Neidio i'r prif gynnwys

Strange yn siomedig â’r diffyg hunanreolaeth yn erbyn Tîm Dan 20 Lloegr

Strange yn siomedig â’r diffyg hunanreolaeth yn erbyn Tîm Dan 20 Lloegr

Mae prif hyfforddwr Tîm Dan 20 Cymru, Jason Strange, wedi dweud mai diffyg hunanreolaeth oedd y prif wahaniaeth, ar ôl i Loegr hawlio buddugoliaeth gyda sgôr o 34-22 yn erbyn y Cymry ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn Tbilisi.

Rhannu:

Roedd tîm Cymru ar ei hôl hi o 21-3 tua diwedd yr hanner cyntaf ond llwyddodd y chwaraewyr i daro’n ôl, diolch i gais gan Kieron Assiratti, gan barhau i frwydo’n ôl yn yr ail hanner. Aeth y sgôr yn 24-17, ac roedd y Cymry yn pwyso am drydydd cais i ddod â’r gêm yn gyfartal pan wnaethant fethu â throi’r pwysau yn bwyntiau. Yna dangosodd y Saeson mor glinigol y maent yn gallu bod, wrth iddynt wibio i lawr y cae a hawlio pedwerydd cais yn sydyn i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Meddai Strange: “Oherwydd ambell gamgymeriad unigol yn yr hanner cyntaf fe gollon ni lawer o feddiant, a rhaid rhoi pob clod i Loegr – roedd y chwaraewyr yn symud y bêl yn gyflym iawn ac yn ymosod yn dda. Ond roeddwn i’n teimlo bod agwedd benderfynol a dycnwch ein chwaraewyr ychydig cyn hanner amser yn wych.

“Roeddem yn eithaf hyderus adeg hanner amser – dim ond dwy sgôr oedd ynddi a byddai gennym awel dda y tu ôl i ni yn yr ail hanner. Roedd ein strwythurau yn gweithio’n dda, ac roedd ceisiau Lloegr wedi deillio o fethu un neu ddau dacl unigol ar ôl i ni golli’r bêl yn y dacl.

“Roedd ein sgrym a’n lein yn ardderchog yn erbyn pac cryf y Saeson, ac mae’r chwaraewyr yn haeddu pob clod am hynny. Pan oedd y sgôr yn 24-17 ar ôl 60 munud, daeth yr eiliad dyngedfennol pan gicion ni’r bêl i ffwrdd rai metrau o’r llinell gais.

“Roedd honno’n eiliad bwysig yn y gêm, oherwydd aeth Lloegr ymlaen i sgorio ym mhen arall y cae. Gallwn ddysgu llawer o’r gêm – sut i gadw hunanreolaeth a sut i wneud penderfyniadau ar adegau allweddol.

“Dyw’r sgôr derfynol ddim yn adlewyrchiad o ba mor agos oedd y gêm. Pe baem ni wedi sgorio nesaf pan oedd y sgôr yn 24-17, rwy’n credu mai ni fyddai wedi ennill y gêm oherwydd ein goruchafiaeth yn y safleoedd gosod.”

Nid yw’n bosibl mwyach i Gymru gyrraedd y rownd gynderfynol, ac yn lle hynny bydd y tîm yn chwarae yn y gemau ail gyfle er mwyn penderfynu ar ei safle yn y byd.
 
Ond yn gyntaf, rhaid i’r chwaraewyr herio Samoa yn eu gêm olaf yng Ngr?p A ddydd Iau (am 10am Amser Haf Prydain), yn Stadiwm Avchala yn Tbilisi unwaith eto.

Ychwanegodd Strange: “Bydd Samoa yn her anodd arall, ond yn her y gall y bechgyn edrych ymlaen ati. Roedd eu perfformiad yn dda iawn ar adegau, ac fe chwaraeon ni rygbi da iawn a sgorio ceisiau da. Felly, mae llawer o bethau cadarnhaol i’w canmol.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert