Neidio i'r prif gynnwys

URC yn galw ar y cyhoedd i helpu llunio dyfodol rygbi

URC yn galw ar y cyhoedd i helpu llunio dyfodol rygbi

Mae pobol Cymru yn cael gwahoddiad i lunio dyfodol rygbi.

Rhannu:

O heddiw ymlaen, mae URC yn dechrau ar ymgynghoriad cenedlaethol gan ofyn am syniadau i ‘Lunio ein Gêm’ ac i roi adborth yngl?n â’r gamp genedlaethol drwy lenwi arolwg ar lein yma: www.wru.wales/shapeourgame.

Fe fydd yr ymgynghoriad yn sylfaen ar gyfer yr adolygiad mwyaf trylwyr a phell gyrhaeddol o’r gamp ymhlith dynion a bechgyn ifanc ers cynnal y gêm  swyddogol cyntaf yng Nghymru 150 o flynyddoedd yn ôl.
 
Meddai Pennaeth Cyfranogiad URC, Ryan Jones: “Os oes diddordeb gennych mewn rygbi yna yr ydym yn awyddus i gael eich mewnbwn – beth bynnag eich oedran neu ryw. Os ydych yn chwaraewr neu’n gyn-chwaraewr, yn rhiant, yn hyfforddwr, yn gefnogwr brwd neu’n gefnogwr achlysurol  – mae eich barn yn bwysig. Y gobaith yw y gallwn ni harneisio’r angerdd sydd yn bodoli ar draws Cymru er mwyn llunio dyfodol y gêm yng Nghymru.
 
“Mae adborth yn allweddol er mwyn datblygu gem fywiog a modern sy’n parhau i chwarae rhan ganolog yn ein cymunedau. Nid oes dim na all gael ei drafod. Yr ydyn yn edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer y gêm 15-pob-ochr, gan gynnwys timau 1af XV ac 2ail XV, ac yn edrych hefyd ar fformatau mwy hygyrch fel rygbi bach a rygbi saith-bob-ochr. Yr ydym yn awyddus i ddenu ac i gadw mwy o chwaraewyr, yn enwedig chwaraewyr 16-24 oed ar bob lefel, ac yn agored i dderbyn syniadau newydd.”
 
Meddai prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Dyma gyfle i unrhyw un sydd wedi eistedd o flaen y teledu ac yn gweiddi un ai mewn balchder neu rwystredigaeth i gael lleisio barn. Yr ydym yn ffodus i gael cefnogwyr gwybodus ac angerddol yng Nghymru. Yr ydym yn aml yn dweud bod gan Gymru rhyw dair miliwn o ddewiswyr a dyma gyfle iddyn nhw rannu eu safbwyntiau. Does neb yn gwybod mwy am y gêm ar lefel clwb na’r sawl sy’n chwarae, hyfforddi, dyfarnu a chefnogi a rhaid manteisio ar eu harbenigedd. Mae’r garfan genedlaethol yn cael ei ffurfio a’i gefnogi gan y gymuned. Dyna’r rheswm pam yr wyf yn annog pawb sydd â diddordeb yn y gêm i gyfrannu er mwyn creu dyfodol llewyrchus i’r gamp.
 
Mae’r arolwg cyfranogiad ymhlith dynion a bechgyn ifanc yn dilyn adolygiad tebyg o’ gem ymhlith menywod a merched ifanc ddechreuodd ym Mawrth 2015. O ganlyniad i’r arolwg mi gafodd nifer o gynlluniau arloesol a beiddgar eu creu er mwyn datblygu’r gêm i fenywod yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cynllun sy’n galluogi merched i chwarae yn y gwanwyn yn hytrach na’r gaeaf; i chwarae mewn fformat sydd yn fwy apelgar ee rygbi tag neu rygbi bach; ac i chwarae mewn timau cymysg.
 
Mae’r arolwg cyfranogiad ‘Llunio ein Gêm’ ar gyfer dynion a bechgyn ifanc yn dechrau ar 22 Chwefror ac ar gael yma: www.wru.wales/shapeourgame

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert