Cystadleuaeth 7 bob ochr yr Urdd 2014
Cynhaliwyd cystadleuaeth flynyddol 7 bob ochr yr Urdd ar ddau safle yn Llanelli a Phorth Tywyn yn ddiweddar. Yn ystod y digwyddiad deuddydd, gwelwyd bechgyn a merched o bob cwr o Gymru yn cystadlu dan 13 oed, dan 15 oed a than 18 oed. Cawsom sgwrs â rhai o’r chwaraewyr, y trefnwyr a’r hyfforddwyr er mwyn cael eu barn am y gystadleuaeth eleni.