Neidio i'r prif gynnwys

Newidwyr gem wedi cael eu penodi

Newidwyr gem wedi cael eu penodi

Mae URC wedi penodi tri unigolyn er mwyn cynyddu a gwella yn sylweddol y cyfleoedd sydd ar gael i fenywod a merched ifanc ar lawr gwlad

Rhannu:

Fe fydd y ‘newidwyr’ yn gweithio ym mhob adran o’r gêm yng Ngogledd Cymru, De Ddwyrain a de Orllewin Cymru ac yn cyd-weithio gyda chlybiau, ysgolion a swyddogion hwb er mwyn cynyddu’r nifer o fenywod sy’n cymryd rhan yn y gamp – ac i wella’r hyn sydd yn cael ei gynnig i ferched Cymru.
 
Enillydd gwobr Prosiect USGirls, Lauren Thomas fydd yn ymgymryd â’r dyletswyddau yn y Gorllewin, cyn swyddog datblygu gyda Chlwb Gymnasteg De Ddwyrain Cymru Katy Evans fydd yn arwain yn Nwyrain Cymru a cyn swyddog hwb Ysgol y Drenewydd Dave Roberts fydd yn gyfrifol am weddnewid y sefyllfa i fenywod yn Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru
 
Meddai Rheolwr Menywod a Merched Ifanc URC Caroline Spanton: “Y tri unigolyn o galibr uchel yma fydd yn wynebu’r her o gynyddu cyfranogiad menywod yng Nghymru. Yr ydym yn gwybod bode na alw mawr am rygbi ymhlith menywod a merched ifanc yn dilyn llwyddiant ein canolfannau clwstwr pryd y gwelwyd lefelau cyfranogiad yn dyblu. Ond mae yna le i wella er mwyn ceisio sicrhau bod rygbi yn tyfu i fod yn un o’r gemau mwyaf poblogaidd o ran cyfranogiad merched yng Nghymru.
 
“Mae’r cynfas ar gyfer y ‘newidwyr’ yn wag. Fe fydd na ddewisiadau anodd ei gwneud ond gyda’r tîm yma wrth y llyw dwi’n gwybod y bydd modd cyrraedd y nod.”

Dywed Pennaeth Cyfranogiad URC Ryan Jones: “Mae sicrhau bod yr Undeb yn fwy deniadol i ferched ac i ddymchwel y rhwystrau sydd yn eu hatal rhag gwneud hynny yn un o’n blaenoriaethau strategol. Fe fydd yn rhaid i bawb gydweithio gyda’r newidwyr er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i ferched ac i greu rygbi sydd yn denu merched o bob oedran.”
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert