Neidio i'r prif gynnwys

North yn dychwelyd i Gymru

North yn dychwelyd i Gymru

Mae hyfforddwyr Cymru wedi gwneud un newid i’r tîm a fydd yn wynebu’r Alban yn Murrayfield ddydd Sadwrn (y gic gyntaf am 14.25 i’w gweld ar S4C a’r BBC) gyda George North yn dychwelyd o anaf i ddechrau’r gêm. Bydd North yn dychwelyd i chwarae ochr yn ochr â Liam Williams a’r cefnwr Leigh Halfpenny yn y tri ôl.

Rhannu:

Bydd Scott Williams a Jonathan Davies o’r Scarlets yn parhau â’u partneriaeth yng nghanol cae, a bydd haneri’r Gweilch – Rhys Webb a Dan Biggar – hefyd yn dechrau gêm arall gyda’i gilydd.

Mae Cymru wedi enwi’r un pac â’r gêm ddiwethaf ar gyfer y daith i Gaeredin, gyda Rob Evans, Ken Owens a Tomas Francis yn y rheng flaen a Jake Ball ac Alun Wyn Jones yn yr ail reng.

Sam Warburton, Justin Tipuric a Ross Moriarty fydd yn y rheng ôl unwaith yn rhagor.

Dim ond un newid sydd ar y fainc, gyda Luke Charteris yn dychwelyd i’r garfan ar gyfer y gêm. Mae’n ymuno â’r blaenwyr eraill Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee a Taulupe Faletau ar y fainc. Gareth Davies, Sam Davies a Jamie Roberts yw’r olwyr ymhlith yr eilyddion.
 
TÎM CYMRU I HERIO’R ALBAN:
Leigh Halfpenny (Toulon) (68 cap)
George North (Northampton Saints) (66 cap)
Jonathan Davies (Scarlets) (61 cap)
Scott Williams (Scarlets) (43 cap)
Liam Williams (Scarlets) (40 cap)
Dan Biggar (Gweilch) (53 cap)
Rhys Webb (Gweilch) (25 cap)
Rob Evans (Scarlets) (14 cap)
Ken Owens (Scarlets) (47 cap)
Tomas Francis (Caerwysg) (19 cap)
Jake Ball (Scarlets) (23 cap)
Alun Wyn Jones (Gweilch) (107 cap) (CAPTEN)
Sam Warburton (Gleision) (71 cap)
Justin Tipuric (Gweilch) (48 cap)
Ross Moriarty (Caerloyw) (14 cap)
 
Eilyddion:
Scott Baldwin (Gweilch) (30 cap)
Nicky Smith (Gweilch) (9 cap)
Samson Lee (Scarlets) (31 cap)
Luke Charteris (Caerfaddon) (71 cap)
Taulupe Faletau (Caerfaddon) (63 cap)
Gareth Davies (Scarlets) (23 cap)
Sam Davies (Gweilch) (4 cap)
Jamie Roberts (Harlequins) (88 cap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert