Neidio i'r prif gynnwys

Tîm Cymru i wynebu Lloegr

Tîm Cymru i wynebu Lloegr

Mae Cymru wedi enwi’r un tîm i ddechrau’r gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn (bydd y gic gyntaf am 16:00).

Rhannu:

Mae tri newid ar y fainc wrth i Paul James, Luke Charteris a Rhys Webb ymuno â’r garfan ar gyfer y gêm. Mae James yn cymryd lle Gethin Jenkins sy’n parhau i wella o anaf i’w goes ac sydd wedi ailddechrau ymarfer.

Mae Charteris wedi ymateb yn gadarnhaol i sesiynau ymarfer ar ôl yr anaf i’w ben-glin ac mae’n dychwelyd i’r garfan. Yn ogystal mae Webb, a gafodd ei alw i’r garfan yn gynharach yn yr wythnos, wedi’i enwi fel eilydd fewnwr.

“Rydym wedi enwi tîm eithaf profiadol ar gyfer dydd Sadwrn gan gadw’r pymtheg a ddechreuodd yn erbyn Ffrainc. Ro’n i’n teimlo bod y chwaraewyr wedi gwneud yn eithaf da yn erbyn Ffrainc ac rydym yn dibynnu arnynt i wneud yr un peth y penwythnos hwn,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.
 
“Mae rhai chwaraewyr ar y fainc sydd wedi gwella o anafiadau, sef Luke Charteris, Paul James a Rhys Webb, ac mae hynny’n hwb ychwanegol i ni.

“Mae llawer iawn yn y fantol ddydd Sadwrn, a bydd y gêm yn allweddol o ran penderfynu pwy sy’n ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Mae’n bleser cael Rhys yn ôl yn y garfan. Mae wedi bod yn ymarfer yn galed iawn ac mae’n ychwanegu llawer o egni a phrofiad at y garfan.”

Tîm Cymru i herio Lloegr:
Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), George North (Northampton), Dan Biggar (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision Caerdydd, CAPTEN), Taulupe Faletau (Dreigiau Casnewydd Gwent).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Gweilch), Tomas Francis (Caerwysg), Luke Charteris (Racing 92), Justin Tipuric (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd).

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert