Neidio i'r prif gynnwys

Botham yn barod i wynebu Awstralia

Botham yn barod i wynebu Awstralia

Mae gemau ei dad-cu yn erbyn Awstralia ymhlith y digwyddiadau mwyaf cofiadwy ym maes chwaraeon, ac mae James Botham yn awr yn gobeithio gadael ei farc ar ‘hen elyn’ ei deulu.

Rhannu:

Ar y cae criced y gwelwyd prif orchestion Syr Ian Botham yn erbyn y gw?r o ben draw’r byd, a hynny’n bennaf yn ystod cyfres y Lludw 1981. Ond bydd ei ?yr sydd yn ei arddegau’n gobeithio gadael ei farc arnynt gyda Thîm Dan 20 Cymru yn ystod Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn Georgia.

Cafodd Jim ei eni yng Nghaerdydd pan oedd ei dad, Liam, yn chwarae rygbi yn y brifddinas, ac mae’n un o sêr y Cymry Alltud. Mae eisoes wedi ennill capiau i Dîm Dan 18 a Thîm Dan 20 Cymru a’r Tîm 7 Bob Ochr, ond yr ychydig wythnosau nesaf yn Tbilisi fydd y prawf eithaf iddo ef a’i gyd-chwaraewyr.

Flwyddyn yn ôl dechreuodd Cymru y twrnamaint fel un o’r ffefrynnau ar ôl i’r tîm ennill ei Gamp Lawn gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ond talodd y tîm yn ddrud am golli dwy gêm yn y gr?p o un pwynt yn unig, a gorffen yn y seithfed safle fu ei hanes.

Eleni mae’r garfan yn wynebu tair gêm anodd yn erbyn Awstralia, Lloegr – y pencampwyr ar hyn o bryd – a Samoa, a’r gemau hynny fydd yn penderfynu a fydd y Cymry yn cael mynd ymlaen i frwydro am y bencampwriaeth ai peidio. Yr Awstraliaid ifanc fydd yn eu hwynebu yn y gêm gyntaf ddydd Mercher.

“O gofio hanes fy nheulu yn erbyn yr Awstraliaid bydd yn braf i mi gael y cyfle i’w herio, ac mae pawb yn edrych ymlaen at y gêm gan nad yw’r rhan fwyaf ohonom erioed wedi chwarae yn eu herbyn. Mae’n mynd i fod yn brofiad newydd, ac rydym yn disgwyl i’r gêm fod yn un gyflym,” meddai Botham, sy’n chwarae yn y rheng ôl ac sy’n perthyn i academi’r Gleision.

Ymunodd Botham â charfan Cymru hanner ffordd drwy Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, ar ôl bod ar ddyletswydd gyda’r tîm saith bob ochr yn Wellington gyda’i gyd-chwaraewr yn Nhîm Dan 20 Cymru, Owen Lane. Gwnaeth argraff yn syth yn y fuddugoliaeth fawr yn erbyn yr Alban, gan sgorio cais yn y gêm a orffennodd gyda sgôr o 65-34.

Roedd yn eilydd yn y fuddugoliaeth a gafwyd gartref o 41-27 yn erbyn Iwerddon, sef y tîm a gurodd Gymru o un pwynt ym Mhencampwriaeth Iau’r Byd y llynedd ac a aeth ymlaen i gyrraedd y rownd derfynol, ac roedd ymhlith y pymtheg cyntaf unwaith eto yn y golled a gafwyd o 40-20 yn erbyn Ffrainc.

“Ymunais â’r garfan hanner ffordd drwy Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gan fy mod i ffwrdd yn chwarae rygbi 7 bob ochr, a oedd yn brofiad gwych. Buom yn chwarae yn yr Alban gan sicrhau buddugoliaeth wych yno,” meddai Botham.

“Mae llwybr y Cymry Alltud wedi gweithio’n dda i mi. Ymunais â’r system pan oeddwn yn Sedbergh, ac roedd yn daith hir ar y dechrau pan oeddwn yn chwarae gyda’r Tîm Dan 18.

“Roedd yn daith o tua 560 o filltiroedd i gyd bryd hynny, ond mae’n haws o lawer yn awr gan fy mod yn byw yng Nghaerdydd. Mae llwybr y Cymry Alltud yn llawer cliriach erbyn hyn i unrhyw un sydd am geisio chwarae dros Gymru.

“Roedd yr ychydig wythnosau cyntaf yn anodd i mi, ond ar ôl dod i arfer â’r teithio roedd popeth yn iawn. Mae fy ngyrfa yn gwella o hyd, ond d’ych chi byth yn gwybod beth all ddigwydd yn y dyfodol.

“Rwy’n mwynhau bod yn rhan o academi’r Gleision, ac rwy’n gobeithio y bydd fy ngyrfa yn parhau i ddatblygu.”
 
Tîm Dan 20 Cymru ym Mhencampwriaeth Iau’r Byd

Dydd Mercher, 31 Mai: Cymru v Awstralia (17.30 Amser Haf Prydain)
Dydd Sul, 4 Mehefin: Cymru v Lloegr (17.30 Amser Haf Prydain)
Dydd Iau, 8 Mehefin: Cymru v Samoa (10.00 Amser Haf Prydain)
 
Carfan Dan 20 Cymru
BLAENWYR
Keiron Assiratti (Gleision Caerdydd), Sid Blackmore (Caerfaddon), James Botham (Gleision Caerdydd), Callum Bradbury (Gleision Caerdydd), Rhys Carre (Gleision Caerdydd), Will Griffiths (Gweilch), Owen Hughes (Dreigiau Casnewydd Gwent), Scott Jenkins (Scarlets), Will Jones (capten, Gweilch), Shane Lewis-Hughes (Gleision Caerdydd), Tom Mably (Gleision Caerdydd), Sean Moore (Pontypridd), Ellis Shipp (Dreigiau Casnewydd Gwent), Steff Thomas (Scarlets), Aled Ward (Gleision Caerdydd)
OLWYR
Dane Blacker (Gleision Caerdydd), Ryan Conbeer (Scarlets), Connor Edwards (Dreigiau Casnewydd Gwent), Joe Goodchild (Dreigiau Casnewydd Gwent), Reuben Morgan-Williams (Gweilch), Ben Jones (Gleision Caerdydd), Phil Jones (Gweilch), Owen Lane (Gleision Caerdydd), Cameron Lewis (Gleision Caerdydd), Ioan Nicholas (Scarlets), Arwel Robson (Dreigiau Casnewydd Gwent), Jared Rosser (Dreigiau Casnewydd Gwent), Will Talbot-Davies (Dreigiau Casnewydd Gwent)
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert