Llywyddion
Dennis Gethin
Llywydd yr Undeb Rygbi Cymru
Fe’i ganwyd ar Fai 24, 1944. Yn un o saith o blant a fagwyd ym mhentref bach glofaol Blaendulais ger Castell Nedd yn Nyffryn Dulais yn Ne Cymru, roedd tad a brawd hynaf Dennis yn lowyr yn gweithio dan ddaear. Roedd yr holl deulu’n siarad Cymraeg.
Yn Ysgol Ramadeg Castell Nedd, lle daeth yn Brif Swyddog, fe’i hanogwyd i ddilyn y ddau beth a garai fwyaf, hanes a rygbi, a chafodd le yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt lle ymddiddorodd yn y ddau.
Gan feddwl y gallai’r Gyfraith gynnig llwybr i yrfa fwy addawol na hanes, fe newidiodd ei gwrs a graddio wedi pedair blynedd, gan ennill Gradd Meistr yn y Celfyddydau a Gradd Meistr yn y Gyfraith.
Wedi gadael coleg yn 1967 aeth Dennis i hyfforddi fel cyfreithiwr gan gymhwyso yn 1971. Wedi cyfnod byr mewn practis preifat fe ymunodd â Chyngor Sir Morgannwg fel eu cyfreithiwr cynorthwyol ac arhosodd yno am 2 flynedd cyn symud i Gyngor Bwrdeistref Taf-Elái lle daeth yn Brif Weithredwr y Cyngor.
Yn 1998 bu newid arall mewn gyrfa pan, wedi gadael llywodraeth leol, fe drodd at weinyddu chwaraeon, gan ddod yn Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru, swydd a ddaliodd am 5 mlynedd tan 2003. Wedi ymddeol o URC fe ymunodd â Chyngor Darlledu’r BBC yng Nghymru ac roedd yn aelod o 2004-2009.
Yn 2007 etholwyd Dennis yn Llywydd Undeb Rygbi Cymru, swydd mae’n parhau ynddi. Yn ychwanegol mae e hefyd yn dal y swyddi canlynol:
- Llywydd Rygbi’r Deillion yng Nghymru
- Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, elusen wedi ymrwymo i ddarparu cymorth a chefnogaeth i chwaraewyr rygbi a anafwyd yn ddifrifol
- Noddwr Rygbi Sirol Morgannwg
- Aelod oes o Glwb Rygbi Academwyr Cymru a Chlwb Rygbi Blaendulais
- Llywydd Côr Meibion Pontypridd
- Is-lywydd Côr Meibion De Cymru
Gyrfa ym maes Rygbi
Mae rygbi erioed wedi chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Dennis. Daeth yn Chwaraewr Rhyngwladol i Ysgolion Uwchradd Cymru yn 1963, daeth yn Lesyn Rygbi ddwy waith yng Nghaergrawnt (1965 a 1966), chwaraeodd fel cefnwr i’w bentref genedigol, Blaendulais, cyn chwarae i Abertawe, Castell Nedd, Caerdydd (1966-1971), ac yn olaf i Grwydriaid Morgannwg. Yn 1971 rhoddodd y gorau i chwarae rygbi dosbarth cyntaf er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa ym myd y gyfraith. Tra’r oedd yn chwarae i Gaergrawnt chwaraeodd yn erbyn Crysau Duon Seland Newydd yn 1963 a Wallabies.
Awstralia yn 1966. Yn ystod ei yrfa gyda Chaerdydd daliai’r record am sgorio’r pwyntiau mwyaf a chwaraeodd yn erbyn Sringboks De Affrica yn 1969.
Lywyddion undeb Rygbi Cymru
March 1881 – September 1881: Cyril Chambers
September 1881 – 1885: Victor Villiers, 7th Earl of Jersey
1885 – 1906: Sir John Llewellyn, Bart
1906 – 1947: Horace Lyne MBE
1947 – 1953: Sir David Rocyn Jones CBE
1953 – 1954: Ernest Davies
1954 – 1955: Willie Thomas MBE
1955 – 1956: Major Tommy Vile MBE
1956 – 1957: Glyn Stephens
1957 – 1958: Enoch Rees
1958 – 1959: Fred Phillips
1959 – 1960: Lt Col Percy Howells
1960 – 1961: Hopkin Thomas
1961 – 1962: Danny Davies
1962 – 1963: Wilf Faull MBE
1963 – 1964: Ewart Davies
1964 – 1965: Nathan Rocyn Jones
1965 – 1966: David Jones
1966 – 1967: Thomas Prosser BEM
1967 – 1968: Glyn Morgan
1968 – 1969: Ivor Jones CBE
1969 – 1970: Viv Phelps
1970 – 1971: Ken Harris CBE
1971 – 1972: Rhys E Williams
1972 – 1973: Vernon Parfitt BEM
1973 – 1974: Les Spence MBE
1974 – 1975: Harry Bowcett
1975 – 1976: Handel Rogers
1976 – 1977: Hywel Thomas
1977 – 1978: Rowley Jones
1978 – 1979: Luther James
1979 – 1980: Gwyn Roblin
1980 – 1981: Cliff Jones OBE
1981 – 1982: Osmond John OBE
1982 – 1983: Hermas Evans
1983 – 1984: Eirwyn Davies
1984 – 1985: Ken Gwilym
1985 – 1986: Alun Thomas
1986 – 1987: Desmond Barnett
1987 – 1988: George Morgan
1988 – 1989: Myrddin Jones
1989 – 1990: Clive Rowlands OBE
1990 – 1991: GJwilym Treharne
1991 – 1992: Ieuan Evans
1992 – 1993: Graham Tregidon
1993 – 2004: Sir Tasker Watkins VC
2004 – 2006: Keith Alun Rowlands
May 2007 – October 2007: Glanmor S Griffiths
October 2007 – Present: Dennis Gethin OBE