Neidio i'r prif gynnwys

Dinbych yn falch o gynorthwyo gyda’r ymdrech Covid-19

Denbigh

Clwb Rygbi Dinbych will become a Fever Assessment Centre Photo courtesy of John Davies/CR Dinbych

Mae Clwb Rygbi Dinbych wedi agor eu drysau i Feddygon Teulu lleol gynorthwyo’n y frwydr global yn erbyn Covid-19.

Rhannu:

Ymfalchia’r Clwb hwn o Ogledd Cymru’n ei adnabyddiaeth fel Clwb ‘yng nghaol y gymuned leol’ ac roedd yn falch iawn o drosglwyddo’r allweddi pan gysyllwyd ȃ hwy gan Feddygfeydd MT De Sir Ddinbych i ddod yn Ganolfan Asesu Twymyn.

Dywedodd y Llywydd Tegid Phillips, “Fel Clwb, roeddem y awyddus iawn i wneud yr hyn a allem i gyfrannu tuag at yr ymdrech ac i gefnogi’r GIG.

“Yr oeddem wedi cau’r drysau’n barod wedi i weithgareddau rygbi ddod i ben am y tro ac felly, roedd y cyfleusterau ar gael ac roeddem yn teimlo mai hyn oedd y peth lleiaf y gallem ei wneud o dan yr amgychiadau.

“Rydym yn ffodus ein bod wedi’n lleoli mewn man cyfleus ar ffin y dref gyda maes parcio mawr, ac mae cynllun ystafelloedd y Clwb yn golygu y gellwch gael mynediad drwy un drws a gadael trwy un arall. Wrth gwrs, mae’n hystaffell ffisio ar gael  yn ogystal ȃ’r cyfleusterau ystafelloedd newid.

“Bydd y cyfleuster yn un drwy apwyntiad MT ar gyfer Canol a De Sir Ddinbych yn unig ac felly, ni fydd angen i wirfoddolwyr y Clwb i gynorthwyo gyda’r maes parcio na dim arall ar y funud.

“Cwblhawyd y glanhau dwys yn barod ac mae’r paratoadau yn datblygu’n dda.”

Mae Mr Phillips yn arbennig o falch o’r cyfraniad y mae’r Clwb yn ei wneud gan fod ei deulu bob amser wedi bod yn allweddol yn rôl y Clwb Rygbi, gan ddechrau gyda’i dad, Les, prifathro lleol a cholofn y gymuned.

“Enwyd y maes, Caeau Les Phillips, fel cydnabyddiaeth o’r gwaith y bu fy nhad ei wneud er sefydlu’r Clwb yn 1977 ac rwyf yn gwybod y buasai’n falch iawn o’r gweithredodd y mae’r Clwb yn eu gwneud.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert