Cyfleusterau Clwb
Cyfleusterau a Buddsoddiad
Mae prif feysydd cyfrifoldeb Tîm Gweithredu’r Clwb yn cynnwys:-
- Grant Cyfleusterau Undeb Rygbi Cymru
• Helpu Clybiau i fanteisio ar gyfleoedd i gael cyllid allanol
• Datblygu a Chynllunio Prosiectau
• Arweiniad Technegol ar gyfer Cyfleusterau
• Cyngor a Chefnogaeth
Caiff unrhyw glwb wneud cais am Grant Cyfleusterau URC, ac erbyn hyn mae’n gydnaws â Safonau Rygbi Cymru. Byddai pob Ysgrifennydd Clwb wedi cael lefel Safonau Rygbi Cymru ym mis Awst 2017. Rhoddir blaenoriaeth i’r prosiectau sydd wedi eu hamlygu yng ngholofn ‘Cyfleusterau’ Safonau Rygbi Cymru.
Nodwch mai bwriad y Grant Cyfleusterau yw cefnogi prosiectau sy’n gallu dangos tystiolaeth y byddant yn achosi cynnydd yn y nifer sy’n Cymryd Rhan mewn Rygbi, ac /neu’n cefnogi Cynaliadwyedd y Clwb.
Caiff clwb gyflwyno un cais y tymor. Mae’n rhaid cwblhau prosiect unrhyw Grant Cyfleusterau blaenorol cyn gwneud cais newydd.
Cynhelir Cylchoedd Ariannu yn ystod pob Tymor ac mae grantiau o hyd at £25,000 (£50,000 ar gyfer prosiectau cydweithredol) ar gael.
Am ragor o wybodaeth am Grant Cyfleusterau URC, cysylltwch ag Eleri Owen (Cydgysylltydd Ariannu – EOwen@wru.wales)
Caiff unrhyw glwb wneud cais am arian Cronfa Gwella Meysydd Chwarae URC ar gyfer gwella cyfleusterau glaswellt hyfforddi a chwarae. Ystyrir prosiectau a fyddai’n gwella draenio sylfaenol ac eilaidd.
Gall clybiau gyflwyno un cais yn unig y tymor ar gyfer un ai’r Gronfa Gwella Meysydd Chwarae neu’r Grant Cyfleusterau. Mae’n rhaid cwblhau prosiect unrhyw Grant blaenorol cyn gwneud cais newydd.
Dylai unrhyw glwb sy’n ystyried gwella eu meysydd chwarae glaswellt, neu sy’n cael problemau draenio fynd i adran ‘GLASWELLT’ ein gwefan yn gyntaf i gael cefnogaeth ac arweiniad.
Bydd angen i bob clwb sy’n dymuno gwneud cais i Gronfa Gwella Meysydd Chwarae ddangos eu bod wedi ymgysylltu â’r rhaglen GLASWELLT cyn cyflwyno cais.
Am gyngor ynghylch y broses o gyflwyno cais i Gronfa Gwella Meysydd Chwarae cysylltwch ag Eleri Owen (Cydgysylltydd Ariannu – EOwen@wru.wales).
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen GLASWELLT cysylltwch â Nick Edwards (Cydgysylltydd Datblygu Clybiau – NEdwards@wru.wales).
Cewch gyngor cychwynnol ynghylch cymhwysedd prosiectau a manylion ynghylch pa gyllid allanol a chymorth ariannol sydd ar gael drwy gysylltu â Chris Munro (Rheolwr Cyfleusterau a Buddsoddi –CMunro@wru.wales) a bydd yn cynnwys:-
- Cyngor cyn gwneud cais
• Nodi cyfleoedd ar gyfer cyllid allanol
• Arweiniad ynghylch gofynion statudol h.y. caniatâd cynllunio, lesddaliadau, caffael ac ati.