dickie Owen, Billy Trew a’r brodyr Billy a Jack Bancroft yn dal i gael eu hystyried ymysg y chwaraewyr gorau erioed o Gymru.
Roedd ‘Oes Aur’ gyntaf Cymru yn cynnwys y Gamp Lawn gyntaf i unrhyw wlad ei hennill a’r rhediad hiraf erioed o 11 gêm heb golli rhwng mis Mawrth 1907 a mis Ionawr 1910. Pan lwyddodd tîm Rob Howley i efelychu’r gamp hon yn 1999, gwnaeth hynny mewn wyth mis. Cipiwyd y Gamp Lawn yn 1908, 1909 ac 1911, enillwyd y Goron Driphlyg yn 1900, 1902, 1905, 1908, 1909 ac 1911, a chofnodwyd buddugoliaethau yn erbyn Seland Newydd yn 1905 ac Awstralia yn 1908. Roedd Cymru yn un o rymoedd mawr y gêm yn fyd-eang.
Roedd y dauddegau a’r tridegau’n gyfnod anos pan gafwyd llai o lwyddiannau amlwg. Fodd bynnag, cofnodwyd y fuddugoliaeth gyntaf yng nghartref newydd rygbi Lloegr, Twickenham, yn 1933 ar ôl 23 blynedd o ymdrechu, a churwyd cewri’r ‘Crysau Duon’ am yr eildro yng Nghaerdydd yn 1935 gyda sgôr o 13-12. Dyma’r cyfnod pan oedd chwaraewyr megis Jerry Shea, Ivor Jones, Jack Bassett a Wilf Wooller yn dal y dychymyg.
Ni chwaraewyd rygbi rhyngwladol yn ystod y rhan fwyaf o’r pedwardegau oherwydd yr Ail Ryfel Byd, a dim ond pedwar chwaraewr a lwyddodd i bontio’r bwlch o saith mlynedd, sef y digyffelyb Haydn Tanner, Bunner Travers, Les Manfield a Howard Davies.
Yn ystod y pumdegau daeth rygbi Cymru i amlygrwydd ar lefel fyd-eang unwaith yn rhagor pan enillwyd y Gamp Lawn yn 1950 ac 1952 dan gapteiniaeth John Gwilliam, a chipiwyd y drydedd fuddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd yn 1953. Wrth chwarae dros Lewod Prydain ac Iwerddon daeth Bleddyn Williams, Jack Matthews, Cliff Morgan, Roy John, Ken Jones, Billy Williams, Rhys Williams, Bryn Meredith a Clem Thomas yn enwau cyfarwydd iawn ac yn chwaraewyr a oedd yn cael eu parchu’n fawr ar draws y byd. Daeth cyfnod o 39 o flynyddoedd dilewyrch i ben yn 1950 pan enillwyd y Gamp Lawn ar ôl curo Ffrainc yng Nghaerdydd gyda sgôr o 21-0.
Bu’n rhaid aros 19 blynedd ar ôl llwyddiant 1952 cyn cipio’r chweched Gamp Lawn yn 1971, a dyma ddechrau’r cyfnod a alwyd yn ail ‘Oes Aur’ Cymru. Enillodd tîm Clive Rowlands y Goron Driphlyg yn 1965, ond ni ddychwelodd y dyddiau da go iawn nes iddo ef gael ei benodi’n hyfforddwr Cymru yn 1969. Ef oedd yr ail berson erioed i gael ei benodi i’r swydd honno pan gymerodd yr awenau oddi ar David Nash. Roedd perfformiadau disglair drwy gydol y saithdegau gan chwaraewyr megis Gareth Edwards, Barry John, Mervyn Davies, John Taylor, JPR Williams, Gerald Davies a John Dawes yn ddigon i wneud rygbi yng Nghymru a rygbi ym Mhrydain yn destun edmygedd y byd.
Roedd y Goron Driphlyg yn 1969 wedi paratoi’r ffordd ar gyfer cipio’r Gamp Lawn yn 1971. Mae llawer o’r farn mai tîm 1971 oedd y tîm gorau erioed i wisgo crys Cymru. Yn ystod degawd disglair y saithdegau enillwyd y Gamp Lawn yn 1971, 1976 ac 1978 a chipiwyd y Goron Driphlyg yn 1971, 1976, 1977, 1978 ac 1979. Pe na bai’r gêm yn Iwerddon yn 1972 wedi’i chanslo, gallai ymgyrch ddiguro’r flwyddyn honno fod wedi arwain at Gamp Lawn arall.
Chwaraeodd 11 o Gymry yn nhîm prawf buddugol y Llewod yn Seland Newydd yn 1971, ac roedd chwe chwaraewr o Gymru yn rhan o dîm prawf buddugol y Llewod yn Ne Affrica yn 1974. Yr arwyr eraill yn nhîm Cymru yn y cyfnod hwn oedd Phil Bennett, Geoff Wheel, Allan Martin, Steve Fenwick a rheng flaen Pont-y-pwl – Charlie Faulkner, Bobby Windsor a Graham Price.
Yn yr wythdegau dathlodd URC ei ganmlwyddiant yn ystod tymor 1980-1981, a chynhaliwyd Cwpan Rygbi’r Byd am y tro cyntaf yn 1987 lle daeth crysau cochion Richard Moriarty yn drydydd ar ôl curo Awstralia. Yn ystod yr wythdegau hefyd yr ymddangosodd Jonathan Davies fel un o chwaraewyr disgleiriaf y byd, ac enillodd Cymru y Goron Driphlyg yn 1988.
Yn ystod y nawdegau trodd rygbi’r undeb yn gêm broffesiynol am y tro cyntaf pan gafwyd cyhoeddiad ym Mharis yn 1995 gan Vernon Pugh, cyn-Gadeirydd URC, y byddai’r gêm yn ‘agored’. Daeth Neil Jenkins i amlygrwydd fel y chwaraewr rhyngwladol cyntaf i sgorio dros 1,000 o bwyntiau i’w wlad, a thrawsnewidiad mwyaf y degawd oedd troi Parc yr Arfau Caerdydd yn Stadiwm y Mileniwm mewn pryd i gynnal Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999. Ar ôl cynnal gemau rygbi rhyngwladol am 113 o flynyddoedd cafodd cartref ysbrydol rygbi Cymru, Parc yr Arfau, ei ddymchwel, ei droi o gwmpas a’i ail-greu’n stadiwm rygbi mwyaf godidog y byd.
Trodd Parc yr Arfau, a fu’n gartref i dimau rygbi Cymru ers 1884 ac a oedd yn dal dros 62,000 o gefnogwyr ar ei anterth, yn Stadiwm y Mileniwm, a oedd yn cynnig sedd i bob un o’i 74,500 o gwsmeriaid. Mewn cwta dwy flynedd a hanner, ac am bris o dros £120 miliwn, cafodd canolbwynt prifddinas Cymru ei drawsnewid yn llwyr. Mae’r stadiwm eisoes wedi ei sefydlu ei hun yn un o eiconau’r Gymru fodern. Mae lluniau ohono wedi’u defnyddio yn symbol o genedl newydd, fywiog, entrepreneuraidd a hyderus. Mae’r stadiwm yn bwysig iawn i ddatblygiad Caerdydd a Chymru o safbwynt yr economi, bywyd cymdeithasol, chwaraeon a diwylliant. Nid oes yr un adeilad arall yng Nghymru yn cyfrannu mwy i economi’r wlad; nid oes yr un atyniad arall yn dod yn agos i ddenu’r un nifer o ymwelwyr, gydag 1.3 miliwn o bobl yn dod i’r stadiwm bob blwyddyn. Mae’r digwyddiadau sydd wedi cael eu cynnal yn y stadiwm yn amrywio’n fawr o ran eu natur a’u maint ac yn eu plith mae gêm derfynol Cwpan yr FA, gêm derfynol Cwpan Heineken, rhaglen Songs of Praise, gig gan y Rolling Stones, Rali Cymru Prydain Fawr a’r cyngerdd er budd dioddefwyr y tswnami, heb sôn am gemau rygbi rhyngwladol o’r safon uchaf.
Yn y cyfnod modern mae URC fel busnes yn cyfuno’r traddodiadol a’r cyfoes, gyda dros 125 mlynedd o draddodiad a threftadaeth yn ymwneud â rygbi yn rhan o’n hanes. Mae ailstrwythuro rygbi yn gamp broffesiynol wedi talu ar ei ganfed ers 2003, gan i Gymru gipio tair Camp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, 2008 a 2012, a phedwaredd bencampwriaeth yn 2013. Enillodd tîm Saith Bob Ochr Cymru Gwpan Rygbi Saith Bob Ochr y Byd yn Dubai yn 2009, a chyrhaeddodd y prif dîm pymtheg dyn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn 2011. Mae hyn oll wedi sicrhau bod y cyfnod hwn yn drydedd ‘Oes Aur’ i rygbi Cymru. Mae llwyddiannau pellach i dimau oedran penodol, yn bennaf llwyddiant tîm dan 20 Cymru a gyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Dan 20 y Byd yn 2013, wedi sicrhau bod cyflenwad o chwaraewyr dawnus wedi parhau i gyrraedd y rhanbarthau a phrif garfan Cymru, ac mae carfan Saith Bob Ochr Cymru – sy’n un o dimau craidd cylchdaith Saith Bob Ochr y Byd yr IRB – yn parhau i ddarparu cyfle gwych i chwaraewyr dawnus ifanc flodeuo a gwneud eu marc ar lwyfan byd-eang.
Bydd golygfeydd a chyffro’r tair Camp Lawn yn 2005, 2008 a 2012 yn aros yn y cof, ac roedd y golygfeydd ar ddiwedd y fuddugoliaeth orau erioed yn erbyn Lloegr (30-3) yn 2013, a arweiniodd at ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddwy flynedd yn olynol am y tro cyntaf ers 34 o flynyddoedd, wedi profi unwaith yn rhagor nad oes dim yn cyffroi ac yn uno cenedl i’r un graddau ag y mae rygbi Cymru yn ei wneud pan gaiff ei chwarae ar ei orau.
Os Arthur Gould a Gwyn Nicholls oedd arloeswyr dull a mawredd rygbi Cymru yn yr 1890au, parhaodd Billy Trew, Johnnie Williams, Jim Webb a Jack Bancroft â’r gwaith hwnnw yn yr 1900au gan ennill tair Camp Lawn. Yna cipiwyd dwy Gamp Lawn arall yn yr 1950au, gyda John Gwilliam, Roy John, Ken Jones a Lewis Jones ar flaen y gad. Yn yr 1970au Gareth Edwards, Mervyn Davies, Gerald Davies a JPR Williams oedd y cewri yn nhimau Cymru a enillodd dair Camp Lawn arall, cyn i garfan newydd o arwyr cenedlaethol ddod i’r amlwg yn yr unfed ganrif ar hugain.
Bellach, gall chwaraewyr megis Adam Jones, Gethin Jenkins a Ryan Jones – sydd wedi ennill tair Camp Lawn, tair Coron Driphlyg a phedair Pencampwriaeth y Chwe Gwlad – sefyll ochr yn ochr ag unrhyw rai o enwau mawr y gorffennol, yn yr un modd â llu o chwaraewyr eraill sydd wedi serennu dros eu gwlad a’r Llewod yng Nghymru a thramor. Mae gan rygbi Cymru orffennol disglair, presennol cyffrous a dyfodol penigamp.