Neidio i'r prif gynnwys

Tim Cymru i wynebu Ffrainc

Tim Cymru i wynebu Ffrainc

Mae Cymru wedi gwneud tri newid ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad RBS yn Stadiwm Principality nos Wener (bydd y gic gyntaf am 20:05).

Rhannu:

Mae Alex Cuthbert, Bradley Davies a Dan Lydiate wedi’u cynnwys ymhlith y pymtheg a fydd yn dechrau’r gêm, wrth i’r Cymry geisio parhau â’u record ddiguro ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad RBS 2016.

Mae Cuthbert, sydd wedi sgorio 15 cais yn ei 40 o gemau dros Gymru, yn dychwelyd i blith y pymtheg cyntaf yn lle Tom James, a dyma’r unig newid ymhlith yr olwyr. Bydd asgellwr y Gleision yn chwarae ochr yn ochr â George North a Liam Williams.

Mae’r partneriaethau ymhlith yr haneri ac yng nghanol y cae’n parhau yr un fath. Gareth Davies fydd y mewnwr a Dan Biggar fydd y maswr, a bydd Jamie Roberts yn bartner i Jonathan Davies yn y canol.

Nid oes unrhyw newid wedi’i wneud i’r rheng flaen, a bydd Rob Evans, Scott Baldwin a Samson Lee yn dechrau wrth ymyl ei gilydd yn y pac am y drydedd gêm yn olynol.

Mae Bradley Davies, a enillodd ei hanner canfed cap yn erbyn Iwerddon yng ngêm agoriadol y Bencampwriaeth, yn ymuno ag Alun Wyn Jones yn yr ail reng. Ni fydd Luke Charteris, a ddechreuodd yn nwy gêm gyntaf y Bencampwriaeth, yn chwarae oherwydd anaf i’w ben-glin.

Yn y rheng ôl mae Dan Lydiate yn dychwelyd i blith y pymtheg cyntaf ac i’r crys rhif chwech wrth i Justin Tipuric gael ei enwi’n eilydd, ac mae’r capten Sam Warburton yn dychwelyd i’r ochr agored. Taulupe Faletau yw’r wythwyr a fydd yn ymuno â’r ddau yn y rheng ôl.

“Rydym wedi gwneud ambell newid. Mae un oherwydd anaf, sef yr anaf i ben-glin Luke (Charteris) sy’n golygu na fydd modd iddo chwarae, ond mae Bradley (Davies) yn haeddu dechrau’r gêm hefyd ac mae’n gyfle da iddo fe,” meddai Warren Gatland, Prif Hyfforddwr Cymru.

“Rydym wedi gwneud dau newid arall i’r tîm hefyd, ac mae Alex (Cuthbert) a Dan (Lydiate) ymhlith y pymtheg cyntaf. Maen nhw wedi bod yn ymarfer yn dda a byddant hefyd yn chwaraewyr addas ar gyfer y math o gêm y gallai Ffrainc ei chwarae.”

Mae dau newid ymhlith yr eilyddion sy’n flaenwyr, wrth i Jake Ball gael ei gynnwys ar y fainc wrth ymyl Justin Tipuric, Ken Owens, Gethin Jenkins a Tomas Francis. Yr un olwyr sydd ar y fainc, sef Lloyd Williams, Rhys Priestland a Gareth Anscombe.
 
Tîm Cymru i herio Ffrainc:
Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), George North (Northampton), Dan Biggar (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision Caerdydd, CAPTEN), Taulupe Faletau (Dreigiau Casnewydd Gwent).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), Tomas Francis (Caerwysg), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision Caerdydd), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd).

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert