Roedd tîm Cymru ar ei hôl hi o 21-3 tua diwedd yr hanner cyntaf ond llwyddodd y chwaraewyr i daro’n ôl, diolch i gais gan Kieron Assiratti, gan barhau i frwydo’n ôl yn yr ail hanner. Aeth y sgôr yn 24-17, ac roedd y Cymry yn pwyso am drydydd cais i ddod â’r gêm yn gyfartal pan wnaethant fethu â throi’r pwysau yn bwyntiau. Yna dangosodd y Saeson mor glinigol y maent yn gallu bod, wrth iddynt wibio i lawr y cae a hawlio pedwerydd cais yn sydyn i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Meddai Strange: “Oherwydd ambell gamgymeriad unigol yn yr hanner cyntaf fe gollon ni lawer o feddiant, a rhaid rhoi pob clod i Loegr – roedd y chwaraewyr yn symud y bêl yn gyflym iawn ac yn ymosod yn dda. Ond roeddwn i’n teimlo bod agwedd benderfynol a dycnwch ein chwaraewyr ychydig cyn hanner amser yn wych.
“Roeddem yn eithaf hyderus adeg hanner amser – dim ond dwy sgôr oedd ynddi a byddai gennym awel dda y tu ôl i ni yn yr ail hanner. Roedd ein strwythurau yn gweithio’n dda, ac roedd ceisiau Lloegr wedi deillio o fethu un neu ddau dacl unigol ar ôl i ni golli’r bêl yn y dacl.
“Roedd ein sgrym a’n lein yn ardderchog yn erbyn pac cryf y Saeson, ac mae’r chwaraewyr yn haeddu pob clod am hynny. Pan oedd y sgôr yn 24-17 ar ôl 60 munud, daeth yr eiliad dyngedfennol pan gicion ni’r bêl i ffwrdd rai metrau o’r llinell gais.
“Roedd honno’n eiliad bwysig yn y gêm, oherwydd aeth Lloegr ymlaen i sgorio ym mhen arall y cae. Gallwn ddysgu llawer o’r gêm – sut i gadw hunanreolaeth a sut i wneud penderfyniadau ar adegau allweddol.
“Dyw’r sgôr derfynol ddim yn adlewyrchiad o ba mor agos oedd y gêm. Pe baem ni wedi sgorio nesaf pan oedd y sgôr yn 24-17, rwy’n credu mai ni fyddai wedi ennill y gêm oherwydd ein goruchafiaeth yn y safleoedd gosod.”
Nid yw’n bosibl mwyach i Gymru gyrraedd y rownd gynderfynol, ac yn lle hynny bydd y tîm yn chwarae yn y gemau ail gyfle er mwyn penderfynu ar ei safle yn y byd.
Ond yn gyntaf, rhaid i’r chwaraewyr herio Samoa yn eu gêm olaf yng Ngr?p A ddydd Iau (am 10am Amser Haf Prydain), yn Stadiwm Avchala yn Tbilisi unwaith eto.
Ychwanegodd Strange: “Bydd Samoa yn her anodd arall, ond yn her y gall y bechgyn edrych ymlaen ati. Roedd eu perfformiad yn dda iawn ar adegau, ac fe chwaraeon ni rygbi da iawn a sgorio ceisiau da. Felly, mae llawer o bethau cadarnhaol i’w canmol.”