Neidio i'r prif gynnwys

Cymru yn canolbwyntio ar Awstralia yng ngêm gyntaf y Tîm Dan 20

Cymru yn canolbwyntio ar Awstralia yng ngêm gyntaf y Tîm Dan 20

Mae Jason Strange wedi gwneud tri newid i Dîm Dan 20 Cymru a fydd yn wynebu Awstralia yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd nos yfory yn Stadiwm Avchala yn Tbilisi, Georgia (am 5.30pm Amser Haf Prydain).

Rhannu:

Mae hyfforddwr Cymru wedi cadw’n ffyddlon i fwyafrif aelodau’r tîm a drechodd yr Alban gyda sgôr o 29-22 wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.

Mae pob un o’r newidiadau yn y pac, wrth i bropiau Gleision Caerdydd – Rhys Carre a Kieron Assiratti – ymuno ag Ellis Shipp yn y rheng flaen. Bydd eu cyd-chwaraewr yn y rhanbarth, James Botham, yn ymuno â nhw wrth iddo gymryd lle Aled Ward fel wythwr.
 
Will Jones fydd capten y tîm unwaith eto, ac mae Strange wedi pwysleisio pwysigrwydd nid yn unig cael dechrau da ond cael dyfnder yn y garfan hefyd, gan nad oes llawer o amser rhwng y gemau.
 
Meddai Strange: “Mae’n garfan gystadleuol, ac mae hynny bob amser yn braf i’r hyfforddwyr. Bu’n rhaid i ni wneud rhai dewisiadau anodd, ond rwy’n fodlon iawn â’r tîm ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gwneud yn dda iawn yn ein gêm gyntaf yn erbyn Awstralia.
               
“Y neges y mae’r garfan wedi’i chael yw bod yn rhaid i bwy bynnag sy’n dod i mewn i’r tîm fanteisio ar y cyfle. Felly, er ei bod yn siomedig i Kieron Williams a rhai o’r chwaraewyr eraill eu bod yn colli cyfle oherwydd anafiadau, rwy’n si?r y bydd y chwaraewyr eraill yn fwy na pharod ar gyfer yr her.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn llwyddo yn y gêm gyntaf – nid yn unig o ran y canlyniad ond o ran y perfformiad hefyd.
 
“Rydym wedi canolbwyntio llawer ar y gêm gyntaf, ac mae’n bwysig bod y chwaraewyr yn ei mwynhau ac nad ydynt yn mynd yn rhy nerfus. Mae’n bwysig eu bod yn ymlacio, eu bod yn chwarae gyda gwên ar eu hwyneb a’u bod yn eu mynegi eu hunain, oherwydd o wneud hynny byddant yn perfformio’n well.”
 
Ar ôl y gêm gyntaf enfawr yn erbyn Awstralia, bydd Cymru yn wynebu Lloegr ddydd Sul (am 5.30pm Amser Haf Prydain) a Samoa ddydd Iau, 8 Mehefin (am 10am Amser Haf Prydain).
 

Tîm Dan 20 Cymru i wynebu Tîm Dan 20 Awstralia
 
15 Will Talbot-Davies (Dreigiau Casnewydd Gwent)
14 Owen Lane (Gleision Caerdydd)
13 Ioan Nicholas (Scarlets)
12 Cameron Lewis (Gleision Caerdydd)
11 Ryan Conbeer (Scarlets)
10 Arwel Robson (Dreigiau Casnewydd Gwent)
9 Dane Blacker (Gleision Caerdydd)
1 Rhys Carre (Gleision Caerdydd)
2 Ellis Shipp (Dreigiau Casnewydd Gwent)
3 Kieron Assiratti (Gleision Caerdydd)
4 Will Griffiths (Gweilch)
5 Callum Bradbury (Gleision Caerdydd)
6 Shane Lewis-Hughes (Gleision Caerdydd)
7 Will Jones (c) (Gweilch)
8 James Botham (Gleision Caerdydd)
 
Eilyddion
 
16 Owen Hughes (Dreigiau Casnewydd Gwent)
17 Tom Mably (Gleision Caerdydd)
18 Scott Jenkins (Scarlets)
19 Sean Moore (Pontypridd)
20 Aled Ward (Gleision Caerdydd)
21 Reuben Morgan-Williams (Gweilch)
22 Ben Jones (Gleision Caerdydd)
23 Joe Goodchild (Dreigiau Casnewydd Gwent)

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert