Ymfalchia’r Clwb hwn o Ogledd Cymru’n ei adnabyddiaeth fel Clwb ‘yng nghaol y gymuned leol’ ac roedd yn falch iawn o drosglwyddo’r allweddi pan gysyllwyd ȃ hwy gan Feddygfeydd MT De Sir Ddinbych i ddod yn Ganolfan Asesu Twymyn.
Dywedodd y Llywydd Tegid Phillips, “Fel Clwb, roeddem y awyddus iawn i wneud yr hyn a allem i gyfrannu tuag at yr ymdrech ac i gefnogi’r GIG.
“Yr oeddem wedi cau’r drysau’n barod wedi i weithgareddau rygbi ddod i ben am y tro ac felly, roedd y cyfleusterau ar gael ac roeddem yn teimlo mai hyn oedd y peth lleiaf y gallem ei wneud o dan yr amgychiadau.
“Rydym yn ffodus ein bod wedi’n lleoli mewn man cyfleus ar ffin y dref gyda maes parcio mawr, ac mae cynllun ystafelloedd y Clwb yn golygu y gellwch gael mynediad drwy un drws a gadael trwy un arall. Wrth gwrs, mae’n hystaffell ffisio ar gael yn ogystal ȃ’r cyfleusterau ystafelloedd newid.
“Bydd y cyfleuster yn un drwy apwyntiad MT ar gyfer Canol a De Sir Ddinbych yn unig ac felly, ni fydd angen i wirfoddolwyr y Clwb i gynorthwyo gyda’r maes parcio na dim arall ar y funud.
“Cwblhawyd y glanhau dwys yn barod ac mae’r paratoadau yn datblygu’n dda.”
Mae Mr Phillips yn arbennig o falch o’r cyfraniad y mae’r Clwb yn ei wneud gan fod ei deulu bob amser wedi bod yn allweddol yn rôl y Clwb Rygbi, gan ddechrau gyda’i dad, Les, prifathro lleol a cholofn y gymuned.
“Enwyd y maes, Caeau Les Phillips, fel cydnabyddiaeth o’r gwaith y bu fy nhad ei wneud er sefydlu’r Clwb yn 1977 ac rwyf yn gwybod y buasai’n falch iawn o’r gweithredodd y mae’r Clwb yn eu gwneud.”