Neidio i'r prif gynnwys

Tîm Cymru i wynebu’r Eidal

Tîm Cymru i wynebu’r Eidal

Bydd Dan Lydiate yn arwain tîm Cymru, sy’n cynnwys pedwar newid, ar gyfer yr ornest yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn (bydd y gic gyntaf am 14:30).

Rhannu:

Mae Luke Charteris, Justin Tipuric, Rhys Webb a Hallam Amos hefyd wedi’u cynnwys yn y tîm a fydd yn dechrau dros Gymru yng ngêm olaf y tîm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2016. Ymhlith yr eilyddion bydd Gethin Jenkins yn dychwelyd i’r garfan, ynghyd â Jake Ball a Ross Moriarty.

Bydd Lydiate, sydd wedi bod yn gapten ar Gymru o’r blaen mewn gêm ganol wythnos yn erbyn EP Kings yn ystod y daith i Dde Affrica yn 2014, yn arwain ei wlad am y tro cyntaf mewn gêm brawf. Yn ymuno ag ef yn y rheng ôl fydd ei gydchwaraewr o’r Gweilch, Justin Tipuric, a’r wythwr Taulupe Faletau. Bydd Tipuric yn cymryd lle Sam Warburton a gafodd gyfergyd yn erbyn Lloegr, ac sydd wedi cael mwy o amser i ddod dros yr anaf.

Yn yr ail reng bydd y cyfuniad a orffennodd y gêm yn Twickenham, sef Bradley Davies a Luke Charteris, yn chwarae gyda’i gilydd eto. Daw Charteris i mewn i’r tîm yn lle Alun Wyn Jones, sy’n colli ei le oherwydd anaf i’w sawdl.

Bydd y tri yn y rheng flaen – Rob Evans, Scott Baldwin a Samson Lee – yn dechrau’r pumed gêm yn olynol gyda’i gilydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS.

O ran yr olwyr bydd Webb, sydd heb ddechrau i Gymru ers y gêm yn erbyn yr Eidal ym mis Medi 2015, yn gwisgo’r crys rhif naw wrth ochr Dan Biggar fel maswr. Does dim newid yng nghanol cae wrth i Jamie Roberts barhau â’i bartneriaeth â Jonathan Davies.

Bydd George North, sef un o’r ddau chwaraewr sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o geisiau yn y bencampwriaeth, yn newid i wisgo’r cryf rhif 14, a daw Amos i mewn i chwarae ar yr asgell chwith yn dilyn anaf i droed Alex Cuthbert. Bydd Liam Williams yn cadw ei le fel cefnwr.

“Y bwriad ar gyfer y penwythnos hwn yw gorffen y bencampwriaeth yn dda a chael perfformiad cryf,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

“Mae’r gêm ddydd Sadwrn yn gyfle da i rai o’r chwaraewyr achub eu cam, ac rydym yn disgwyl gweld perfformiad cryf ganddynt.

“Rwyf wedi gweld Dan (Lydiate) yn arwain timau canol wythnos o’r blaen ac roedd yn awyddus iawn i gymryd y cyfle y penwythnos hwn. Bydd yn dda cael gweld sut hwyl mae’n ei chael arni.”
 
Tîm Cymru i herio’r Eidal:

Liam Williams (Scarlets), George North (Northampton), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), Hallam Amos (Dreigiau Casnewydd Gwent), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Rob Evans (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Racing 92), Dan Lydiate (Gweilch, Capten), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau Casnewydd Gwent).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), Tomas Francis (Caerwysg / Aaron Jarvis (Gweilch)*, Jake Ball (Scarlets), Ross Moriarty (Caerloyw), Gareth Davies (Scarlets), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd).
 
*Mae Tomas Francis wedi’i enwi, tra’n disgwyl canlyniad gwrandawiad disgyblu.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert