Neidio i'r prif gynnwys

Evans yn dychwelyd i Gymru at y Scarlets

Evans yn dychwelyd i Gymru at y Scarlets

Bydd mewnwr Caerfaddon, Jonathan Evans, yn dychwelyd i Gymru y tymor nesaf ar ôl cytuno ar delerau â’r Scarlets.

Rhannu:

Symudodd cyn-chwaraewr Dreigiau Casnewydd Gwent i’r Rec yn 2015, ond mae wedi’i chael yn anodd bod yn aelod o XV cyntaf Mike Ford. Bydd Evans yn symud i’r rhanbarth yng ngorllewin Cymru ddiwedd y tymor hwn i lenwi’r bwlch a fydd yn cael ei adael gan Rhodri Williams, sy’n symud i Fryste.

Ac mae Evans o’r farn y bydd yn dychwelyd i Gymru yn well chwaraewr ar ôl ei gyfnod yng ngorllewin Lloegr.

“Er nad wyf wedi cael cymaint o amser ag yr hoffwn i ar y cae, rwy’n teimlo fy mod wedi datblygu fel chwaraewr ers i mi ymuno â Chaerfaddon,” meddai Evans.

“Rwy’n edrych ymlaen at gystadlu am y crys rhif 9 yn y Scarlets y tymor nesaf a bydd yn braf bod yn ôl yng Nghymru, ond ar hyn o bryd rwy’n canolbwyntio ar weddill y tymor yma yng Nghaerfaddon ac ar barhau i geisio bod yn rhan o’r garfan ar gyfer gemau.”
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert