Neidio i'r prif gynnwys

Tîm cymru i wynebu Iwerddon

Tîm cymru i wynebu Iwerddon

Mae tîm Cymru i wynebu deiliaid presennol tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS, sef Iwerddon, yn Nulyn ddydd Sul yn cynnwys lle ymhlith y pymtheg cyntaf i Rob Evans, Tom James a Justin Tipuric.

Rhannu:

TÎM CYMRU I WYNEBU IWERDDON
 

Bydd Tipuric yn dechrau’r gêm yn Stadiwm Aviva fel blaenasgellwr ochr agored, gyda Sam Warburton ar yr ochr dywyll a Taulupe Faletau yn wythwr, sy’n golygu bod y rheng ôl yn llawn Llewod.

Yn y rheng flaen, bydd Evans yn dechrau fel prop pen rhydd ac yn ennill ei bedwerydd cap yn ei drydedd gêm yn erbyn y Gwyddelod.

Ymhlith yr olwyr bydd James, a chwaraeodd ddiwethaf dros Gymru yn ystod hydref 2010 ac a enillodd ei gap cyntaf yn 2007, yn ennill ei ddegfed cap ar yr asgell. Bydd James yn rhan o linell ôl newydd yr olwg wrth iddo ymuno â Gareth Anscombe a George North. Bydd Anscombe, a chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Iwerddon fis Awst diwethaf, yn dechrau ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS wrth iddo gymryd ei le fel cefnwr.

Bydd Jonathan Davies yn dychwelyd i’r tîm am y tro cyntaf ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd, ar ôl gwella o anaf, a bydd yn chwarae wrth ochr Jamie Roberts yng nghanol y cae i ail-greu partneriaeth fwyaf profiadol Cymru erioed rhwng dau ganolwr.

Dan Biggar a Gareth Davies fydd yr haneri, a byddant yn dechrau gyda’i gilydd am y pumed gêm yn olynol.
Yn y pac bydd Evans yn ymuno â bachwr y Gweilch, Scott Baldwin, a phrop y Scarlets, Samson Lee, yn y rheng flaen.

Bydd Luke Charteris ac Alun Wyn Jones yn parhau â’u partneriaeth yn yr ail reng.

“Mae’r garfan yn un sy’n ein cyffroi – mae’n garfan brofiadol iawn ond rydym hefyd yn edrych tua’r dyfodol,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.
 
Tîm Cymru i herio Iwerddon:
Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd), George North (Northampton), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), Tom James (Gleision Caerdydd), Dan Biggar (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Racing 92), Alun Wyn Jones (Gweilch), Sam Warburton (Gleision Caerdydd, CAPTEN), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau Casnewydd Gwent).
Ar y fainc: Ken Owens (Scarlets), Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), Tomas Francis (Caerwysg), Bradley Davies (Wasps), Dan Lydiate (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision Caerdydd), Rhys Priestland (Caerfaddon), Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd).
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert