Gwahoddwyd Dee, seren y Dreigiau, i Heol Sardis i siarad gyda’r tîm eleni cyn iddyn nhw fynd benben â Choleg y Cymoedd yn rownd derfynol Cynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru.
Bydd yr ornest rhwng y ddau dîm i’w gweld yn fyw ar wefan S4C a thudalen Facebook Rygbi Pawb am 7.30pm nos yfory, gydag uchafbwyntiau Rygbi Pawb ar y teledu ar S4C ddydd Mercher am 10.30pm.
Am y tro cyntaf ers i’r gystadleuaeth gael ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl, ni fydd Coleg Sir Gâr yn y rownd derfynol, tra bod Coleg Gwent yn ymddangos am y tro cyntaf ers iddynt ennill y bencampwriaeth yn 2012.
Dee – sydd ar fin ychwanegu at ei 29 cap yn y Chwe Gwlad sydd ar ddod – oedd bachwr Coleg Gwent y diwrnod hwnnw wyth mlynedd yn ôl, felly nid yw’n syndod bod hyfforddwr y coleg, Scott Matthews, wedi gofyn iddo annerch y myfyrwyr eleni.
Dywedodd Dee: “Mae Scotty Matthews wedi gofyn i mi fynd i lawr a siarad gyda’r bechgyn cyn y gêm. Mi fyddaf i’n ceisio rhannu ychydig o fy mhrofiad gyda nhw.
“Mi fyddaf i yno i gefnogi’r bechgyn a byddai’n wych gweld nhw’n ennill eto – mae’n ffantastig gweld nhw’n cyrraedd y rownd derfynol eto.
“Cafodd rygbi Gwent drafferth y llynedd gyda mwy nag un tîm yn mynd i lawr o Uwch Gynghrair Cymru i’r Bencampwriaeth, felly mae’n dda gweld pobl ifanc yn dod trwodd eto. Byddant yn bwydo i mewn i’r clybiau ar y lefelau hynny, ac i’r Dreigiau yn y pendraw gobeithio.”
Chwaraeodd Matthews yn y rownd derfynol nôl yn 2012, ynghyd â Dee a nifer o chwaraewyr a aeth ymlaen i chwarae rygbi rhanbarthol i’r Dreigiau, fel Ollie Griffiths, Jack Dixon, James Benjamin ac Ethan Davies.
Dim ond un gêm yn unig mae Coleg Gwent wedi golli y tymor hwn – a hynny yn erbyn pencampwyr y llynedd, Coleg y Cymoedd, felly mi fydd Gwŷr Gwent yn gobeithio talu’r pwyth yn ôl.
Aeth y ras i gipio’r ddau safle uchaf i’r funud olaf, gyda Sir Gâr a Choleg Caerdydd a’r Fro yn colli allan, ar ôl i Gwent drechu Llanymddyfri o 39-15 i gipio eu lle yn y rownd derfynol.
Roedd y fuddugoliaeth honno’n cynnwys pedwar cais gan asgellwr dan 18 Cymru, Carrick McDonough – un o lond dwrn o chwaraewyr cyffroes fydd yn gobeithio efelychu Dee drwy gynrychioli’r Dreigiau un diwrnod.
Mae pwysau’r gynghrair yn sylfaen berffaith i’r rhai sy’n symud ymlaen i rygbi proffesiynol, meddai Dee.
“Fe aethon ni o hyfforddi dwy neu dair noson yr wythnos i gael diwrnodau cyfan wedi’u gosod mewn awyrgylch broffesiynol. Roedd yr awyrgylch yn debyg iawn i’r hyn dwi’n brofi o ddydd i ddydd heddiw.
“Er ein bod ni’n cael gwersi coleg ar wahân, roedd yna amseroedd penodol pan fyddai pawb gyda’i gilydd ar y cae neu yn y gampfa. Roedd yr wythnos yn cael ei osod allan yn union fel wythnos tîm proffesiynol.
“Nid jyst chwarae a hyfforddi roedden ni’n gwneud – roedden ni’n dysgu sut i adolygu a dadansoddi gemau’n iawn ar gyfrifiaduron. Cyn hynny, doedd neb yn gyfarwydd ar sut i adolygu gemau, ond mae’n rhan bwysig iawn o’r gêm y dyddiau hyn.
“Roedd rhai gemau yn cael eu dangos ar deledu bryd hynny, ac yn amlwg mae mwy o hynny erbyn hyn. Roedd hynny’n brofiad da i’r chwaraewyr ifanc i ddod i arfer â’r pwysau o gael camera yn eich wyneb. Mae’n ychwanegu at y cyffro yn sicr.”
Rygbi Pawb: Coleg y Cymoedd v Coleg Gwent
Yn fyw ar dudalen Facebook Rygbi Pawb ac s4c.cymru
Nos Fawrth o 7.20pm
Rygbi Pawb: Uchafbwyntiau
Nos Fercher, 10.30pm
S4C, S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Sylwebaeth Saesneg ar gael
Cynhyrchiad Lens360 ar gyfer S4C