Neidio i'r prif gynnwys

Mae dros fil o blant wedi cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Anabledd y Chwe Gwlad 2024.

Mae dros fil o blant wedi cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Anabledd y Chwe Gwlad 2024.

Un o'r digwyddiadau drefnwyd gan y Dreigiau

Mae Undeb Rygbi Cymru a’i phartneriaid rhanbarthol yn dathlu wrth i fwy na 1,000 o blant gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Anabledd y Chwe Gwlad eleni.

Rhannu:

Yn ystod y digwyddiad blynyddol, ddaeth i ben yn gynharach y mis hwn, cynhaliwyd naw digwyddiad unigol ar draws y wlad oedd yn cynnig y cyfle i blant a phobl ifanc ag anableddau gymryd rhan yn y gamp mewn amrywiol ffyrdd.

Bellach yn ei wythfed flwyddyn, siaradodd Darren Carew, Rheolwr Cynhwysiant URC am bwysigrwydd y gystadleuaeth: “Wrth edrych ar hyn drwy lygaid rhywun fynychodd ddigwyddiad Anabledd y Chwe Gwlad am y tro cyntaf 8 mlynedd yn ôl – mae wedi tyfu’n aruthrol erbyn hyn. Mae digwyddiadau ledled y wlad bellach sy’n wych o beth.

“Eleni, cafodd cyfanswm o 1,342 o blant ag anableddau y cyfle i chwarae rygbi neu gael cysylltiad gyda’r gamp mewn ffordd wahanol drwy’r digwyddiadau rhagorol yma.”

Nid yw’r llwyddiant hwn yn golygu y gall y trefnwyr orffwys ar eu rhwyfau fel yr eglura Darren Carew: “Unwaith y bydd plant yn cael blas ar weithgareddau rygbi, fe all hynny agor y drws iddynt ymuno â Chlwb Cymunedol Cynhwysol, chwarae rygbi cadair olwyn neu ymuno â thîm o alluoedd cymysg pan fyddant yn hŷn.  Ble bynnag yr ydych yng Nghymru, mae cyfleoedd cynhwysol rygbi ar gael ym mhob rhanbarth nawr.”

Ers 2017, mae’r cydweithio rhwng URC a sefydliadau rhanbarthau’r Dreigiau, Caerdydd, y Gweilch, y Scarlets a Rygbi Gogledd Cymru wedi arwain at gynnydd amlwg yn nifer y timau gallu cymysg a thimau rygbi cadair olwyn ledled Cymru. Bellach mae calendr cyfoethog o ddigwyddiadau ar gael – fel Diwrnod Cynhwysiant We Soda URC a gwersylloedd Heini, Hwyl a Hansh sy’n cynnig digwyddiadau rygbi a llond bol o fwyd i bawb sy’n cymryd rhan.

Mae gan Undeb Rygbi Cymru bellach saith o swyddogion Hwb penodol sy’n gweithio’n gyfan gwbl gydag ysgolion arbennig yng Nghymru ac mae’r gwaith hwnnw’n dechrau gyda phlant mor ifanc a chwe blwydd oed.

Yn 2022, enillodd URC Wobr Aur gan Chwaraeon Anabledd Cymru – y corff llywodraethu cyntaf yng Nghymru i gael ei gydnabod am ei waith o safbwynt darpariaeth cynhwysiant a chyfleoedd sy’n benodol ar gyfer plant a phobl ag anableddau yn y wlad.

Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC, “Rydym wedi addo parhau i wella a thyfu’r ddarpariaeth gan gynnig mwy o gyfleoedd i bawb.

“Mae’n wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan yn nigwyddiadau Anabledd y Chwe Gwlad a gweld gymaint o bethau positif ddaw yn sgîl hynny. Wrth gwrs bod chwarae’n bwysig ond mae cyfleoedd hefyd i eraill greu cysylltiadau cadarnhaol gyda gwahanol bobl a chyfrannu yn eu ffordd eu hunain at rygbi a’u cymunedau yma yng Nghymru – a chael hwyl yn y broses o wneud hynny hefyd wrth gwrs!

“Mae cyfraniad ein staff wedi bod yn amhrisiadwy wrth weithredu ein strategaeth gymunedol yng nghyd-destun amrywiaeth a chynhwysiant. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n Sefydliadau Rhanbarthol hefyd am eu gwaith caled a’u cefnogaeth – sy’n allweddol wrth gyflwyno’r digwyddiadau. Wrth gydweithio gyda’n gilydd ‘ry’n ni’n gallu ymestyn y teulu rygbi yma ymhellach yng Nghymru.

“Wrth gyflwyno cyfleoedd i blant mor ifanc â chwe blwydd oed, mae’n bosib y bydd rygbi’n rhan bwysig o’u bywydau am weddill eu dyddiau – boed wrth chwarae neu hyfforddi.

“Mae’r dyfodol yn gyffrous i ni o safbwynt cynhwysiant a’r modd yr ydym yn ymgysylltu ac yn cefnogi cymunedau ethnig amrywiol yng Nghymru. Mae hyn yn sicr o adeiladu ymddiriedaeth a datblygu perthnasoedd newydd fydd yn para am amser maith gobeithio. Dyna’r bwriad pendant beth bynnag – mwynhau a datblygu trwy gyfrwng rygbi.”

Oes gennych chi blant sydd eisiau cymryd rhan mewn rygbi cadair olwyn?  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a dod o hyd i glwb sy’n agos atoch chi:

https://www.wrugamelocker.wales/en/resources-and-videos/resources/inclusion/disability/

https://gbwr.org.uk/find-a-club/

Digwyddiadau i ddod

Ebrill 16eg – Gŵyl yr Urdd

Ebrill 17fed – Gŵyl Rygbi Cadair Olwyn yr Urdd

Os ydych chi eisiau gweld rygbi cadair olwyn ar lefel elît yna edrychwch ar y Quad Nations – 16eg – 18fed Ebrill, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert