Neidio i'r prif gynnwys

Jones yn awyddus i Gymru chwarae’n glinigol

Jones yn awyddus i Gymru chwarae’n glinigol

Mae capten Tîm Dan 20 Cymru, Will Jones, yn cyfaddef bod yn rhaid i aelodau ei dîm ymarfer chwarae’n fwy clinigol cyn y gêm yn erbyn Tîm Dan 20 Lloegr ddydd Sul, ond mae’n mynnu na fydd angen unrhyw hwb ychwanegol arnynt i’w sbarduno.

Rhannu:

Dechreuodd y Cymry ifanc eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd â cholled boenus yn erbyn Awstralia yn Tbilisi, gyda sgôr o 24-17.

Cafodd tîm Jason Strange ddigon o gyfleoedd i ennill y gêm yn dilyn ceisiau gan Cameron Lewis a Dane Blacker. Roedd y sgôr yn gyfartal ar 17 yr un gyda dwy funud i fynd, ond llwyddodd Awstralia i gipio’r fuddugoliaeth ar y funud olaf.

Roedd Jones yn siomedig wrth reswm yn dilyn y golled, ond mae’n gwybod bod yn rhaid i’w dîm ddod dros y siom yn sydyn. Meddai: “Doedden ni ddim yn canolbwyntio pan oedd angen i ni fod yn glinigol. Enghraifft syml o hynny yw pan oedd y sgôr yn 17 yr un. Roedd y cais y gwnaethom ei ildio’n ganlyniad tacl y llwyddodd chwaraewr i dorri drwyddi. Mae’n siom, ond rhaid i ni symud ymlaen ac anghofio am hynny wrth i ni baratoi ar gyfer ein gêm nesaf, yn erbyn Lloegr.

“Yn ystod ail hanner y gêm roedden ni’n chwarae yn hanner Awstralia o’r cae am gyfnodau maith. Ni oedd yn rheoli’r tir a’r meddiant i gyd; y cyfan y mae angen i ni ei wneud yw perfformio, bod yn glinigol a pheidio ag ildio ciciau cosb neu golli’r bêl yn ddiangen.

“Mae’n achosi rhwystredigaeth – mae’n rhaid i ni fod yn amyneddgar, dal ein gafael ar y bêl a chroesi’r llinell. Roedd dau o’n ceisiau yn wych – rydym yn gwybod bod gennym y gallu i sgorio ceisiau ond mae angen i ni wneud hynny’n amlach.

“Mae’n rhaid i ni symud ymlaen i’r gêm nesaf yn awr – codi’n pennau a chamu ymlaen. Fe ddaw’r bechgyn dros y siom, mae’n bosibl y bydd y gêm ychydig yn fwy cynhyrfus oherwydd yr hen elyniaeth rhwng y ddwy wlad, ac mae’n gêm y mae’n rhaid i ni ei hennill er mwyn cadw ein gobeithion yn y twrnamaint yn fyw.”

Dechreuodd Tîm Dan 20 Lloegr ei ymgyrch â buddugoliaeth swmpus gyda sgôr o 74-17 yn erbyn Samoa, a bydd y tîm yn llawn hyder wrth baratoi ar gyfer yr ornest yn Stadiwm Avchala. Llwyddodd y Saeson i sgorio 12 cais, sy’n golygu eu bod ar frig Gr?p A gyda’r holl bwyntiau y gallent fod wedi’u hennill mor belled. Mae Tîm Dan 20 Cymru yn y trydydd safle ar ôl colli’r gêm gyntaf ond ennill pwynt bonws.

Bydd Tîm Dan 20 Cymru yn herio Tîm Dan 20 Lloegr am 5.30pm (Amser Haf Prydain) ddydd Sul, ac unwaith eto bydd y gêm i’w gweld yn fyw ar S4C.
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert