Neidio i'r prif gynnwys

Y Porthmyn yn ennill y Cwpan gan gadw’u breuddwyd o’r dwbl yn fyw

Y Porthmyn yn ennill y Cwpan gan gadw’u breuddwyd o’r dwbl yn fyw

Taylor Davies sgoriodd ddau gais Llanymddyfri.

Parhau mae breuddwyd Llanymddyfri o gipio’r dwbl wedi iddyn nhw guro Merthyr o 20-18 yn Rownd Derfynol Cwpan yr Uwch Gynghrair yn Stadiwm Principality.

Rhannu:

Yn dilyn eu dwy buddugoliaeth gynghrair dros Ferthyr y tymor hwn y Porthmyn oedd y ffefrynnau nos Sadwrn – ond wedi dim ond 6 munud o chwarae fe ryng-gipiodd y canolwr Cole Swannack y bêl yn ei hanner ei hun a charlamu at gysgod y pyst i agor y sgorio. Ychwanegodd cyn-faswr y Dreigiau, Josh Lewis ddeubwynt hawdd.

Craig Locke oedd capten Merthyr pan enillon nhw’r Cwpan am y tro diwethaf yn 2018 – ond wrth i chwarter agoriadol yr ornest ddirwyn i ben – bu’n rhaid iddo dreulio 10 munud yn y cell cosb am dacl beryglus. Cerdyn melyn oedd penderfyniad Tom Spurrier a’i dîm dyfarnu wedi cryn ystyriaeth.

O fewn munud i Locke eistedd yn y cell callio – fe hyrddiodd blaenwyr Llanymddyfri tuag at y llinell gais ac fe gododd y bachwr Taylor Davies o waelod y pentwr cyrff wedi hawlio ei 16eg cais o’r tymor.

Er i Ioan Hughes wneud pethau’n gyfartal – pedwar dyn ar ddeg Merthyr aeth yn ôl ar y blaen o ganlyniad i gic gywir arall gan Lewis – ac fe wellodd pethau ymhellach iddyn nhw’n union wedi i Locke ddychwelyd i’r maes. Yn dilyn ymosodiad mentrus a chelfydd yn ddwfn o’u hanner eu hun – fe groesodd yr asgellwr Lloyd Rowlands yn gampus i sicrhau bod ei dîm ar y blaen o 15-7 wrth droi.

Cole Swannack sgoriodd gais agoriadol yr ornest

Doedd y Porthmyn heb ennill y Cwpan ers 2017 ac fe ddechreuon nhw’r ail gyfnod ar y droed flaen. Gwta dri munud wedi troi – fe ddangosodd Taylor Davies ei fod yn gwybod y ffordd i’r llinell gais am yr eildro ac wedi i Hughes drosi’n gampus o’r ystlys – dim ond pwynt oedd yn gwahanu’r timau.

O fewn chwe munud ‘roedd cic gosb Ioan Hughes wedi rhoi Llanymddyfri ar y blaen am y tro cyntaf yn ystod yr ornest ond wedi bron i awr o chwarae fe ail-gipiwyd y fantais gan fechgyn y Wern yn dilyn trydedd cic gywir Josh Lewis o’r prynhawn.

Gyda chwarter awr ar ôl bu’n rhaid i glo a chapten Merthyr Paddy McBride adael y maes gydag anaf ac fe symbylodd hynny fechgyn Euros Evans i hela’r fuddugoliaeth.

Gydag 8 munud yn weddill aeth y Porthmyn yn ôl ar y blaen am yr eildro o ganlyniad i 10fed pwynt Ioan Hughes o’r prynhawn – a hynny brofodd i fod y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn y pendraw.

Llanymddyfri’n ennill y Cwpan am y trydydd tro’n eu hanes felly – gan efelychu camp Abertawe, Casnewydd a Phenybont – a’r Porthmyn hefyd yn cadw’u breuddwyd o ennill y dwbl yn fyw.

Sgôr Terfynol: Llanymddyfri 20 Merthyr 18

Yn dilyn y chwiban olaf dywedodd Seren y Gêm Stuart Worrall “Roedd hi’n gêm galed iawn ond fe roddodd ein cefnogwyr hwb mawr i ni. ‘Rwyf wedi bod gyda’r clwb am wyth tymor erbyn hyn ac ‘rwy’n gwybod bod ennill y Cwpan yn golygu llawer iawn i’r gymuned. Gydag ychydig o lwc – fe all y tîm ennill y dwbl i’r gymuned mewn ychydig o wythnosau.”

Yn gynharach yn y dydd – mewn diwrnod arall o Rowndiau Terfynol y ‘Ffordd i’r Principality’ – Crwydriaid Llanelli enillodd Gwpan yr Adran 1af wrth drechu Glyn-nedd o 22-19 ac fe ysgubodd Y Bargôd, Ystrad Rhondda o’r neilltu yn ffeinal y Bencampwriaeth.Fe groesodd Ashley Norton am bedwar cais wrth i’w glwb ennill o 65-12.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert