Neidio i'r prif gynnwys

Dee yn gobeithio gweld Coleg Gwent yn cael eu coroni’n bencampwyr Cymru

Elliot Dee

Elliot Dee

Bydd bachwr Cymru, Elliot Dee, yn gobeithio gweld sêr ifanc Coleg Gwent yn disgleirio nos fory wrth i’w gyn goleg geisio cael eu coroni’n bencampwyr cenedlaethol.

Rhannu:

Gwahoddwyd Dee, seren y Dreigiau, i Heol Sardis i siarad gyda’r tîm eleni cyn iddyn nhw fynd benben â Choleg y Cymoedd yn rownd derfynol Cynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru.

Bydd yr ornest rhwng y ddau dîm i’w gweld yn fyw ar wefan S4C a thudalen Facebook Rygbi Pawb am 7.30pm nos yfory, gydag uchafbwyntiau Rygbi Pawb ar y teledu ar S4C ddydd Mercher am 10.30pm.

Am y tro cyntaf ers i’r gystadleuaeth gael ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl, ni fydd Coleg Sir Gâr yn y rownd derfynol, tra bod Coleg Gwent yn ymddangos am y tro cyntaf ers iddynt ennill y bencampwriaeth yn 2012.

Dee – sydd ar fin ychwanegu at ei 29 cap yn y Chwe Gwlad sydd ar ddod – oedd bachwr Coleg Gwent y diwrnod hwnnw wyth mlynedd yn ôl, felly nid yw’n syndod bod hyfforddwr y coleg, Scott Matthews, wedi gofyn iddo annerch y myfyrwyr eleni.

Dywedodd Dee: “Mae Scotty Matthews wedi gofyn i mi fynd i lawr a siarad gyda’r bechgyn cyn y gêm. Mi fyddaf i’n ceisio rhannu ychydig o fy mhrofiad gyda nhw.

“Mi fyddaf i yno i gefnogi’r bechgyn a byddai’n wych gweld nhw’n ennill eto – mae’n ffantastig gweld nhw’n cyrraedd y rownd derfynol eto.

“Cafodd rygbi Gwent drafferth y llynedd gyda mwy nag un tîm yn mynd i lawr o Uwch Gynghrair Cymru i’r Bencampwriaeth, felly mae’n dda gweld pobl ifanc yn dod trwodd eto. Byddant yn bwydo i mewn i’r clybiau ar y lefelau hynny, ac i’r Dreigiau yn y pendraw gobeithio.”

Chwaraeodd Matthews yn y rownd derfynol nôl yn 2012, ynghyd â Dee a nifer o chwaraewyr a aeth ymlaen i chwarae rygbi rhanbarthol i’r Dreigiau, fel Ollie Griffiths, Jack Dixon, James Benjamin ac Ethan Davies.

Dim ond un gêm yn unig mae Coleg Gwent wedi golli y tymor hwn – a hynny yn erbyn pencampwyr y llynedd, Coleg y Cymoedd, felly mi fydd Gwŷr Gwent yn gobeithio talu’r pwyth yn ôl.

Aeth y ras i gipio’r ddau safle uchaf i’r funud olaf, gyda Sir Gâr a Choleg Caerdydd a’r Fro yn colli allan, ar ôl i Gwent drechu Llanymddyfri o 39-15 i gipio eu lle yn y rownd derfynol.

Roedd y fuddugoliaeth honno’n cynnwys pedwar cais gan asgellwr dan 18 Cymru, Carrick McDonough – un o lond dwrn o chwaraewyr cyffroes fydd yn gobeithio efelychu Dee drwy gynrychioli’r Dreigiau un diwrnod.

Mae pwysau’r gynghrair yn sylfaen berffaith i’r rhai sy’n symud ymlaen i rygbi proffesiynol, meddai Dee.

“Fe aethon ni o hyfforddi dwy neu dair noson yr wythnos i gael diwrnodau cyfan wedi’u gosod mewn awyrgylch broffesiynol. Roedd yr awyrgylch yn debyg iawn i’r hyn dwi’n brofi o ddydd i ddydd heddiw.

“Er ein bod ni’n cael gwersi coleg ar wahân, roedd yna amseroedd penodol pan fyddai pawb gyda’i gilydd ar y cae neu yn y gampfa. Roedd yr wythnos yn cael ei osod allan yn union fel wythnos tîm proffesiynol.

“Nid jyst chwarae a hyfforddi roedden ni’n gwneud – roedden ni’n dysgu sut i adolygu a dadansoddi gemau’n iawn ar gyfrifiaduron. Cyn hynny, doedd neb yn gyfarwydd ar sut i adolygu gemau, ond mae’n rhan bwysig iawn o’r gêm y dyddiau hyn.

“Roedd rhai gemau yn cael eu dangos ar deledu bryd hynny, ac yn amlwg mae mwy o hynny erbyn hyn. Roedd hynny’n brofiad da i’r chwaraewyr ifanc i ddod i arfer â’r pwysau o gael camera yn eich wyneb. Mae’n ychwanegu at y cyffro yn sicr.”

Rygbi Pawb: Coleg y Cymoedd v Coleg Gwent
Yn fyw ar dudalen Facebook Rygbi Pawb ac s4c.cymru
Nos Fawrth o 7.20pm

Rygbi Pawb: Uchafbwyntiau
Nos Fercher, 10.30pm
S4C, S4C Clic,
iPlayer a llwyfannau eraill
Sylwebaeth Saesneg ar gael
Cynhyrchiad Lens360 ar gyfer S4C

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert