Neidio i'r prif gynnwys

Noddwr newydd RGC 1404 a thîm Cymru dan 20

Noddwr newydd RGC 1404 a thîm Cymru dan 20

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi arwyddo cytundeb nawdd sylweddol gydag SP Energy Networks

Rhannu:

Y cwmni hwn yn awr fydd noddwr crysau swyddogol RGC 1404 a thîm Cymru dan 20.

Gyda’r bartneriaeth tair blynedd arloesol hon, bydd logo SP Energy Networks yn ymddangos tan 2019 ar grys coch sêr Cymru i’r dyfodol, gan gychwyn gyda gêm y tîm rhyngwladol o dan 20 oed yn erbyn yr Eidal wrth iddynt amddiffyn eu teitl yn y Chwe Gwlad ddydd Gwener 3ydd Chwefror.

Fel rhan o’r cytundeb arloesol gyda Rygbi Cymru, mae SP Energy Networks, sy’n berchen ar y rhwydwaith o linellau p?er a cheblau tanddaearol yng ngogledd a chanolbarth Cymru, ac yn eu rheoli, hefyd wedi dod yn noddwr crysau RGC 1404. Yn ogystal, bydd y cwmni yn rhoi rhaglen addysg gymunedol ar waith ledled ysgolion gogledd Cymru ar ddiogelwch ynni. 

Dywedodd Craig Maxwell, Pennaeth Gr?p Masnachol a Marchnata Undeb Rygbi Cymru, “Dyma bartneriaeth newydd gyffrous gydag SP Energy Networks.

“Wrth i SP Energy fod yn bartner i dîm Cymru dan 20 ac RGC 1404, byddant yn gwneud gwahaniaeth go iawn i dwf rygbi yng ggogledd Cymru a datblygiad chwaraewyr rhyngwladol i’r dyfodol.”

Dywedodd Stephen Stewart, un o gyfarwyddwyr SP Energy Networks: “Rydym yn eithriadol o falch a chyffrous o fod yn gysylltiedig ag un o dimau chwaraeon mwyaf eiconig rygbi’r byd a phencampwyr presennol cystadleuaeth y Chwe Gwlad dan 20.

“Mae’r cytundeb nawdd hwn yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i helpu i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad ac i gael pobl yn chwarae rygbi yn enwedig yng ngogledd Cymru. Bydd hefyd yn ein galluogi ni i gael cysylltiad â degau o filoedd o gefnogwyr rygbi brwd i’w gwneud yn ymwybodol o negeseuon sy’n ymwneud ag achub bywydau fel darparwyr rhwydwaith cyfrifol. Dymunwn y gorau i garfan Cymru dan 20 wrth iddynt amddiffyn eu teitl.”

Mae SP Energy Networks yn ymrwymedig i gefnogi cymunedau yng ngogledd a chanolbarth Cymru drwy raglen helaeth o raglenni nawdd lleol a rhaglenni ymgysylltu-â’r-gymuned. Mae hyn yn cynnwys noddi Sioe Amaethyddol Môn, cefnogi gwasanaethau i gwsmeriaid bregus yng ngogledd Cymru, cysylltu â rhanddeiliaid lleol a chynllun diogelwch p?er mewn ysgolion o’r enw PowerWise.

Dros yr wyth mlynedd nesaf, bydd SP Energy Networks yn buddsoddi £800 miliwn i gynnal a gwella’r rhwydwaith cyflenwi p?er yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Mae SP Energy Networks yn rheoli oddeutu 9,605km o geblau tanddaearol ac 1,245km o linellau trydan uwchben sy’n cysylltu dros 375,000 o gartrefi a busnesau lleol. Mae’r cwmni’n cyflogi mwy na 380 o aelodau staff a 700 o gontractwyr yng ngogledd a chanolbarth Cymru, ac yn rhagweld y bydd yn cyflogi 300 o aelodau staff newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: spenergynetworks.co.uk. Mewn achos o doriad yn y cyflenwad neu ddigwyddiad arall yng Ngogledd Cymru, cysylltwch â llinell argyfwng SP Energy Networks drwy ffonio 105 neu 0800 001 5400.
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert