Neidio i'r prif gynnwys

Newidiadau i dîm Merched Cymru i herio’r Eidal

Newidiadau i dîm Merched Cymru i herio’r Eidal

Mae Prif Hyfforddwr Tîm Merched Cymru, Rhys Edwards, wedi gwneud pedwar newid a dau newid safle ar gyfer gêm ola’r merched ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn erbyn yr Eidal ddydd Sul ar Faes Talbot Athletic (bydd y gic gyntaf am 2pm).

Rhannu:

Bydd Adi Taviner a Kerin Lake yn cymryd lle Dyddgu Hywel ac Elinor Snowsill ymhlith yr olwyr, a bydd Amy Evans a Siwan Lillicrap yn ymuno â’r pac yn lle Catrin Edwards a Rebecca Rowe.
Gallai fod un newid arall i’r tîm, wrth i Edwards roi mwy o amser i Sioned Harries wella o salwch ar ôl i’r wythwr golli’r gêm yn erbyn Lloegr.

Bydd cynnwys Lake yn y tîm yn rhoi cyfle arall i Edwards weld Robyn Wilkins yn safle’r maswr wrth i Snowsill symud i’r fainc, a bydd Meg York yn symud o ben tynn i ben rhydd y sgrym er mwyn gwneud lle i Evans sydd wedi gwneud argraff bob tro y mae wedi cael cyfle yn ystod yr ymgyrch hwn.

“Mae gan Elinor lawer o brofiad yn safle’r maswr, ac mae wedi aeddfedu yn y safle eleni. Mae’n bwysig ein bod yn ceisio sicrhau dyfnder yn y garfan a’n bod yn rhoi cyfleoedd i Robyn ddatblygu fel maswr rhyngwladol,” meddai Edwards. “Mae gennym un cyfle arall i fynd allan a rhoi perfformiad da o flaen tyrfa fawr ar ein tomen ein hunain.”

Merched Cymru v Merched yr Eidal, ddydd Sul 20 Mawrth, Maes Talbot Athletic (bydd y gic gyntaf am 2pm)
15 Adi Taviner (Gweilch / Sgiwen)
14 Bethan Dainton (Dreigiau / Bryste)
13 Hannah Jones (Scarlets / Pen-y-banc)
12 Kerin Lake (Gweilch / Sgiwen)
11 Elen Evans (Scarlets / Caernarfon)
10 Robyn Wilkins (Gweilch / Gogledd Llandaf)
9 Keira Bevan (Gweilch / Sgiwen);
1 Megan York (Dreigiau / Ynys-ddu)
2 Carys Phillips (Gweilch / Sgiwen)
3 Amy Evans (Gweilch / Sgiwen)
4 Shona Powell-Hughes (Gweilch / Sgiwen)
5 Siwan Lillicrap (Gweilch / Sgiwen)
6 Rachel Taylor (Dreigiau / Caernarfon – Capten)
7 Sian Williams (Dreigiau / Caerwrangon)
8 Sioned Harries (Scarlets / Hendy-gwyn ar Daf) / Alisha Butchers (Scarlets / Pen-y-banc)

Eilyddion:
16 Amy Price (Gweilch / Sgiwen)
17 Cerys Hale (Dreigiau / Pont-y-clun)
18 Catrin Edwards (Scarlets / Gogledd Llandaf)
19 Rebecca Rowe (Dreigiau / Richmond)
20 Sioned Harries (Scarlets / Hendy-gwyn ar Daf) / Alisha Butchers (Scarlets / Pen-y-banc)
21 Elinor Snowsill (Dreigiau / Bryste)
22 Gemma Rowland (Dreigiau / Wasps)
23 Dyddgu Hywel (Scarlets / Pont-y-clun)
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert