Neidio i'r prif gynnwys

Strange yn targedu agweddau i’w gwella cyn wynebu Lloegr

Strange yn targedu agweddau i’w gwella cyn wynebu Lloegr

Roedd Jason Strange yn falch o chwaraewyr dan 20 dewr Cymru yn y golled yn erbyn Awstralia ddydd Mercher, ac mae’n mynnu y gallant fod yn llawn hyder wrth ddechrau’r gêm y mae’n rhaid iddynt ei hennill yn erbyn Lloegr ddydd Sul.

Rhannu:

Cafodd ei dîm ifanc ei drechu o 24-17 ar y funud olaf yn erbyn Awstralia yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd.

Dim ond tri phwynt ar ei hôl hi yr oedd Cymru erbyn hanner amser, diolch i gais cynnar gan Cameron Lewis, a llwyddodd y chwaraewyr i reoli’r ail hanner gyda gwynt cryf y tu ôl iddynt.

Croesodd Dane Blacker y llinell gais i roi’r tîm ar y blaen ond tarodd Awstralia yn ôl yn syth, a phan sgoriodd Arwel Robson gôl adlam i unioni’r sgôr tarodd Awstralia yn ôl unwaith eto i gipio’r fuddugoliaeth.

Roedd yn anodd derbyn y golled ond mae Strange yn mynnu y gall perfformiad y tîm roi hwb i’w hyder cyn yr ornest ddydd Sul.

Meddai prif hyfforddwr Tîm Dan 20 Cymru: “Roedd yr ymdrech gyffredinol dros gyfnod o 80 munud yn ardderchog. O ystyried y pwysau a roeson ni arnyn nhw, yn enwedig yn yr ail hanner, doeddwn i ddim yn gallu ein gweld ni’n colli’r gêm gyda 10-15 munud i fynd. Ond er tegwch i chwaraewyr Awstralia, roedden nhw’n glinigol iawn gyda’r ychydig gyfleoedd a gawsant ac fe wnaethant sgorio ambell gais da.

“Gallwn ymfalchïo yn ein perfformiad. Mae Awstralia yn dîm da ac fe lwyddon ni i ddal ein tir, creu llawer o broblemau drwy ein gallu i drin y bêl, ac amddiffyn yn dda iawn am gyfnodau hir.

“Doedd dim amheuaeth o’r dechrau na fyddai’r gêm yn erbyn Lloegr yn un fawr. Cawson nhw fuddugoliaeth wych yn eu gêm gyntaf, felly byddan nhw’n hyderus. Ond bydd ein chwaraewyr ni wedi dod dros eu gêm agoriadol yn dda, a byddwn yn barod ar gyfer dydd Sul.

“Roedd perfformiad Lloegr yn erbyn Samoa yn wych, ac mae’n rhaid i ni ddechrau’r gêm yn llawn hyder ar ôl perfformiad dydd Mercher ac ar sail y ffaith mai ni sydd wedi ennill dwy o’r tair gêm ddiwethaf yn eu herbyn. Y cyfan y mae angen i ni ei wneud yw bod ychydig yn fwy cywir ym mhob agwedd ar ein gêm.”

Mae Lloegr ar frig Gr?p A, diolch i’r fuddugoliaeth swmpus yn erbyn Samoa. Ond gall chwaraewyr Cymru sicrhau lle yn y rownd gynderfynol o hyd, diolch i’r pwynt bonws a gawsant er iddynt golli eu gêm nhw.

Mae’n rhaid i Gymru ennill er mwyn cadw’r gobeithion hynny’n fyw, ac mae Strange yn gwybod bod yn rhaid i’w dîm droi mwy o bwysau’n bwyntiau os ydynt am lwyddo.

Meddai Strange: “Roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau gêm gyfartal, ond fe gollon ni gic gychwyn hollbwysig a arweiniodd at gais rhwydd. Ond rhaid canmol Awstralia hefyd, oherwydd roedd y cais yn un caboledig.

“Byddai wedi bod yn braf cael dau bwynt (am gêm gyfartal) ond gallai un pwynt fod yn bwysig yn y gystadleuaeth.

“Roedd yn gêm gorfforol iawn, roedd y gystadleuaeth yn ardal y dacl yn ffyrnig ac roedd y ddau dîm yn awyddus i chwarae. Dyna’r union beth yr ydym am ei gael gan ein chwaraewyr – eu cael i ymwneud â rygbi ar y lefel hon yn erbyn gwrthwynebwyr o safon.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert